André Derain

Artist o Ffrainc, arlunydd, cerflunydd a chyd-sylfaenydd symudiad Fauvism gyda Henri Matisse oedd André Derain (10 Mehefin 1880 - 8 Medi 1954).[1]

André Derain
Ganwyd10 Mehefin 1880 Edit this on Wikidata
Chatou Edit this on Wikidata
Bu farw8 Medi 1954 Edit this on Wikidata
o damwain cerbyd Edit this on Wikidata
Garches Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Academi Gwyddoniaethau Rwsia
  • Académie Julian Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, coreograffydd, cerflunydd, engrafwr, dylunydd gwisgoedd, cynllunydd llwyfan, darlunydd, dylunydd gemwaith, ffotograffydd, arlunydd graffig, gwneuthurwr printiau, drafftsmon, cynllunydd, drafftsmon Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEnfant courant sur la plage, Pont de Charing Cross Edit this on Wikidata
Arddullcelf tirlun, portread, bywyd llonydd, peintio lluniau anifeiliaid, celf genre, peintio hanesyddol, noethlun, paentiadau crefyddol Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadGeorges Seurat, Paul Gauguin, Maurice de Vlaminck Edit this on Wikidata
MudiadFauvisme, Ciwbiaeth Edit this on Wikidata
TadLouis Derain Edit this on Wikidata
PriodAlice Derain Edit this on Wikidata
llofnod

Blynyddoedd cynnar

Yn 1880, cafodd Derain ei eni yn Chatou, Yvelines, Île-de-France, dim yn bell o'r brif ddinas Paris. Yn ôl pob sôn, cafodd Derain yr ysbrydoliaeth i baentio ar ôl cwrdd â Vlaminck neu Matisse. Er hyn, dechreuodd ef ei daith peintio yn 1895 ar ben ei hun. Wnaeth Derain cwrdd â Matisse yn nosbarthiadau peintio yn 1898, dan arweiniad Eugène Carrière, wrth astudio i fod yn beiriannydd at Académie Camillo [2]. Yn 1990, rhannod Derain stiwdio â Maurice de Vlaminck a dechreuon nhw beintio golygfeydd o'r gymdogaeth ond cafodd hyn ei ymyrryd o ganlyniad i Derain ymuno gwasanaethau'r fyddin at Commercy o Fedi 1901 i 1904 [3]. Yn dilyn ei rhyddhad o wasanaeth, perswadiodd Matisse rhieni Derain i'w adael i ddilyn gyrfa yn seiliedig ar gelf yn lle peiriannydd; o ganlyniad, mynychodd Académie Julian.[4]

Ffauviaeth

Le séchage des voiles, 1905, paent olew ar gynfas, 82 × 101 cm, Amgueddfa Pushkin, Moscow. Wedi'i arddangos yn Salon d'Automne 1905

Gweithiodd Derain a Matise gyda'i gilydd trwy gydol yr haf yn 1905 ym mhentref Mediteranaidd Collioure, dyma'r lleoliad paentiodd Derain Mountains at Collioure .[5] Blynyddoedd ar ôl hyn oedd dechreuad i'r symudiad Ffauviaeth [6]. Disgrifiodd critig Louis Vauxcelles gwaith Derain a Matisse, a oedd yn cael eu harddangos yn y Salon d'Automne, fel les Fauves, neu'r "wild beasts", am fod eu celf yn llawn lliwiau llachar ac annaturiol. Ym Mawrth 1906, cafodd Derain ei ddanfon i Lundain gan ddeliwr celf Ambroise Vollard i gynhyrchu cyfres o baentiadau sy'n canolbwyntio ar y ddinas. Bu Derain yn cynhyrchu 30 paentiad, 29 yn dal i fod ar gael, yn ystod ei amser yn Llundain. Yn gwbl wahanol i Whistler neu Monet, roedd ei olygfeydd, amrywiad o'r Thames a Tower Bridge, yn llawn cyfansoddiadau a lliwiau amlwg. Dywedodd critig celf T. G Rosenthal: "Nid ers Monet oes rhywun wedi dangod Llundain mor ffres a chadw'n Saesneg. Mae rhan fwyaf o'i olygfeydd o'r Thames yn defnyddio'r dechneg Pointillist, llawer o ddotiau, yn fwy nag unrhyw beth mae'n wahaniad o liwiau sef Divisionism. Mae'n effeithiol i gyfleu darniad lliw yn symudiad y dŵr dan olau'r haul."[7]

