Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf
Mae Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf yn rheilffordd dreftadaeth, 22.75-mile (36.6 km) o hyd yng Ngwlad yr Haf, y rheilffordd dreftadaeth hiraf yn Lloegr. Perchennog y lein a'r gorsafoedd yw Cyngor Gwlad yr Haf, sydd wedi eu llogi nhw i Gwmni Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf cyf, sy'n gweithredu'r lein efo cefnogaeth Cymdeithas Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf.
Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Legend | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Hanes
Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf
Cynhaliwyd cyfarfod yng Ngwesty Egremont, Williton ar 9 Gorffennaf 1856 i drafod rheilffordd rhwng Williton a Rheilffordd Bryste a Chaerwysg. Ystyriwyd twnnel trwy'r Bryniau Quantock, efallai i Bridgwater; ond awgrymodd Isambard Kingdom Brunel y buasai'r twnnel yn ddrud, ac awgrymodd reilffordd yn dilyn Nant Donibrook ac yn cysylltu â Rheilffordd Bryste a Chaerwysg yn Taunton. Cytunwyd ar derminws gogleddol yn Watchet. Trefnwyd arolwg gan Brunel, a phasiwyd deddf ar 17 Awst 1857, yn creu Cwmni Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf i adeiladu rheilffordd 14 milltir hyd at Watchet. Cyheoddwyd prospectws, yn disgwyl cludiant glo i Taunton a theithwyr i Dde Cymru. Dechreuodd y gwaith adeiladu ar 10 Ebrill 1859.[1] Lled y traciau oedd 7 troedfedd, yr un maint â Rheilffordd y Great Western ar y pryd. Agorwyd y rheilffordd o Norton Fitzwarren, ei cyffordd efo Rheilffordd y Great Western, a Watchet ym 1862. Trefnwyd y gwasanaethau trên gan y Great Western o'r cychwyn.[2]
Rheilffordd Minehead
Ym 1874 Pasiwyd deddf i adeiladu rheilffordd rhwng Watchet a Minehead.[3] Agorwyd rheilffordd rhwng Watchet a Minehead ar 16 Gorffennaf 1874.[2][4]
Yn ystod ac ar ôl cyfnod Rheilffordd y Great Western
Daeth y 2 reilffyrdd yn rhan o Reilffordd y Great Western ym 1897. Gwladwyd y rheilffyrdd ym 1948. Caewyd y lein gan Reilffyrdd Prydeinig ym 1971.[2]
Atgyfodi
Dechreuodd gwasanaethau'r reilffordd dreftadaeth ym 1976 rhwng Minehead a Blue Anchor, a hyd at Williton yr un flyddyn[2]. Erbyn hyn mae trenau'n rhwng Minehead a Bishops Lydeard rhwng mis Chwefror a mis Tachwedd, yn cario mwy na 200,000 o deithwyr yn flynyddol. Weithiau, ers 1 Mawrth 2009, mae trenau wedi mynd mynd o Bishop's Lydeard i Norton Fitzwarren.[5]
Mae Canolfan ymwelwyr yn Bishops Lydeard, amgueddfa'r Rheilffordd Gwlad yr Haf a Dorset yn Williton ac amgueddfa Rheilffordd y Great Western yn Blue Anchor[6].
Locomotifau
Locomotifau stêm
GWR Dosbarth Manor 7828 'Norton Manor'
Cynllun Collett. Adeiladwyd yn Swindon ym 1950, efo'r enw 'Odney Manor'. Gwerthwyd i Iard sgrap Dai Woodham yn Y Barri. Aeth i Reilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn yn 90au, ac wedyn prynwyd y locomotif gan Reilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf. Ailenwyd 'Norton Manor' ar ôl pencadlyd 40 Comando yn Norton Fitzwarren.
GWR Dosbarth Manor 7820 'Dinmore Manor'
Adeiladwyd yn Swindon ym 1950. Prynwyd o Reilffordd Gwili. Atgyweirir yn Tyseley.
GWR Dosbarth Manor 7821 'Ditcheat Manor'
Mae angen atgyweirio; arddangosir yn Amgueddfa STEAM, Swindon.
