Ann Jones

gwleidydd Cymreig ac Aelod o'r Cynulliad

Gwleidydd Cymreig yw Margaret Ann Jones (ganwyd 4 Tachwedd 1953). Bu'n Aelod o'r Senedd i'r Blaid Lafur dros Ddyffryn Clwyd ers dyfodiad Senedd Cymru ym 1999. Ni sefodd fel ymgeisydd yn Etholiad Senedd Cymru, 2021. Roedd yn ddirprwy Lywydd y Senedd rhwng 11 Mai 2016 a 2021.

Ann Jones
Dirprwy Lywydd y Senedd
Yn ei swydd
11 May 2016 – 6 Mai 2021
Rhagflaenwyd ganDavid Melding
Dilynwyd ganDavid Rees
Aelod o Senedd Cymru
dros Ddyffryn Clwyd
Yn ei swydd
6 Mai 1999 – 29 Ebrill 2021
Rhagflaenwyd ganCrëwyd y swydd
Dilynwyd ganGareth Davies
Mwyafrif768 (3.1%)
Manylion personol
Ganwyd (1953-11-04) 4 Tachwedd 1953 (70 oed)
Rhyl
Plaid wleidyddolLlafur Cydweithredol
PriodAdrian Jones
PlantVictoria a Vincent
CartrefRhyl
PwyllgorauPlant a Phobl Ifanc, Cyllid a Craffu ar y Prif Weinidog
Gwefanannjones.org.uk

Bywyd cynnar ac addysg

Ganed Margaret Ann Jones i Charles Jones a Helen Jones (Sadler gynt) yn y Rhyl. Cafodd hi addysg yn Ysgol Ramadeg y Rhyl ac Ysgol Uwchradd y Rhyl. Priododd ag Adrian Jones yn 1973 ac mae ganddynt fab a merch[1].

Gyrfa

Gweithiodd Ann fel Swyddog Galwadau Brys a nifer o swyddi rheoli yn ystafell reoli Brigâd Dân Sir y Fflint a Brigâd Dân Clwyd rhwng 1970 a 1979 ac fel Swyddog Rheoli Tan gyda Brigâd Dân Glannau Mersi rhwng 1991 a 1999[2].

Gwasanaethodd fel swyddog cenedlaethol yn Undeb y Brigadau Tân am nifer o flynyddoedd a bu’n eistedd ar fyrddau gweithredol Plaid Lafur Cymru a TUC Cymru. Mae’n aelod o UNSAIN ac yn parhau’n aelod ‘allan o'r diwydiant’ o Undeb y Brigadau Tân.[3].

Gyrfa wleidyddol

Roedd Ann Jones yn aelod o Gyngor Tref y Rhyl rhwng 1991 a 1999, ac yn Faer y Dref yn 1996-7. Roedd hi'n gynghorydd ar Gyngor Sir Ddinbych rhwng 1995 ac 1999 ac yn asiant i Chris Ruane AS yn Etholiad Cyffredinol 1997. Mae hi’n aelod o'r Mudiad Sosialaidd Cristnogol[4].

Cafodd ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros Ddyffryn Clwyd yn 1999, gan ddal y sedd ym mhob etholiad tan iddi ymddeol yn 2021, er bod y sedd yn ymylol iawn.

Bu Ann yn cadeirio sawl Pwyllgor yn y Cynulliad gan gynnwys y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Grŵp Hollbleidiol ar Faterion Byddar a bu’n Gadeirydd Grŵp Llafur y Cynulliad Cenedlaethol rhwng 2011 a 2016.

Yn 2016 cafodd ei phenodi'n Ddirpwry Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol[5].

Mesur Diogelwch Tân

Yn 2007, enillodd Ann Jones bleidlais a chafodd gyfle i gyflwyno'r Mesur Cynulliad cyntaf gan aelod meinciau cefn. Cyhoeddodd Ann Jones ei bwriad i gyflwyno deddfwriaeth i'w gwneud hi’n orfodol i osod system diffodd tân mewn cartrefi newydd. Dechreuodd y broses o drosglwyddo’r pwerau i ddeddfu i’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2007, ac yn 2010 gwnaethpwyd Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaeth yn caniatáu i’r Cynulliad ddeddfu[6]. Cafodd Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 ei drafod yn y Cynulliad yn 2010 a 2011 cyn cael Cydsyniad Brenhinol ar 7 Ebrill 2011[7].

Cyflwynodd Ann Jones gasgliad o bapurau am y ddeddf i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2019[8].

Swyddi

Senedd Cymru
Rhagflaenydd:
sedd newydd
Aelod o'r Senedd dros Ddyffryn Clwyd
19992021
Olynydd:
Gareth Davies
Rhagflaenydd:
David Melding
Dirprwy Lywydd y Senedd
20162021
Olynydd:
David Rees


Cyfeiriadau