Charing Cross Bridge, Llundain, 1906, Oriel Gelf Genedlaethol, Washington, DC
La jetée à L'Estaque, 1906, paent olew ar gynfas, 38 × 46 cm

Yn 1907, prynodd Daniel-Henry Kahnweiler stiwdio gyfan Derain, yn caniatáu sefydlogrwydd ariannol iddo. Arbrofodd â cherfluniau cerrig a symudodd i Fontmartre i fod yn agos i'w ffrind, Pablo Picasso, ac artistiaid eraill. Bu Fernande Olivier, meistres i Picasso ar y pryd, yn disgrifio Derain[8] fel:

Slim a cain, gyda lliw bywiog a gwallt du wedi'i enameiddio. Gyda chic Saesneg, braidd yn drawiadol. Gwasgodau ffansi, clymau mewn lliwiau crai, coch a gwyrdd. Gyda phibell yn ei enau ar bob adeg, phlegmatic, gwatwar, oer, dadleuwr.

Gan ddangos dylanwad Cubism a Paul Cézanne, newidiodd ei balet i donau tawel a llai llachar.[9] Yn ôl Gertrude Stein, cafodd Derain yr ysbrydoliaeth o gerfluniau Affricanaidd amser cyn Picasso [10]. Am lyfr cyntaf Guillaume Apollinaire, L'enchanteur pourrissant yn 1909, arddangosodd Derain torluniau pren yn arddull Primitivism.

Arddangosodd ei waith yn 1910 yn Neue Künstlervereinigung[11], Munich, yn olyniaeth Der Blaue Reiter[12] yn 1912 ac yn semenaidd Armory Show yn Efrog Newydd. Yn ychwanegol, darluniodd casgliad o gerddi gan Max Jacob yn 1912.

Tuag at glasuriaeth newydd

Adlewyrchodd gwaith Derain ei astudiaeth o'r Hen Feistriaid ar yr adeg hon. Roedd yna newid i'r lliw a lleihad llym i'r ffurfiad; mae'r blynyddoedd rhwng 1911 ac 1914 yn cyfeirio at ei amser gothig. yn 1914, cafodd ei ddanfon i wasanaethu'r fyddin yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn 1919, cafodd ei rhyddhau a'r unig waith oedd yn bosib iddo gwblhau oedd yn 1916, cyfres o ddarluniau am lyfr cyntaf André Breton, Mont de Piete.

Ar ôl y rhyfel, cafodd Derain ei gymeradwyo am arwain adnewyddiad clasuriaeth. Bu Derain yn cael ei edmygu am gadw at draddodiadau gan adael ei flynyddoedd Fauviaeth tu ôl.[13] Yn 1919, dyluniodd y bale La Boutique fantasque am Diaghilev, arweinydd y Ballets Russes.[14] Llwyddiant oedd hyn ac roedd nifer o ddyluniadau dawnsio bale yn dilyn.

Yn 1928, cafodd Derain ei wobrwyo am ei fywyd llonydd, Dead Game, a dechreuodd i arddangos ei waith tramor - Llundain, Berlin, Frankfurt, Düsseldorf, Dinas Efrog Newydd a Cincinnati, Ohio.[8]

Bu Derain yn byw ym Mharis yn ystod meddiannaeth yr Almaenwyr dros Ffrainc, yn yr Ail Ryfel Byd. Bu'r Almaenwyr yn gystal â Derain oherwydd ei fod yn cynrychioli diwylliant bri o Ffrainc. Derbyniodd Derain gwahoddiad i ymweld â'r Almaen yn swyddogol yn 1941, teithiodd gydag artistiaid o Ffrainc eraill i Ferlin i arddangosfa Natsïaidd Arno Breker, artist swyddogol.[9] Roedd presenoldeb Derain yn yr Almaen yn achosi colled o gyn cefnogwyr ar ôl y Rhyddhad o ganlyniad iddo'n cael ei ddefnyddio am bropaganda'r Natsïaid.[15]

Blwyddyn cyn ei farwolaeth yn 1954, dioddefodd o heintiad y llygaid a ni wellodd o hyn. Bu farw yn 1954 pan gafodd ei daro i lawr gan gerbyd yn Garches, Hauts-de-Seine, Île-de-France.[16]

Testun prif arddangosfa Courtauld Institute, 27ain o Hydref 2005 i 22ain o Ionawr 2006, oedd paentiadau Derain o Lundain .[17]

Casgliadau cyhoeddus

Casgliadau cyhoeddus sy'n cadw gwaith gan André Derain:

Cyfeiriadau

Darllen pellach

Dolenni allanol