Aneirin Hughes

Actor a canwr Cymreig yw Aneirin Hughes (ganwyd Aneurin Hughes, 8 Mai 1958).

Aneirin Hughes
Ganwyd8 Mai 1958 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor teledu, canwr Edit this on Wikidata

Addysg

Ganwyd Hughes yn Aberystwyth a'i magwyd mewn pentre bach cyfagos Penbontrhydybeddau.[1] Fe astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth o dan yr Athro Ian Parrott ac fe ganodd gyda'r soprano Hazel Holt. Tra oedd yn fyfyriwr cerdd fe arweiniodd gôr siambr y brifysgol. Cantorion Madrigalau Elisabethaidd Aberystwyth am sawl blwyddyn. Fel myfyriwr, cafodd Hughes ei brofiad actio gyntaf pan ymddangosodd mewn perfformiadau o operau Gilbert and Sullivan dan yr arweinydd David Russell Hulme. Fe aeth Hughes ymlaen i astudio yn y Royal Scottish Academy of Music and Drama.

Gyrfa actio

Cychwynnodd Hughes ei yrfa actio yn y 1980au gydag opera sebon Pobol y Cwm ar S4C. Fe aeth ymlaen i ymddangos yn Blood on the Dole, Casualty, Family Affairs fel DI Patrick Grenham, Spooks, Take Me gyda Robson Green a EastEnders yn Ionawr ac Ebrill 2009 fel Andy Jones, tad mabwysiadol Danielle Jones.[2]

Enillodd Hughes wobr Actor Gorau gan BAFTA Cymru am ei ymddangosiad fel  Delme yn y ffilm Gymraeg Cameleon (1997).[3][4] Fe ymddangosodd yn rheolaidd Judge John Deed fel Neil Haughton ac yn Young Dracula fel Graham Branagh. Chwaraeodd Harper yn y ffilm deledu Harper and Isles gyda Hywel Bennett[2] ac fe ymddangosodd yn y ffilm The Theory of Flight yn 1998. Yn fwy diweddar fe ymddangosodd yn y gyfres Pen Talar ar S4C ac yn Holby City fel Sir Fraser Anderson,[2] ac fe ddychwelodd i Pobol y Cwm fel cymeriad newydd, Moc Thomas, rhwng 2012 a 2013. Yn 2012, chwaraeodd ran Gwynfor Evans mewn drama ddogfennol am fywyd y gwleidydd ac ymgyrchydd, gyda'r teitl Gwynfor Evans: Y Penderfyniad?[5]

Yn 2013 ymddangosodd Hughes yn ffilm deledu S4C Y Syrcas[6] ac mae'n chwarae'r Prif Uwch-arolygydd Brian Prosser yng nghyfres ddrama Y Gwyll. Ym Mai 2014 ymddangosodd gyda Tom Jones a Katherine Jenkins mewn cynhyrchiad BBC o Under Milk Wood gan Dylan Thomas i ddathlu canmlwyddiant geni'r awdur.[7][8]

Bywyd personol

Mae Hughes wedi rhedeg sawl marathon i elusennau, yn cynnwys Marathon Llundain 2009.[9]

Mae Hughes yn byw yn Nhrefynwy gyda'i wraig Pip Broughton[10] a dau o blant. Mae'n aelod sylfaen o Monmouth Male Voice Choir.[11]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol