Y Deyrnas Newydd

cyfnod o 1550 i 1077 CC yn yr hen Aifft

Y Deyrnas Newydd yw'r enw a roddir i'r cyfnod rhwng tua 1570 CC a 1070 CC yn hanes yr Hen Aifft.

Ramesses II: un o'r pedwar cerflun enfawr tu allan i Abu Simbel.

Syniad a ddatblygwyd gan eifftolegwyr yn y 19g oedd rhannu hanes yr Hen Aifft yn nifer o deyrnasoedd; nid oedd yr hen Eifftwyr ei hunain yn meddwl am eu hanes fel hyn. Ystyrir bod y Deyrnas Newydd yn cynnwys brenhinoedd y 18fed Brenhinllin hyd yr 20fed Brenhinllin.

Cyrhaeddodd grym yr Hen Aifft ei uchafbwynt yn ystod yr Hen Deyrnas, yn enwedig yn ystod teyrnasiad Thutmose III, a arweiniodd ymgyrchoedd milwrol tu hwnr i afon Ewffrates. Gwelodd y cyfnod yma hefyd chwyldro crefyddol Akhenaten, a theyrnasiad byr Tutankhamun, a ddaeth yn enwog pan gafwyd hyd i'w fedd yn nechrau'r 20g. Un arall o frenhinoedd adnabyddus y Deyrnas Newudd oedd Ramesses II (1279-1213 CC).

Daeth y Deyrnas Newydd i ben pan gollodd brenin olaf yr 20fed Brenhinllin, Ramesses XI, ei afael ar yr orsedd. Daeth Archoffeiriaid Amun yn Thebes y rheolwyr rhan ogleddol yr Aifft, tra daeth Smendes yn rheolwr y de, gan sefydlu'r 21ain Brenhinllin yn Tanis.

18fed Brenhinllin 1550 CC - 1295 CC

EnwNodiadauDyddiadau (CC)
Ahmose I, Ahmosis IOlynydd Kamose1550-1525
Amenhotep I-1525-1504
Thutmose I-1504-1492
Thutmose II-1492-1479
Thutmose IIIGelwir weithiau yn "Napoleon yr Aifft". Yn gynnar yn ei deyrnasiad cipiwyd grym gan ei fam-wen Hatshepsut; ond wedi ei marwolaeth hi ymestynnodd ymerodraeth yr Aifft i’w maint eithaf.1479-1425
HatshepsutYr ail ferch I deyrnasu yn ôl pob tebyg.1473-1458
Amenhotep II-1425-1400
Thutmose IV-1400-1388
Amenhotep III-1388-1352
Amenhotep IV/AkhenatenNewidiodd ei enw i Akhenaten pan gyflwynodd grefydd newydd, Ateniaeth.1352-1334
SmenkhkareEfallai’n gyd-frenin gyda Akhenaten1334-1333
TutankhamunDychwelwyd i’r hen grefydd dan ei deyrnasiad ef.1333-1324
Kheperkheprure Ay-1324-1320
HoremhebGynt yn gadfridog a chynghorydd i Tutankhamun1320-1292

19eg Brenhinllin 1295 CC. - 1186 CC.

EnwNodiadauDyddiadau (CC)
Ramesses I-1292-1290
Seti I-1290-1279
Ramesses IIGelwir weithiau yn “Ramesses Fawr”.1279-1213
MerneptahMae Stele yn disgrifio ei ymgyrchoedd yn cynnwys y cyfeiriad cynharaf at Israel.1213-1203
Amenemses-1203-1200
Seti II-1200-1194
Merneptah Siptah-1194-1188
TausretMerch.1188-1186

20fed Brenhinllin 1185 CC. - 1070 CC

EnwNodiadauDyddiadau (CC)
Setnakhte-1186-1183
Ramesses IIIYmladdodd yn erbyn Pobloedd y Mor yn 1175 CC.1183-1152
Ramesses IV-1152-1146
Ramesses V-1146-1142
Ramesses VI-1142-1134
Ramesses VII-1134-1126
Ramesses VIII-1126-1124
Ramesses IX-1124-1106
Ramesses X-1106-1102
Ramesses XI- diorseddwyd gan Herihor, Archoffeiriad Amun1102-1069

Gweler hefyd