Uned brosesu ganolog

Cylchredau electronig o fewn y cyfrifiadur yw'r prosesydd, prif brosesydd neu CPU, sy'n gweithredu'r negeseuon gan y rhaglen gyfrifiadurol.[1] Hon yw prif ran y gyfrifiadur ddigidol sy'n rheoli'r holl beiriant, a gellir cysylltu perifferolion iddi.[2][3][4]

Y prosesydd Intel 80486DX2, o'r top
Yr Intel 80486DX2, oddi isod, gan ddangos ei 'binnau'

Mae'r uned brosesu ganolog yn gweithredu pob cyfarwyddyd y rhaglen gyfrifiadurol mewn trefn, er mwyn gwneud tasgau elfennol rhifyddol, rhesymegol a mewnbwn/allbwn y system. Defnyddir y term Saesneg central processing unit ers y 1960au. Mae ffurf, dyluniad a'r modd y defnyddir UBG wedi newid ers yr esiamplau cynharaf, ond mae nifer o'r egwyddorion sylfaenol wedi aros yr un peth.

Deiau microbrosesyddIntel 80486DX2 (maint gwirioneddol: 12×6.75 mm).

Ymhlith y rhannau pwysicaf o'r CPU mae'r ALU, sef yr uned rhesymeg-rhifyddeg' (arithmetic logic unit) a'r 'gofrestr prosesu' ac uned rheoli.

Microbrosesyddion sydd o fewn y CPU y dyddiau hyn (2019), ac fe'i rhoddir ar un sglodyn cylched gyfannol (IC). Weithiau rhoddir teclynnau eraill ar y sglodyn hwn, yn ychwanegol i'r IC e.e. cof, rhyngwynebau ymylol (y perifferals) a chydrannau eraill. Gelwir dyfeisiau cyfannol yn "ficro-reolyddion" neu "systemau ar sglodyn" (SoC). Mae gan rai cyfrifiaduron brosesydd aml-graidd (multicore), sef un sglodyn gyda dau neu ragor o CPUs a elwir yn "cores"; yn y cyd-destun yma, gellir galw sglodion unigol o'r fath yn "socedau".[5][5]

Mae gan y brosesyddion araeau sawl prosesydd sy'n gweithio gyda'i gilydd yn gyfochrog (paralel), hen un prosesydd canolog. Ceir hefyd y cysyniad o CPUs rhithwir.[6]

Cyfeiriadau

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: