Sinhaleg

iaith

Iaith Indo-Ariaidd yw Sinhaleg neu Sinhala (සිංහල) a siaredir yn bennaf gan y Sinhaliaid yn Sri Lanca. Ysgrifennir yr iaith yn yr wyddor Sinhaleg, sef ffurf ar yr wyddor Frahmig, a ddarllener o'r chwith i'r dde.

Sinhaleg
Enghraifft o'r canlynoliaith naturiol, iaith fyw Edit this on Wikidata
MathInsular Indo-Aryan Edit this on Wikidata
Enw brodorolසිංහල භාෂාව Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 15,300,000 (2019)[1]
  • cod ISO 639-1si Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-2sin Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3sin Edit this on Wikidata
    GwladwriaethSri Lanca Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuSinhala Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

    Dygwyd iaith lafar y Prakrit i Sri Lanca yn y 5g CC mae'n debyg, gan ymfudwyr o ogledd India. Datblygodd y Sinhaleg felly ymhell o'r ieithoedd Indo-Ariaidd eraill yng ngogledd India, a daeth i gynnwys nifer fawr o fenthyceiriau o'r ieithoedd Drafidaidd, yn enwedig Tamileg, prif iaith arall Sri Lanca. Mae'r arysgrifau cynharaf yn yr iaith, mewn llythrennau Brahmig ar garreg, yn dyddio oddeutu 200 CC.[2]

    Prif dafodieithoedd y Sinhaleg yw iaith y cefn gwlad, iaith yr iseldiroedd, a Sinhaleg Jaffna yn y gogledd. Sinhaleg a Thamileg ydy dwy iaith swyddogol Sri Lanca.

    Cyfeiriadau