Z-Division

Sefydlwyd yr International Assessments Program — a adnabyddir fel Z-Division — fel un o'r Grwpiau Prosiectau Arbennig yn Lawrence Livermore National Laboratory i ddarparu asesiadau technegol am raglenni ynni niwclear estronol a'r gallu gan wladwriaethau estron i greu arfau niwclear ar gyfer asiantaethau cudd-wybodaeth a diogelwch cenedlaethol yr Unol Daleithiau.[1]

Z-Division

Sefydlwyd Z-Division yn 1965 pan oedd y Rhyfel Oer ar ei anterth er mwyn ceisio dadansoddi canlyniadau profion arfau niwclear yr Undeb Sofietaidd. Sefydlwyd y berthynas rhwng yr asiantaeth a gwasanaethau cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau yn ffurfiol pan lunwyd memorandwm dealltwriaeth rhwng y CIA (Central Intelligence Agency) a'r Comisiwn Ynni Atomig (Atomic Energy Commission: Adran Ynni'r Unol Daleithiau erbyn hyn) yn yr un flwyddyn.[2]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol