Tegeirian y fign galchog

Liparis loeselii
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Plantae
Ddim wedi'i restru:Angiosbermau
Ddim wedi'i restru:Ewdicotau
Ddim wedi'i restru:Rosidau
Urdd:Asparagales
Teulu:Orchidaceae
Genws:Liparis (Orchis)
Rhywogaeth:L. usitatissimum
Enw deuenwol
Liparis loeselii
Carl Linnaeus

Fel yr awgryma'r enw, math o degeirian yw Tegeirian y fign galchog (Lladin: Liparis loeselii), sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Orchidaceae. Yr enw Saesneg arno yw Fen orchid.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Gefell-lys y Fignen, Gefell-lys Dwy-ddalenog, Tegeirian Tywodlyd a Thegeirian y Fign. Enw'r genws yw'r Orchis, sy'n tarddu o Hen Roeg ὄρχις (órkhis), sy'n golygu caill; mae hyn yn cyfeirio at gloron deuol rhai tegeirianau.[2]

Mae'n blanhigyn blodeuol nodedig ac yn hynod o brin. Cafodd ei ddarganfon yng Ngorffennaf 2022 yn Nhwyni Talacharn – Pentywyn, a hynny am y tro cyntaf ers bron i 20 mlynedd. Mae hyn yn dilyn rheoli cadwriaethol gan y prosiect 'Twyni Byw' a arweinir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Bachgen 11 oed o'r enw Tristan Moss ddaeth o hyd i’r fign galchog.[3]


Dolen allanol

Cyfeiriadau

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: