Os ac yn unig os

↔⇔≡⟺
Symbolau rhesymegol i gynrychioli os yw

Mewn rhesymeg a meysydd eraill e.e. Mathemateg a athroniaeth, mae os a dim ond os (a dalfyrir yn os yw (Saesneg: iff) yn ddywediad amodol, rhesymegol rhwng gosodiadau.[1] Mae angen i'r ddau osodiad o amgylch y cymal hwn fodloni ei gilydd. Hynny yw, mae angen i'r ddau gymnal fod yn gywir; os yw'r naill neu llall yn anwir (anghywir) yna mae'r frawddeg gyfan yn anwir.

Y gwahaniaeth rhwng "os" a "dim ond os"

1. Mi fwytith Sioned ffrwyth os yw'n afal.
Mae hyn yn hafal i:

"Dim ond os yw Sioned yn bwyta ffrwyth, yna afal fydd e"; neu
"Bydd Sioned yn bwyta ffrwyth ffrwyth yn afal.

Nid yw'r datganiad yma'n dweud na fydd Sioned yn bwyta ffrwythau eraill, ar wahân i afalau.

2. "Mi fwyteith Sioned ffrwyth dim ond os yw'n afal."
Mae hyn yn hafal i:

"Os yw Sioned yn bwyta ffrwyth, yna afal yw e." neu
Mi fwytith Sioned y ffrwyth ffrwyth yn afal.

Mae'r datganiad yma'n dweud mai'r unig ffrwyth y bwyteith Sioned yw afal.<br /

3. "Mi fwyteith Sioned ffrwyth os a dim ond os yw'n afal."
Mae hyn yn hafal i:

"Bydd Sioned yn bwyta pob afal, a dim ond afalau."

Mae'r datganiad yma'n dweud na fydd yn gadael ffrwythau heb eu bwyta ac ni fydd yn bwyta unrhyw fath arall o ffrwythau.

Diffiniad

Tabl gwirionedd o P Q yw'r canlynol:[2][3]

Tabl Gwirionedd
PQP QP QP  Q
TTTTT
TFFTF
FTTFF
FFTTT

Mae hyn yn hafal i 'r Giat XNOR, a gellir ei gyferbynnu gyda Giat XOR.

Nodiant

Y symbolau yw "↔", " ", a "≡", ac weithiau "iff".

Mewn TeX "dangosir os a dim ond os" gyda saeth ddwbwl: drwy'r gorchymyn \iff.

Cyfeiriadau