Alison Statton

cantores o Gymru

Cantores yw Alison Statton (ganwyd yng Nghaerdydd yn Mawrth 1958).[1] Bu'n aelod o'r band new wave Young Marble Giants oedd a sŵn minimalaidd unigryw.

Alison Statton
Ganwyd1959 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Label recordioRough Trade Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata
Arddully don newydd Edit this on Wikidata

Mae Kurt Cobain,[2] Courtney Love, Belle and Sebastian a Renato Russo i gyd wedi cyfeirio at yr Young Marble Giants fel dylawnwad mawr.

Cychwynodd ei gyrfa gerddorol yn 1978 pan gychwynodd ganu gyda'r band Young Marble Giants.[3] Chwalodd y grwp yn 1981, a sefydlodd grwp jazz o'r enw 'Weekend' gyda Simon Emmerson (Booth) a Spike Williams, gan ryddhau albwm La Varieté yn 1982 ac EP byw Live at Ronnie Scott's, y flwyddyn ddilynol.[3][4]

Cafodd seibiant o ganu am ychydig pan ddychwelodd i Gaerdydd i'w hyfforddi fel meddyg esgyrn a dysgu t'ai chi.[3]

Dychwelodd at gerddoriaeth yn hwyr yn y 1980au gan ryddhau dwy recordiad gyda'r gitarydd Ian Devine, sef Devine and Statton, The Prince of Wales (1989) a Cardiffians (1990).[5][6][7]

Cantorion new wave eraill o Gymru

Rhestr Wicidata:


Misc

#enwdelwedddyddiad geniman genigenreeitem ar WD
1Alison Statton
1959Caerdyddy don newyddQ4727193
2Jem
1975-05-18
1975-06-18
Penarthcerddoriaeth boblogaidd
trip hop
roc poblogaidd
roc gwerin
y don newydd
Q237182
3Marina and the Diamonds
1985-10-10Brynmawrindie pop
y don newydd
synthpop
pop dawns
Q234174
4Steve Strange
1959-05-28Trecelyncerddoriaeth boblogaidd
y don newydd
synthpop
Q2005601
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau