Matthew Daddario

actor a aned yn 1987

Actor o'r Unol Daleithiau yw Matthew Quincy Daddario (g. 1 Hydref 1987). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Alec Lightwood ar y rhaglen deledu Freeform Shadowhunters. Mae'n frawd i'r actores Alexandra Daddario.

Matthew Daddario
Matthew Daddario yn Wondercon 2016
Ganwyd1 Hydref 1987 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Indiana, Bloomington
  • Collegiate School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

Cafodd Daddario ei eni a'i fagu yn Efrog Newydd gan y cyfreithwyr Christina a Richard Daddario. Ei chwaer hun yw'r actores Alexandra Daddario ac mae ganddo chwaer iau, Catherine Daddario.

Mae Matthew Daddario o dras Eidalaidd, Gwyddelig, Hwngaraidd, Slofacaidd, Almaenig a Saesnig.

Aeth i Ysgol Collegiate cyn astudio busnes yn Indiana University Bloomington. Graddiodd Daddario o'r brifysgol yn 2010.

Gyrfa

Yn Mai 2015, cyhoeddwyd fod Daddario am portreadu Alec Lightwood ar y rhaglen deledu Freeform Shadowhunters, a seilwyd ar y gyfres llyfrau The Mortal Instruments gan Cassandra Clare. Cychwynodd y rhaglen ar Ionawr 12, 2016.[1]

Ffilmyddiaeth

Rolau ffilm
BlwyddynTeitlRolNodiadau
2012The DebutPeter HambleFfilm
2013Breathe InAaronFfilm
201336 SaintsSebastianFfilm
2013Delivery ManChanningFfilm
2014Growing Up and Other LiesPeterFfilm
2014When the Game Stands TallDanny LadouceurFfilm
2015Naomi and Ely's No Kiss ListGabrielFfilm
2016Cabin FeverJeffFfilm
2016The Last HuntMatthiasFfilm byr; hefyd yn cyfarwydd a cynhyrchydd gweithredol[2]
Rolau teledu
BlwyddynTeitlRolNodiadau
2016–presennol;ShadowhuntersAlec LightwoodPrif rol

Gwobrau ac enwebiadau

BlwyddynGwaith enwebwydGwobrCategoriCanlyniadRef
2016ShadowhuntersTeen Choice AwardsChoice TV: Seren NewyddEnillodd[3]
MTV Fandom AwardsPerthynas y Flwyddyn (rhannu hefoHarry Shum Jr.)Enwebwyd[4]
2017
Shadowhunters
Teen Choice Awards
Choice TV: Actor FfantasiEnwebwyd[5]
Choice TV: Perthynas (rhannu hefo Harry Shum Jr.)Enwebwyd[6]
Choice TV: 'Liplock' (rhannu hefo Harry Shum Jr.)Enwebwyd[7]
2018
Shadowhunters
Teen Choice Awards
Choice TV: Actor FfantasiEnillodd
Choice TV: Perthynas (rhannu hefo Harry Shum Jr.)Enwebwyd
TV Scoop Awards
Actor Drama GorauEnwebwyd
Cwpl Gorau (rhannu hefo Harry Shum Jr.)Enwebwyd

Cyfeiriadau