Ymerodraeth Nicea

Sefydlwyd Ymerodraeth Nicea neu Nicaea (Groeg: Βασίλειον τῆς Νίκαιας, yn 1204, wedi i'r Ymerodraeth Fysantaidd ymrannu'n nifer o ddarnau yn dilyn cipio dinas Caergystennin.

Ymerodraeth Nicaea, yr Ymerodraeth Ladin, Ymerodraeth Trebizond ac Unbennaeth Epirus yn 1204.

Cipiwyd Caergystennin gan y croesgadwyr ar anogaeth Fenis yn ystod y Bedwaredd Groesgad yn 1204, a sefydlasant hwy eu hymerodraeth ei hunain, yr Ymerodraeth Ladin, yng Nghaergystennin a rhai o diriogaethau'r Ymerodraerth Fysantaidd. Ffôdd Theodore I Lascaris, mab-yng-nghyfraith yr ymerawdwr Alexius III Angelus, i Nicea yn nhalaith Bithynia. Sefydlwyd dwy wladwriaeth arall o weddillion yr hen ymerodraeth yn yr un modd, Ymerodraeth Trebizond ac Unbennaeth Epirus.

Yn raddol, dechreuodd Ymerodraeth Nicea ennill tiriogaethau oddi wrth y Lladinwyr ac Undennaeth Epirus. Daeth Mihangel VIII Palaiologos yn gyd-ymerawdwr yn 1259, ac yn 1260, dechreuodd ymgyrch i adennill Caergystennin. Ym mis Gorffennaf 1261, agorwyd pyrth y ddinas i'w gadfridog Alexios Strategopoulos, gan adfer yr Ymerodraeth Fysantaidd.

Ymerodron Nicea

  • Theodore I Lascaris (1204-1222)
  • Ioan III Ducas Vatatzes (1222-1254)
  • Theodore II Lascaris (1254-1258)
  • Ioan IV Lascaris (1258-1261)
  • Mihangel VIII Palaiologus (cyd-ymerawdwr 1259-1261; adferodd yr Ymerodraeth Fysantaidd)