Afon Chao Phraya
Afon fawr yng nghanolbarth Gwlad Tai yw Afon Chao Phraya (Thai: แม่น้ำเจ้าพระยา), sy'n aberu yng Ngwlff Gwlad Tai. Saif Bangkok, prifddinas y wlad, ar ei glannau. Ei hyd yw 372 km (231 milltir).
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwlad Tai |
Gwlad | Gwlad Tai |
Cyfesurynnau | 15.7006°N 100.1408°E, 13.5403°N 100.5897°E |
Aber | Gulf of Thailand |
Llednentydd | Afon Pa Sak, Afon Sakae Krang, Afon Ping, Afon Nan, Khlong Bangkok Yai, Afon Noi, Khlong Bangkok Noi, Khlong Phadung Krung Kasem, Khlong Khu Mueang Doem, Khlong Phra Khanong, Khlong Samrong, Khlong Mon, Khlong Rop Krung, Khlong Bang Sue, Khlong Ton Sai, Khlong Bang Khen, Khlong Bang Yi Khan, Khlong Bang Sai Kai, Khlong Wat Sai, Khlong Sathon, Khlong Chong Nonsi, Khlong Bang Na, Khlong Bang Pa Kaeo, Khlong Wat Arun, Khlong Chakrai Yai, Khlong Phra Udom, Khlong Phraya Banlue, Khlong San |
Dalgylch | 15,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 372 cilometr |
Teitl ffiwdal am gadfridog neu arglwydd yw chao phraya; ond cyfieithiad arferol yr enw yw "Afon y Brenin".
Oherwydd ei phwysigrwydd fel llwybr masnach mae gan yr afon le canolog yn hanes datblygiad economaidd Gwlad Tai a'i hanes yn gyffredinol.
Trefi a dinasoedd
Y prif drefi a dinasoedd ar lannau'r Chao Phraya, o'r gogledd i'r de, yw:
- Nakhon Sawan
- Uthai Thani
- Chainat
- Singburi
- Ang Thong
- Ayutthaya
- Pathum Thani
- Nonthaburi
- Bangkok
- Samut Prakan
🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanArbennig:SearchCarles PuigdemontWicipedia:Cysylltwch â niMarie AntoinetteXxx: State of The UnionDisturbiaDelwedd:XHamster logo.svgWicipedia:Porth y GymunedWicipedia:Ynglŷn â WicipediaFfilm llawn cyffroEagle EyeArbennig:RecentChangesKathleen Mary FerrierWicipedia:CymorthUnol Daleithiau AmericaYr Ail Ryfel BydDwylo Dros y MôrDriggThe Salton SeaWicipedia:CyflwyniadRhestr llynnoedd CymruDelwedd:XXx REACTIVADO Conferencia de Prensa.jpgWicipedia:Y CaffiCymruMichael D. JonesSimon BowerWicipedia:Gwadiad CyffredinolWikipediaSpecial:SearchYasser ArafatDefnyddiwr:Stefanik/Pwll TywodCaethwasiaethCymraegY Weithred (ffilm)Bartholomew RobertsWicipedia:CymraegCategori:Pentrefi Dyfnaint