Mae Douarnenez (Ffrangeg: Douarnenez) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Le Juch, Kerlaz, Pouldregad, Poullan-sur-Mer ac mae ganddi boblogaeth o tua 14,163 (1 Ionawr 2021).
Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg. Porthladd yw Douarnenez. Saif ar Fae Douarnenez, 25 km (15 milltir) i'r gogledd-orllewin o ddinas Kemper.
Yn ôl y chwedl, safai dinas Kêr-Ys yn yr hyn sy'n awr yn Fae Douarnenez, chwedl debyg i chwedl Cantre'r Gwaelod. Enwyd yr ynys yn y bae yn wreiddiol yn Ynys Sant Tutuarn, ond yn ddiweddarach cafodd ei henwi ar ôl Trystan o chwedl Trystan ac Esyllt. Adeiladwyd priordy ar yr ynys yn gynnar yn y 12g.
Ymunodd Douarnenez a chynllun ieithyddol Ya d'ar Brezhoneg ar 22 Rhagfyr, 2004. Yn 2008 bu 7.97% o blant ysgol gynradd yn mynychu ysgolion dwyieithog[1]
Ers diwedd y 20g, bu-bu adfywiad yn y diwylliant Llydewig. Mae gan y gymuned Bagad llwyddiannus. Mae Gŵyl Ffilm Douarnenez wedi ei ysbrydoli gan y diwygiad Llydewig, ac yn arbenigo mewn ffilm ieithoedd llai