Ciwbiaeth
Ystyrir Ciwbiaeth (Saesneg: Cubism, Ffrangeg: Cubisme) fel y mudiad celfyddydol mwyaf dylanwadol yn yr 20g.
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf, arddull pensaernïol, mudiad mewn paentio, arddull mewn celf |
---|---|
Rhan o | moderniaeth |
Dechrau/Sefydlu | 1907 |
Rhagflaenwyd gan | Proto-Cubism |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bu'n gyfrifol am newid chwyldroadol yn y byd peintio a cherfluniaeth ac ysbrydolodd cerddoriaeth, llenyddiaeth a phensaernïaeth.[1][2]
Hanes
Ffurfiwyd Ciwbiaeth ar ddechrau'r 20g ym Mharis. Ymhlith yr arloeswyr cynnar oedd Georges Braque a Pablo Picasso, gyda Jean Metzinger, Albert Gleizes, Robert Delaunay, Henri Le Fauconnier, Fernand Léger a Juan Gris.[3]
Yng ngwaith diweddaraf Paul Cézanne, a arddangoswyd ym Mharis rhwng 1905 a 1907, ceisiodd gyfleu ffurfiau mewn tri-dimensiwn. Datblygwyd syniadaeth Cézanne gan y Ciwbwyr cynnar a oedd am edrych o'r newydd ar un o broblemau peintiwr trwy hanes - sut gorau i gyfleu'r byd go iawn sydd a sawl-dimensiwn ar gynfas fflat, un-dimensiwn?[4]
Mewn celf Giwbaidd mae elfennau'n cael eu dadansoddi, eu torri ar wahân ac yn ail ffurfio'n haniaethol. Yn lle portreadu'r elfennau o un safbwynt yn uing, roedd y Ciwbwyr yn eu dangos o sawl safbwynt er mwyn eu cyfleu'n eu cyfanrwydd.[5]
Effaith rhyngwladol
Roedd effaith Ciwbiaeth yn bellgyrhaeddol, gan ledu ar draws y byd a datblygu ymhellach wrth i'w dylanwad ymledu ac ehangu.[6]
Mae gwaith cynnar y Dyfodoliaeth (Futurism) hefyd yn ceisio cyfuno mwy nag un safbwynt – yn yr achos yma gwahanol safbwyntiau amseroedd wrth iddynt bortreadu cyflymdra'r symudiad.[7]
Oriel
- Lyubov Popova,
Model yn Sefyll,1913 - Juan Gris,
Botel o Anis, 1914 - Maria Blanchard,
Merch gyda gitâr, 1917 - Pablo Picasso,
Pen Merch - Robert Delaunay,
Ffenestri Cyd-amserol ar Ddimas, 1912 - Natalia Goncharova,
Y Bieciwr, 1913 - Pierre Dumont,
Eglwys Gadeiriol Rouen, tua 1912 - Juan Gris, Dyn mewn Caffi, 1912
- Gwisgoedd Ciwbaidd ar gyfer cynhyrchiad Salome gan Oscar Wilde ym Mosgo, 1922
Rhestr o Giwbwyr
- Muhanna Al-Dura
- Nathan Altman
- Guillaume Apollinaire
- Alexander Archipenko
- Vladimir Baranov-Rossine
- Julio Barragán
- Georges Braque
- Patrick Henry Bruce
- Frank Burty Haviland
- Josef Čapek
- Jorge Castillo (artist)
- William Crozier
- Joseph Csaky
- Danseuse (Csaky)
- Andrew Dasburg
- Sonia Delaunay
- Julio de Diego
- Raymond Duchamp-Villon
- André Fau
- Emil Filla
- Jesus Fuertes
- Leo Gestel
- Albert Gleizes
- Julio González (cerflunydd)
- Juan Gris
- Otto Gutfreund
- Werner Gutzeit
- Auguste Herbin
- Fannie Hillsmith
- Bror Hjorth
- Carl Holty
- Vilmos Huszár
- Eugene Ivanov (artist)
- Marcel Janco
- Greta Knutson
- Boris Korolev
- Roger de La Fresnaye
- Jean Lambert-Rucki
- Marie Laurencin
- Henri Laurens
- Blanche Lazzell
- Henri Le Fauconnier
- Fernand Léger
- André Lhote
- Jacques Lipchitz
- André Mare
- Jan Matulka
- Vadym Meller
- Jean Metzinger
- Gustave Miklos
- Milo Milunović
- Berge Missakian
- George L.K. Morris
- Alexandra Nechita
- Amédée Ozenfant
- Emilio Pettoruti
- Pablo Picasso
- John Joseph Wardell Power
- Othello Radou
- Jeanne Rij-Rousseau
- Clément Serveau
- Boris Smirnoff
- Ion Theodorescu-Sion
- Herman Trunk
- Nadezhda Udaltsova
- Georges Valmier
- Jacques Villon
- Marie Vorobieff
- Max Weber (artist)