Paro, Bhutan

Mae Paro yn dref ac yn rhanbarth (dzongkhag) ym Mhwtan. Saif yn Nyffryn Paro, ar lan yr afon o'r un enw. Paro yw safle yr unig faes awyr rhyngwladol ym Mhwtan. Ymhlith y mannau o ddiddordeb o gwmpas y dref mae:

  • Taktshang, neu Nyth y Teigr, y fynachlog enwocaf ym Mhwtan
  • Kyichu Lhakhang, gyda Jambay Lhakhang yng nghanolbarth Bhwtan, y deml hynaf yn y wlad, yn dyddio o'r 7g
  • Rinpung Dzong, neu Paro Dzong, caer a mynachlog sydd hefyd yn ganolfan weinyddol y dzonkhag. Ffilmiwyd rhan o'r ffilm Little Buddha o gwmpas y dzong yma.
Tref Paro


  • Amgueddfa Genedlaethol Bhwtan