Ymwybyddiaeth

Nid oes eglurhad syml o ymwybyddiaeth i'w gael. Mae wedi cael ei ddiffinio'n fras fel clwstwr o briodoleddau'r meddwl megis goddrychedd, hunan-ymwybyddiaeth, sentience, a'r gallu i ganfod perthynas rhwng chi eich hun a'ch amgylchedd. Mae hefyd wedi cael ei ddiffinio o safbwynt mwy biolegol ac achosol, fel y weithred o fodylu ymdrechion ystyriaethol a chyfrifiannol yn ymreolaethol, fel afer gyda'r bwriad o gael, o ddargadw, neu i uchafu paramedrau penodol (megis bwyd, amgylchedd diogel, teulu, cymar). Gall ymwybyddiaeth ymwneud â syniadau, synhwyriadau, canfyddiadau, tymherau, emosiynau, breuddwydiau, ac bod yn ymwybodol am eich hunan, ond nid yw yn angenrheidiol yn cyfeirio un o'r elfennau na chyfuniad o pob elfen.[1] Mae ymwybyddiaeth yn safbwynt barn, yn fi, neu yn beth a ddisgrifiodd Thomas Nagel, bodolaeth rhywbeth sy'n debyg i fod yn rhywbeth.[2] Mae Julian Jaynes wedi pwysleisio nad yw "ymwybyddiaeth yr un peth a gwybyddiaeth a dylid gael ei wahaniaethu yn llym. ... Y cangymeriad mwyaf cyffredin ... yw i ddrysu ymwybyddiaeth a chanfyddiad."[3]

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am athroniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am ymwybyddiaeth
yn Wiciadur.