Zaynab Alkali

Awdures o Nigeria yw Zaynab Alkali (ganwyd 1950) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am fod y nofelydd benywaidd cyntaf o ogledd Nigeria.[1][2][3]

Zaynab Alkali
Ganwyd1950 Edit this on Wikidata
Borno Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Nigeria Nigeria
Alma mater
  • Prifysgol Bayero, Kano, Nigeria Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe still born Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn ura-Wazila, Talaith Borno yng ngogledd-ddwyrain Nigeria yn 1950. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Bayero, Kano, Nigeria.[4][5][6][7]

Priododd cyn Is-ganghellor Prifysgol Maiduguri, Mohammed Nur Alkali, ac roedd ganddynt chwech o blant[8].

Academia

Graddiodd o Brifysgol Bayero Kano gyda BA ym 1973. Cafodd ddoethuriaeth mewn Astudiaethau Affricanaidd yn yr un brifysgol a daeth yn brifathro Ysgol Breswyl Merched Shekara. Aeth ymlaen i fod yn ddarlithydd mewn Saesneg mewn dwy brifysgol yn Nigeria.[9][10] Fe'i dyrchafwyd i fod yn ddeon yng Nghyfadran y Celfyddydau ym Mhrifysgol Talaith Nasarawa yn Keffi, lle dysgodd ysgrifennu creadigol.[10]

Anrhydeddau

Cyfeiriadau