Tipper Gore
Awdures Americanaidd yw Tipper Gore (ganwyd 19 Awst 1948) sy'n lladmerydd ar faterion llosg y dydd, yn ffotograffydd ac yn wleidydd.
Tipper Gore | |
---|---|
Ganwyd | Mary Elizabeth Aitcheson 19 Awst 1948 Washington |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, ffotograffydd, gwleidydd, seicolegydd |
Swydd | Is-Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | John Kenneth (Jack) Aitcheson, Jr. |
Mam | Margaret Ann Odom Aitcheson |
Priod | Al Gore |
Plant | Karenna Gore Schiff, Kristin Gore, Albert Arnold Gore III, Sarah Gore |
Gwefan | http://tippergore.com/ |
Ganed Mary Elizabeth "Tipper" Gore (née Aitcheson) yn Washington ar 19 Awst 1948. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Boston ac yna Coleg Peabody, Tennessee. Priododd Al Gore a fu'n Ddirprwy Arlywydd Unol Daleithiau America ac mae Karenna a Kristin yn blant iddi; gwahanodd Tipper ac Al yn 2010. Mae'n gymarol wleidyddol ei natur, ac yn aelod o'r Blaid Ddemocrataidd.[1]
Yn 1985, cyd-sefydlodd Gore y Parent Music Resource Centre (PMRC), a oedd yn argymell labelu cloriau recordiau a oedd yn cynnwys yn fudur a rhagfeydd, yn enwedig yn y genres metel trwm, pync a hip hop. Drwy gydol ei degawdau o fywyd cyhoeddus, mae hi wedi eiriol dros sensoriaeth, ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, achosion menywod, achosion plant, hawliau LGBT a lleihau digartrefedd.[2][3]
Magwraeth
Mae Mary Elizabeth yn ferch John Kenneth "Jack" Aitcheson, Jr, entrepreneur cyflenwi offer plymio a pherchennog Cyflenwad J & H Aitcheson Plumbing Supply, a'i wraig gyntaf, Margaret Ann (née. Carlson) Odom (a gollodd ei gŵr cyntaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd). Derbyniodd y llysenw "Tipper" gan ei mam, o hwiangerdd. Magwyd Gore yn Arlington, Virginia. Magodd ei mam a'i mam-gu hi ar ôl i'w rhieni ysgaru.[4][5]
Mynychodd St. Agnes, ysgol Esgobol breifat yn Alexandria, Virginia, lle bu'n chwarae pêl-fasged, pêl feddal, a hoci maes a chwaraeodd y drymiau ar gyfer band benywaidd o'r enw The Wildcats.[4]
Cyfarfu ag Al Gore yn nawns blwyddyn olaf Al Gore, ym 1965.[6] Pan ddechreuodd Al Gore fynychu Prifysgol Harvard, cofrestrodd Tipper yng Ngholeg Iau Garland (sydd bellach yn rhan o Goleg Simmons) ac yn ddiweddarach trosglwyddodd i Brifysgol Boston, gan dderbyn ei B.A. mewn seicoleg yn 1970. Ar Fai 19, 1970, priododd hi a Gore yn Eglwys Gadeiriol Genedlaethol Washington.[7][8]
Cwbwlhaod radd meistr mewn seicoleg o Goleg George Peabody, Prifysgol Vanderbilt yn 1975.[9][10][10][11]
Gyrfa
Gweithiodd Gore yn rhan-amser fel ffotograffydd papur newydd ar gyfer The Tennessean yn Nashville a pharhaodd fel ffotograffydd llawrydd yn Washington ar ôl i'w gŵr gael ei ethol i'r Gyngres U. ym 1976.[10][12]