Y Blaid Lafur (DU)

Plaid wleidyddol Brydeinig, ganol-chwith yw'r Blaid Lafur a sefydlwyd ar 27 Chwefror 1900. Gellir ei hystyried yn brif gynrychiolydd y canol-chwith gwleidyddol ym Mhrydain ers y 1920au, pan esblygodd o'r undebau llafur a phleidiau sosialaidd y 19g. Symudodd tua'r canol o dan bolisi "Y Drydedd Ffordd" dan arweinyddiaeth Tony Blair ac o ganlyniad cyfeirir ati yn y 2000au fel "Llafur Newydd". