Symptom

Arwydd o afiechyd ydy symptom. Daw'r gair o'r iaith Roeg σύμπτωμα sef "damwain ac aflwydd ar berson".[1] Gall y symptom ymwneud ag unrhyw beth gwahanol i'r arfer: arwydd gweledol neu deimlad gwahanol i'r arfer, gan y claf, sy'n arwydd o afiechyd neu haint. Er enghraifft, un o'r symptomau cynharaf o lid y freithell (meningitis) ydy cur pen.

Tystiolaeth oddrychol o glefyd fel y canfyddir gan glaf yw symptom, ac felly mae'n wahanol i arwydd meddygol sef tystiolaeth wrthrychol a ddarganfyddir gan feddyg.[2]

Enghreifftiau

Nid ydy'r rhestr ganlynol yn gynhwysfawr. Mae'r rhifau mewn cromfachau'n cyfeirio at godau ICD-10.

Cyffredinol

colli pwysau (R63.4), colli awch bwyd (R63.0), rhoi pwysau (R63.5), ceg sych (R68.2), blinder (R53), cyhyrau'n gwanhau (M62.8), clefyd melyn (jaundice) (M62.8), poen yn y bol (R10), poen yn y frest (R07), cleisio, anafiadau (R25.1), tyndra’r cyhyrau (cramp) (R25.2), sŵn yn y glust (tinnitus) (H93.1), y bendro (R42), oerfel (ar berson) (hypothermia) (T68), gorboethi (hyperthermia) T670), gwaedu, chwydd, chwysu, cryndod (rigor)

Niwrolegol a seicolegol

acroffobia, gordynydra (anxiety), hunan-anafu (self harm), iselder ysbryd, rhith-weld (hallucinations), cur pen, diffyg cwsg (F51.0, G47.0), y parlys (paralysis), ffobia, tic

Y golwg

golwg dwbwl (H53.2), golwg niwlog (blured vision)

Y stumog a'r perfedd

anorecsia (R63.0), chwydd y boten (neu bola chwyddo) (R63.0), torri gwynt (R14), troeth-waedu (melena) (K92.1), rhwymedd (constipation) (K59.0), dolur rhydd (diarrhea) (A09, K58, K59.1), diffyg traul (K30), gwynt (flatulence) (R14), teimlo fel chwydu (nausea) (R11), dŵr poeth (pyrosis) (R12), chwydu (R11)

Cardiofasgwlaidd

poen yn y frest (R07), gorguro'r galon (palpitations) (R00.2), chwimguro'r galon (tachycardia) (R00.0), tan-guro'r galon (bradycardia) (R00.1)

Wroleg (urology)

tostedd (dysuria) (R30.0)

Yr ysgyfaint

goranadlu (hyperventilation), tananadlu (hypoventilation), peswch

Pilynnol (Integumentary)

crafiadau (abrasions), swigen (meddygol) (T14.0), cosi (meddygol) (L29), brech (R21)

Obstetreg a gynecolegol

anffrwythlondeb, poenau geni

Cyfeiriadau