Siart llinell

Mae siart llinell neu 'graff llinell' yn fath o siart sy'n dangos gwybodaeth fel cyfres o bwyntiau data o'r enw 'marcwyr', sy'n cysylltu segmentau neu rannau o linell.

Enghraifft o siart llinell.

Dyma'r math symlaf a mwyaf sylfaenol o'r holl siartiau a geir, ac fe'i defnyddir mewn sawl maes. Defnyddir siart llinell yn aml i weld tueddiad mewn data dros gyfnod o amser - a elwir yn 'gyfres amser' - felly mae'r linell yn aml yn cael ei thynnu'n gronolegol. Yn yr achosion hyn fe'u gelwir yn "siartiau rhedeg".[1][2]

Credir mai Francis Hauksbee (1660–1713), Nicolaus Samuel Cruquius (1678–1754), Johann Heinrich Lambert (1728–1777) a William Playfair (1759–1823) a ddefnyddiodd y siart llinell gyntaf.[3]

Enghraifft

Yn y gwyddorau arbrofol, mae'r data a gesglir o arbrofion yn aml yn cael ei arddangos ar ffurf graff. Er enghraifft, pe gesglid data ar gyflymder cerbyd ar adegau penodol, gellid arddangos y data fel hyn:

Enghraifft o siart llinell: cyflymder (milltir y fetr) ar echel-y ac amser ar echel-x.
Treigliad amser (eil. neu s)Cyflymder (m s−1)
00
13
27
312
420
530
645.6

Mae'r tabl yma'n dangos yn effeithiol yr union werthoedd, ond gall fod yn ffordd aneffeithiol o ddeall y patrymau sylfaenol y mae'r gwerthoedd hynny'n eu cynrychioli.

Cynorthwyir y broses a ddisgrifir gan y data yn y tabl trwy gynhyrchu graff neu siart llinell o Gyflymder yn erbyn Amser. Mae delweddu o'r fath yn ymddangos yn y ffigur i'r dde.

Yn fathemategol, os ydym yn dynodi amser gan y newidyn , a chyflymder trwy , yna byddai'r ffwythiant sy'n cael ei blotio yn y graff yn cael ei ddynodi sy'n nodi bod (y newidyn dibynnol) yn ffwythiant o .

Cyfeiriadau