Neidio i'r cynnwys

Richart de Fornival

Oddi ar Wicipedia
Richart de Fornival
Ganwyd10 Hydref 1201 Edit this on Wikidata
Amiens Edit this on Wikidata
Bu farw1260 Edit this on Wikidata
Amiens Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, cyfansoddwr, meddyg, athronydd Edit this on Wikidata
Bestiaire d'amour, XIV sec. (Biblioteca Medicea Laurenziana)

Llenor canoloesol yn yr iaith Ffrangeg, casglwr llawysgrifau, a chlerigwr oedd Richart de Fornival, a adwaenir hefyd fel Richard de Fournival (10 Hydref 1201 - c. 1 Mawrth ?1260). Ei gyfrol enwocaf yw'r bwystori Bestiaire d'Amour ('Bwystori Serch') sy'n cynrychioli penllanw traddodiad seciwlar - gweithiau alegoriaidd Cristnogol yw'r rhan fwyaf o'r bwystoriau - sydd â'i wreiddiau yng ngwaith y trwbadwriaid.[1]

Bywgraffiadgolygu cod

Uchelwr o ardal Picardi oedd Richart, mab Rogier de Fornival a hanner-brawd Arnoul, esgob Amiens o 1236 hyd 1246. Yn 1240 roedd yn ganon yn Eglwys Gadeiriol Amiens, diolch i'w frawd efallai, a chofnodir iddo fod yn ganghellor yno yn 1246. Cofnodir hefyd iddo gael ei drwyddedu yn llawfeddyg gan y Pab Innocentius IV yn yr un flwyddyn. Bu farw ar 1 Mawrth, yn 1259 neu 1260 (yr olaf sydd fwy tebygol).[1]

Casglwrgolygu cod

Roedd yn gasglwr llawysgrifau brwd. Cedwir y catalog o lyfrau ei gasgliad a ysgrifennodd yn ei law ei hun. Roedd ganddo tua 300 o lawysgrifau - cyfanswm eithriadol iawn i unigolyn yn yr Oesoedd Canol - sy'n cynnwys cyfrolau ar y trivium a'r quadrivium, athroniaeth, metaffiseg, meddygaeth, y Gyfraith (sifil ac eglwysig), yr Ysgrythurau, Tadau'r Eglwys a'r Clasuron. Mae llawer o'r llyfrau hyn yn Llyfrgell y Sorbonne, Paris, er 1272.[1]

Gwaith llenyddolgolygu cod

Ysgrifennodd sawl llyfr ar alcemeg (cyhoeddodd draethawd Lladin ar y pwnc) a chyfrolau hyfforddiadol, didactig, ar serch. Yn y dosbarth olaf y mae'r Bestiaire d'Amour yn syrthio. Cyfuniad ydyw o ddeunydd naturiaethol a chwedlonol y bwystoriau traddodiadol ac esboniadau ar natur serch a'r llwybr i lwyddiant ym myd serch. Cafwyd cyfieithiadau Cymraeg o'r Bestiaire gan Gwilym Tew, Llywelyn Siôn ac eraill.[1]

Llyfryddiaethgolygu cod

  • Graham C. G. Thomas (gol.), A Welsh Bestiary of Love (Dulyn, 1988)

Cyfeiriadaugolygu cod

🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanWicipedia:Cysylltwch â niXxx: State of The UnionCarles PuigdemontArbennig:SearchFfilm llawn cyffroDisturbiaJean SimmonsXHamsterEagle EyeCadwyn BlocUnol Daleithiau AmericaVirgin TerritoryThe Salton SeaYr Ail Ryfel BydWicipedia:CymorthTlws AdranWicipedia:Gwadiad CyffredinolSpecial:SearchArbennig:RecentChangesWicipedia:Ynglŷn â WicipediaTudur OwenDelwedd:XXx REACTIVADO Conferencia de Prensa.jpgThe Inbetweeners MovieMET-ArtWicipedia:Y CaffiWicipedia:Porth y GymunedWikipediaBig BoobsBig Fat LiarBeirdd y TywysogionAdran Gyfiawnder yr Unol DaleithiauCategori:Materion cyfoesSaesnegMeilir GwyneddDefnyddiwr:Stefanik/Pwll TywodSefydliad elusennolWicipedia:Cyflwyniad