Pedwarawd Amadeus

Pedwarawd llinynnol Prydeinig oedd Pedwarawd Amadeus (Saesneg: Amadeus Quartet).

Pedwarawd Amadeus, o'r chwith i'r dde: Martin Lovett, Norbert Brainin, Siegmund Nissel, Peter Schidlof.

Roedd tri o'i aelodau, Norbert Brainin (feiolinydd cyntaf), Siegmund Nissel (ail feiolinydd) a Peter Schidlof (fiolydd), yn ffoaduriaid Iddewig ifainc o Fienna a fu'n cyfarfu â'i gilydd mewn gwersyll caethiwo ar Ynys Manaw. Ffurfiodd y pedwarawd ym 1947 gyda'r sielydd Martin Lovett, a pherfformiodd yn gyhoeddus yn gyntaf yn Llundain ar 10 Ionawr 1948. Daeth y pedwarawd i ben yn sgil marwolaeth Schidlof ym 1987.

Daeth enw'r pedwarawd o enw canol Wolfgang Amadeus Mozart. Rhoddwyd hefyd yr enw the Wolf Gang ar y grŵp.[1] Recordiodd tua 200 o berfformiadau, gan gynnwys holl bedwarawdau Mozart, Ludwig van Beethoven a Johannes Brahms.[2]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol