Zollverein

Undeb masnachol Almaenig oedd y Zollverein, sef clymblaid o daleithiau Almaenig a ffurfiwyd er mwyn rheoli masnach a polisiau economaidd o fewn eu tiriogaethau. Sefydlwyd ym 1818, fe smentiodd yr undeb gwreiddiol y bartneriaeth gyda thiriogaethau Prwsia a Hohenzollern, gan gadarnhau cyseinedd economaidd rhwng daliadau tir gwasgaredig y teulu Hohenzollern, a oedd hefyd yn rheoli Prwsia. Ehangodd y Zollverein rhwng 1820 ac 1866 i gynnwys y rhan fwyaf o daleithiau'r Almaen. Cafodd Awstria ei wahardd am fod ei ddiwydiant wedi ei amddiffyn yn gryf; fe waethygodd hyn y gystadleuaeth rhwng Prwsia ac Awstria i ddomineiddio Canolbarth Ewrop, yn arbennig yn ystod y 1850au a'r 1860au. Pan sefydlwyd Conffederasiwn Gogledd yr Almaen ym 1868, roedd y Zollverein yn cynnwys tua 425,000 cimloetr sgwar, ac wedi cynhyrchu cytundebau economaidd gyda gwledydd di-Almaenig megis Lwcsembwrg a Sweden.

Y Zollverein Almaenig 1834–1919
     Y Zollverein ym 1834      Wedi eu cynnwys tan 1866      Eu gwahardd ar ôl 1866      Ffiniau Undeb yr Almaen 1828
Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.