Trenau Arriva Cymru

Roedd Trenau Arriva Cymru (Saesneg: Arriva Trains Wales) yn gwmni a oedd yn gweithredu trenau yng Nghymru a'r gororau, ac yn berchen i Arriva UK Trains. Roedd yn rhedeg gwasanaethau trefol a rhyng-drefol i bob orsaf reilffordd yng Nghymru, yn cynnwys Caerdydd Canolog, Heol y Frenhines, Caerdydd, Casnewydd, Abertawe, Wrecsam, a Chaergybi, a rhai gorsafoedd yn Lloegr fel Henffordd, Amwythig, Caer, Piccadilly Manceinion, New Street Birmingham. Yng Ngogledd Cymru, mae Virgin Trains yn gweithredu trenau o Lundain i Gaergybi, ac yn Ne Cymru, mae First Great Western yn gweithredu trenau o Lundain i Abertawe, a Harbwr Portsmouth i Gaerdydd. Mae Arriva Cross Country'n gweithredu trenau o Nottingham i Gaerdydd.

Trenau Arriva Cymru
Gorolwg
MasnachfraintCymru a'r Gororau
8 Rhagfyr 2003 –
13 Hydref 2018
Prif ardal(oedd)Cymru
Ardal(oedd) arallGogledd-orllewin Lloegr
Gorllewin Canolbarth Lloegr
De-orllewin Lloegr
Maint fflyd125 uned
3 set locomotif tynnu
Gorsafoedd weithredir247[1]
Llwybrau weithredir (km)1623.8
Talfyriad National RailAW
OlynyddTrafnidiaeth Cymru
Cwmni rhiantArriva UK Trains
Gwefanarrivatrainswales.co.uk

Cychwynodd y cwmni weithredu yn Rhagfyr 2003, gan gymryd yr awenau o gwmni Wales & Borders. Yn dilyn Deddf Rheilffordd 2005 a Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006, datganolwyd cyfrifoldeb dros y fasnachfraint i Lywodraeth Cymru. Daeth masnachfraint Arriva i ben yn Hydref 2018 ac er i'r cwmni gynnig cais ar gyfer dewis darparwr newydd, fe dynnodd y cwmni allan o'r broses yn Hydref 2017. Mae'r darparwr newydd yn gweithredu o dan adain cwmni sy'n berchen i Lywodraeth Cymru, sef Trafnidiaeth Cymru.

Un o drenau Arriva Cymru'n cyrraedd Deganwy

Ystadegau allweddol (2011-12)

  • Cilomedrau teithwyr: 1,142 miliwn
  • Teithiau teithwyr: 28.4 miliwn
  • Cilomedrau trenau wedi eu hamserlennu: 23.6 miliwn
  • Nifer y gweithwyr: 2,012
  • Cilomedrau llwybrau a weithredir: 1,840.8
  • Nifer y gorsafoedd a weithredir: 243 [2]

Dibynadwyedd

Mae Trenau Arriva Cymru'n eithaf dibynadwy - mae 89.9% o drenau'n cyrraedd mewn pryd.[3] Yn 2010/2011, roedd y canran o drenau prydlon yn 90.6%.[4]

Perchnogaeth

Yn 2010, prynodd Deutsche Bahn y cwmni Trenau Arriva Cymru am £1.59 biliwn.

Trenau Arriva Cymru yn yr hen orsaf reilffordd Pontrilas.

Gwasanaethau iaith Gymraeg

Arwydd dwyieithog mewn gorsaf

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gorfodi'r holl wasanaethau cyhoeddus i arddangos arwyddion yn Gymraeg. Fodd bynnag, gan ei bod yn gwmni preifat nid oes raid i Drenau Arriva Cymru wneud hynny ond mae'n dewis arddangos arwyddion yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac yn aml gyda'r Gymraeg yn ymddangos gyntaf. Maent hefyd yn darparu cyhoeddiadau Cymraeg mewn gorsafoedd ac ar drenau.

Trenau

Mae gan Drenau Arriva Cymru 123 trên.

Math trênLlunMathCyflymderSwmLlwybrauRhifau unedAdeiladwyd
myakm/h
Class 57 Locomotif diesel951524Gogledd i Dde Cymru - Premier57313/314/315/3161997–2004
Class 121 Uned Diesel701121Bae Caerdydd - Heol y Frenhines121032[5]1958–1960
Class 142 Uned Diesel7512015Cymoedd De Cymru142002 / 006 / 010 / 069 / 072 - 077 / 080 - 083 / 085[6]1985
Class 143 Uned Diesel7512015Cymoedd De Cymru143601 /602 / 604 - 610 / 614 / 616 / 622 - 625[7] (Mae TAC wedi scrapio trên 615 achos fod e'n fynd ar dân)1985
Class 150/2 Uned Diesel7512031Cymoedd De Cymru150208 / 213 / 217 / 227 / 230 - 231 / 235 - 237 / 240 - 242 / 245 / 250 - 260 / 262 / 264 / 267 / 278 - 281 / 283 - 285[8]1983-85
Class 153 Uned Diesel751208Llinellau lleol, Bae Caerdydd - Heol y Frenhines153303 / 312 / 320 / 323 / 327 / 353 / 362 / 367[9]1987–1988
Class 158 Uned Diesel9014524Prif linellau rheilffordd158818 - 841[10]1989–1992
Class 175 Uned Diesel10016027Prif linellau rheilffordd175001 - 011 / 175101 - 116[11]1999–2001
Mark 2 Coach Cerbyd10016022Gogledd i Dde Cymru - Premier5853 / 5869 / 5913 / 5965 / 5971 / 5976 / 6008 / 6013 / 6035 / 6064 / 6066 / 6119 / 6124 / 6137 / 6162 / 6170 / 6183 / 9503 / 9509 / 9521 / 9524 / 9539 / [12]1972–1975
Mark 3 Coach Cerbyd1252005Gogledd i Dde Cymru - Premier1972–1988

Cyfeiriadau

Dolennau allanol