Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

prifysgol yng Nghymru
(Ailgyfeiriad o Prifysgol Glyndŵr)

Prifysgol yn Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Prifysgol Glyndŵr Wrecsam (Saesneg: Glyndŵr University). Yn cael ei hadnabod cynt fel NEWI (North East Wales Institute of Higher Education), derbyniodd statws prifysgol ar 3 Gorffennaf 2008 ar ôl bod yn aelod o Brifysgol Cymru ers 2003. Cafwyd seremoni i gyhoeddi'r brifysgol newydd yn swyddogol ar 18 Gorffennaf gyda Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, yn ei llywio ac yn derbyn gradd er anrhydedd gyntaf y brifysgol.[2] Enwir y brifysgol ar ôl Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru, a fwriadai sefydlu dwy brifysgol yng Nghymru, un yn y Gogledd a'r llall yn y De, ar ddechrau'r 15g.

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Sefydlwyd2008
(1887, fel Ysgol Gwyddoniaeth a Chelf Wrecsam)
CanghellorColin Jackson
Is-ganghellorMichael Scott
Myfyrwyr7,410 (2005/2006)[1]
Israddedigion6,840[1]
Ôlraddedigion435[1]
Myfyrwyr eraill135[1]
LleoliadWrecsam, Baner Cymru Cymru
CampwsTrefol
TadogaethauPrifysgol Cymru
Gwefanwww.glyndwr.ac.uk/cy/

Mae Prifysgol Glyn Dŵr bellach wedi gadael Prifysgol Cymru ac yn dyfarnu ei graddau ei hun. Mae'r Brifysgol yn cynnig cyrsiau gradd ac ôl-radd. Yr Is-Ganghellor yw'r Athro Michael Scott. Mae gan y brifysgol tua 8,000 o fyfyrwyr llawn-amser gyda 350 ohonyn nhw yn dod o wledydd tramor.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Wrecsam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am brifysgol neu addysg uwch. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.