Y Dydd (rhaglen newyddion)


Rhaglen newyddion Cymraeg oedd Y Dydd a ddarlledwyd ar deledu annibynnol rhwng 1964 ac 1982.

Y Dydd

Hanes darlledu

Cychwynnodd wasanaeth TWW ar rwydwaith ITV ym mis Ionawr 1958 ac roedd yr amserlen yn cynnwys rhaglen newyddion wythnosol o'r enw Newyddion y dydd. Bwletin o ryw 5 munud oedd y rhaglen i ddechrau wedi ei ddarllen gan Eirwen Davies. Hwn oedd y rhaglen newyddion cyntaf ar deledu yn Gymraeg. Darlledwyd y rhaglen o stiwdios TWW ym Mhontcanna.

Erbyn 1960 roedd y bwletin wedi ymestyn i 20 munud.[1] Wedi methiant Teledu Cymru ar ddechrau 1964, daeth TWW yn wasanaeth i Gymru gyfan. Yn y de, roedd y trosglwyddydd yn gwasanaethu de-orllewin Lloegr a de Cymru felly roedd y rhaglenni newyddion Cymraeg a Saesneg yn plethu gyda'i gilydd.

Erbyn 1968 trosglwyddwyd masnachfraint Sianel 3 i deledu Harlech (HTV) ac ymestynwyd Y Dydd i 30 munud, wedi ei ddilyn gan raglen 10 munud o newyddion yn Saesneg.[2]

Daeth y rhaglen i ben gyda sefydlu S4C pan enillodd BBC Cymru y cytundeb i ddarparu gwasanaeth newyddion y sianel newydd. Darlledwyd y rhaglen olaf ar 29 Hydref 1982.[3]

Cynhyrchu a chyflwyno

Bu'r rhaglen yn feithrinfa i nifer fawr o newyddiadurwyr, cyflwynwyr a chynhyrchwyr. Bu Eirwen Davies yn gyflwynydd a gohebydd newyddion ar TWW ac HTV rhwng 1958 a chanol yr 1970au lle'r oedd yn cyd-gyflwyno gyda Vaughan Hughes, Huw Llywelyn Davies ac Elinor Jones. Daeth Gwyn Llewelyn yn ohebydd ar y rhaglen yn 1964 ac yn brif gyflwynydd rhwng 1968 ac 1976. Roedd gohebwyr eraill yn cynnwys Tweli Griffiths a Sulwyn Thomas. Gweithiodd Jenny Ogwen fel ysgrifenyddes ar y rhaglen.

Roedd Gwilym Owen yn gynhyrchydd y rhaglen yn 1970. Roedd rhai o olygyddion y rhaglen yn cynnwys Eleanor Mathias, Ioan Roberts, Owen Roberts a Deryk Williams.[4]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol