Eglwys Sant Ust a Sant Dyfrig, Llanwrin
Blwch offer
Gweithredoedd
Cyffredinol
Argraffu / allforio
Mewn prosiectau eraill
Math | eglwys ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanwrin, Glantwymyn ![]() |
Sir | Glantwymyn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 25 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.6159°N 3.79366°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Cysegrwyd i | Dyfrig ![]() |
Manylion | |
Eglwys ganoloesol o'r 14eg a'r 15g yw Eglwys Sant Ust a Sant Dyfrig (hefyd: Eglwys Sant Gwrin), a saif i'r gogledd-orllewin o bentref Llanwrin, Powys, ac a adeiladwyd ar ddiwedd y 15g. Saif yng nghymuned Glantwymyn, (Cyfeirnod OS: SH7866003530) tua 3 milltir (5 km) i'r gogledd-ddwyrain o Fachynlleth. Fe'i cofrestrwyd gan Cadw yn 2004 (rhif: 83006) fel adeilad Gradd II*. Mae'n nodedig oherwydd ei hoed a chynifer o rannau gwreiddiol ee y to bwaog o dderw, sgrîn y gangell a'i ffenestri lliw hynod.[1] Fe'i hadnewyddwyd yn 1864 gan Benjamin Ferrey.
Mae yma gawg defodol (piscina) sy'n perthyn i'r 14g. Sonir am yr eglwys am y tro cyntaf yn llyfrau Treth Norwich tn 1254 fel 'Ecclesia de Llanuril' a'r dreth oedd: 13s 4d. Un siambr sydd iddi, gyda chyntedd a phrif ddrws ym mur y de a clochdy yn nhalcen y mur gorllewinol. Mae'r fynwent bron yn gych, gyda wal garreg yn ei chwmpasu, sy'n nodwedd o eglwys llawer cynharach.[2]
Credir i Sant Ust a Sant Dyfrig ddod i'r ardal o Lydaw yn 516 OC a chysegrwyd yr eglwys iddyn nhw, cyn ei newid yn ddiweddarach i Sant Gwrin.