Tir amaethyddol

Tir a ddefnyddir at ddiben cynhyrchiad amaethyddol, gan gynnwys cnydau a da byw, yw tir amaethyddol. Gellir dosbarthu tir amaethyddol i'r mathau canlynol:

  • Tir âr — tir a ddefnyddir i dyfu cnydau blynyddol, megis grawnfwydydd, cotwm, a llysiau.
  • Perllannau a gwinllannau — tir a ddefnyddir i dyfu cnydau parhaol, megis ffrwythau a phlanhigfeydd.
  • Dolydd a phorfeydd — tir â gweiriau naturiol a ddefnyddir i dda byw bori.
Eginyn erthygl sydd uchod am amaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.