Siaco

Het silindrig â phig yw siaco (lluosog: siacos)[1] (o'r Hwngareg: csákós süveg, sef "cap â phig") neu cap pluog (ll: capiau pluog).[1] Fe'i arddunir gyda phlu, pluen fer neu pompon, a bathodyn cap. Ers i hwsariaid Hwngaraidd y 18g ei wisgo, mae'r siaco wedi ffurfio rhan o wisgoedd milwrol nifer o wledydd yn y ddwy ganrif ddiwethaf.

Siaco Llynges Ffrainc, tua 1829.

Fe'i wisgir yn y Fyddin Brydeinig rhwng 1800 a 1878.[2] Dyluniodd Albert, y Tywysog Cydweddog het silindrig â phigau ar y blaen a'r cefn a elwir yn siaco Albert. Gwisgodd troedfilwyr, y Magnelau Brenhinol, a'r Peirianwyr Brenhinol y siaco hwn o 1844 hyd 1855.[3]

Cyfeiriadau

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: