The West Wing


Mae The West Wing yn gyfres ddrama Americanaidd ar gyfer y teledu, ac a grëwyd gan Aaron Sorkin. Fe'i darlledwyd yn wreiddiol rhwng 22 Medi 1999 a 14 Mai 2006 ar NBC. Lleolwyd y gyfres wleidyddol ei naws, yn bennaf, yn yr adain orllewinol o'r Tŷ Gwyn lle saif y Swyddfa Hirgrwn a swyddfeydd staff hŷn yr arlywydd ffuglennol Josiah Bartlet (a chwaraewyd gan Martin Sheen) yn ystod ei weinyddiaeth Ddemocrataidd.

The West Wing
GenreDrama wleidyddol
Crëwyd ganAaron Sorkin
SerennuRob Lowe
Alan Alda
Stockard Channing
Kristin Chenoweth
Dulé Hill
Allison Janney
Moira Kelly
Joshua Malina
Mary McCormack
Janel Moloney
Richard Schiff
John Spencer
Bradley Whitford
Jimmy Smits
Martin Sheen
Gwlad/gwladwriaethYr Unol Daleithiau
Iaith/ieithoeddSaesneg
Nifer cyfresi7
Nifer penodau156[1]
Cynhyrchiad
Amser rhedeg42 munud
Darllediad
Sianel wreiddiolNBC
Rhediad cyntaf yn22 Medi 1999 - 14 Mai 2006

Cynhyrchiwyd The West Wing gan Warner Bros. Television. Ar gyfer y pedair cyfres gyntaf, yr oedd tri uwch gynhyrchydd: Aaron Sorkin (a ysgrifennodd y rhan fwyaf o'r pedair cyfres gyntaf); Thomas Schlamme (prif olygydd); a John Wells. Ar ôl i Sorkin adael y gyfres, daeth Wells yn brif ysgrifennwr, gyda chyfarwyddwyr Alex Graves a Christopher Misiano (cyfresi 6-7), ac ysgrifenwyr Lawrence O'Donnell Jr. a Peter Noah (cyfres 7) yn troi'n uwch gynhyrchwyr.

Darlledwyd y gyfres am y tro cyntaf ar NBC yn 1999, ac y mae wedi cael ei darlledu ar nifer o sianeli mewn gwledydd eraill. Daeth y gyfres i ben ar 14 Mai, 2006 ar ôl saith cyfres.[2]

Cyfeiriadau