Rheilffordd Gwlad yr Haf a Dorset dosbarth 7F 2-8-0 rhif 88
Adeiladwyd gan Robert Stephenson a'i Feibion ym 1925, a chafodd rif 53808 yng Nghyfnod Reilffyrdd Prydeinig. Aeth i Iard sgrap Dai Woodham ym 1963. Prynwyd gan Ymddiriodolaeth Rheilffordd Gwlad yr Haf a Dorset yn y 60au.
2-6-0 9351
Cynlluniwyd y dosbarth yn 30au, ond heb eu adeiladu. Penderfynwyd gan y rheilffordd i greu un o locomotif arall, 'Prairie Mawr' rhif 5193.
Dosbarth 2884 GWR 8F 2-8-0 rhif 3850
Addasiad Charles Collett o gynllun George Churchward, adeiladwyd yn Swindon ym 1942.Treuliodd 20 mlynedd yn Iard sgrap Dai Woodham cyn cyrraedd y rheilffordd yn y 80au.
Dosbarth 2884 GWR 8F 2-8-0 rhif 2874
Mewn storfa, yn disgwyl am atgyweiriad.
Dosbarth 2884 GWR 8F 2-8-0 rhif 2850
Yn cael atgyweiriad yn Toddington.
Dosbarth 2884 GWR 8F 2-8-0 rhif 3845
Mewn storfa, yn disgwyl am atgyweiriad.
Dosbarth 5101 GWR 'Prairie mawr' 2-6-2T 4160
Adeiladwyd ym 1948 yn Swindon. Daeth i'r rheilffordd yn y 90au.
0-4-0ST 1788 'Kilmersdon'
Adeiladwyd gan gwmni Peckett ym Mryste ym 1929. Gweithiodd yng Nglofa Kilmersdon yng Ngwlad yr Haf. Cedwir yn Washford.
Dosbarth 'Hall' 4-6-0 6960 'Raveningham Hall'
Gweithredol.
Dosbarth 4500 GWR 'Prairie bach' 2-6-2T 4561
Cynllun Churchward. Yn disgwyl am atgyweiriad yn Williton.[7]
Locomotifau diesel
Dosbarth 52 D1010 'Western Campaigner'
Un o 74 o'r dosbarth, dyfneddiwyd ar drenau cyflym i deithwyr ac ar drenau'n cario meini o'r Bryniau Mendip.
Dosbarth 35 'Hymek' D7017 a 7018
Dau o'r 101 adeiladwyd gan Gwmni Beyer Peacock ym Manceinion. Atgyweirir yn Williton.
Dosbarth 14 'Teddy Bear' D8526
Adeiladwyd i gymryd lle'r locomotifau llai'r rheilffordd. Aeth rhai ohonynt i cwmniau breifat, yn achos D8526 i Sment Blue Circle yn Westbury.
Dosbarth 33 'Crompton' D6566 a D6575
Dau o 'r 98 adeiladwyd gan Gwmni Cerbyn a Wagen Birmingham.
Dosbarth 47 D1661 'North Star'
Adeiladwyd 512 o'r dosbarth yng Ngwaith Cryw a ffatri Brush yn Loughborough rhwng 1962 a 1968. Yn ddiweddaraf, daeth o'n rhif 47840.
Dosbarth 03 D2133
Locomotifau bychain oeddent, ar gyfer cledrau ysgafn neu grwm. Gweithiodd D2133 yn Taunton ac wedyn prynwyd gan British Cellophane ar gyfer eu rheilffyrdd preifat yn y dref. Rhoddwyd i reilffordd Gorllewin Gwlad yr haf pan caewyd leiniau'r cwmni. Defnyddir ym Minehead.
Dosbarth 09 0-6-0 rhif 09 019
Roedd 26 o'r dosbarth.
0-4-0 Loconotif Sentinel DH16
Adeiladwyd 18 ohonynt gan Gwmni Sentinel ar gyfer Cwmni Camlas Llongau Manceinion, lle gweithiodd DH16 hyd at 1971. Cyrhaeddodd y rheilffordd yn Awst 2001.
0-6-0 rhifau 1 a 2
Adeiladwyd gan Gwmni Andrew Barclay yn Kilmarnock ar gyfer ffatri ordnans yn Bridgwater ym 1962. Cyrhaeddent y rheilffordd ym 1994.[8]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- Gwefan y rheilffordd Archifwyd 2016-11-02 yn y Peiriant Wayback.