Nicole Kidman

actores a aned yn 1967

Actores Awstraliaidd yw Nicole Mary Kidman AC (ganed 20 Mehefin 1967).[1] Yn 2006, daeth Kidman yn un o'r actorion sy'n ennill y mwyaf yn y diwydiant ffilm.[2] Yn yr un flwyddyn, Kidman gwnaed Companion of the Order of Australia, anrhydedd fwyaf Awstralia i ddinasyddion. Yn swyddogol, hi yw un o actorion mwyaf llwyddiannus Awstralia.[3]

Nicole Kidman
GanwydNicole Mary Kidman Edit this on Wikidata
20 Mehefin 1967 Edit this on Wikidata
Honolulu Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstralia, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • North Sydney Girls High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, canwr, cynhyrchydd ffilm, actor teledu, model, actor ffilm, actor llais, diplomydd, cynhyrchydd Edit this on Wikidata
SwyddUNIFEM goodwill ambassador Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Taldra1.8 metr Edit this on Wikidata
TadAntony Kidman Edit this on Wikidata
MamJanelle Kidman Edit this on Wikidata
PriodTom Cruise, Keith Urban Edit this on Wikidata
PlantSunday Urban, Faith Urban, Connor Cruise Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Dinesydd y Byd, Sergio Vieira de Mello, Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - mewn Drama Gerdd neu Gomedi ar Ffilm, Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - mewn Drama Gerdd neu Gomedi ar Ffilm, Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - Drama ar Ffilm, Gwobr y Golden Globe am Actores Orau – Cyfres Fer neu Ffilm Deledu, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr Primetime Emmy ar gyfer Prif Actores Eithriadol mewn Cyfres Bitw neu Ffilm, Gwobr y Screen Actors Guild am Berfformiad Arbennig i Actores mewn Cyfres Fer neu Ffilm, Cydymaith Urdd Awstralia, Gwobr Primetime Emmy ar gyfer Prif Actores Eithriadol mewn Cyfres Bitw neu Ffilm, Trysor byw genedlaethol Awstraliaid, Gwobr Crystal, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - Drama ar Ffilm, Gwobr Theatr yr Evening Standard am yr Actores Orau, Gwobr Time 100 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://nicolekidmanofficial.com/ Edit this on Wikidata

Ar ôl sawl ymddangosiad mewn ffilm a theledu, daeth Kidman i amlygrwydd yn y ffilm ddrama gyffrous Dead Calm (1989). Mae ei pherfformiadau mewn ffilmiu megis To Die For (1995), Moulin Rouge! (2001), a The Hours (2002), wedi ennill llawer o feirniadaeth gymeradwyol. Derbyniodd Kidman seren ar y Walk of Fame yn Hollywood, Califfornia, yn 2003. Mae Kidman hefyd yn Lysgennad Ewyllys Da UNIFEM a UNICEF, ac yn gantores. Mae hefyd yn adnabyddus oherwydd ei chyn briodas â Tom Cruise a'i phiodas presennol i'r cerddor Keith Urban. Oherwydd iddi gael ei geni i rieni Awstraliaidd yn Honolulu, Hawaii, mae ganddi ddinasyddiaeth ddeuol rhwng Awstraia a'r Unol Daleithiau.

Ffilmiau

BlwyddynTeitlRôlNodiadau
1983BMX BanditsJudy
Bush ChristmasHelen
Five Mile CreekAnnieCyfres deledu
Skin DeepSheena HendersonFfilm deledu
Chase Through the NightPetraFfilm deledu
1984Matthew and SonBridget ElliotFfilm deledu
Wills & BurkeJulia Matthews
1985Archer's AdventureCatherineFfilm teledu
WinnersCarol TrigCyfres deledu - pennod 1
1986WindriderJade
1987Watch the Shadows DanceAmy Gabriel
The Bit PartMary McAllister
Room to MoveCarol TrigCyfres deledu fer
An Australian in RomeJillFfilm deledu
VietnamMegan GoddardCyfres deledu fer
1988Emerald CityHelenNomineiddwyd - Australian Film Institute - Actores Gefnogol Gorau
1989Dead CalmRae Ingram
Bangkok HiltonKatrina StantonCyfres deledu fer
1990Days of ThunderDr. Claire Lewicki
1991FlirtingNicola
Billy BathgateDrew PrestonEnwebwyd - Golden Globe - Actores Gefnogol Orau
1992Far and AwayShannon Christie
1993MaliceTracy Kennsinger
My LifeGail Jones
1995To Die ForSuzanne Stone MarettoEnwebwyd -Gwobr BAFTA Award - Actores Orau, Golden Globe - Actores Gomedi/Gerddorol Gorau
Batman ForeverDr. Chase Meridian
1996
The Portrait of a LadyIsabel Archer
1997The PeacemakerDr. Julia Kelly
1998Practical MagicGillian Owens
1999Eyes Wide ShutAlice Harford
2001Moulin Rouge!SatineGwobr Academi - Actores Orau, Golden Globe - Actores Gomedi/Gerddorol Gorau
The OthersGrace StewartEnwebwyd am Wobr BAFTA Actores Orau
Enwebwyd Golden Globe - Actores Ddrama Gorau
Birthday GirlSophia/Nadia
2002The HoursVirginia WoolfGwobr Academi - Actores Orau, Gwobr BAFTA - Actores Orau, Gwobr Golden Globe - Actores Drama Gorau
Panic RoomSteven's GirlfriendDim credyd - llais
2003DogvilleGrace Margaret Mulligan
The Human StainFaunia Farley
Cold MountainAda Monroeenwebiad Golden Globe - Actores Orau mewn Drama
2004The Stepford WivesJoanna Eberhart
BirthAnnaNomineiddwyd - Golden Globe - Actores Drama Gorau
2005The InterpreterSilvia Broome
BewitchedIsabel Bigelow/SamanthaWorst Screen Couple Razzie
2006FurDiane Arbus
Happy FeetNorma Jeanllais
2007The InvasionCarol Bennell
Margot at the WeddingMargot
The Golden CompassMarisa Coulter
2008AustraliaLady Sarah Ashleyôl-gynhyrchu
2009Untitled Dusty Springfield ProjectDusty Springfieldôl-gynhyrchu

Discograffi

  • "Come What May" sengl (Deuawd gyda Ewan McGregor - Hydref 2001) AUS #10, UK #27
  • "Somethin' Stupid" sengl (Deuawd gyda Robbie Williams - Rhagfyr 2001) AWS #8, y DU #1
  • "Kiss" / "Heartbreak Hotel" - Nicole Kidman / Hugh Jackman - Tachwedd 2006 (Trac sain Happy Feet)

Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am Awstraliad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.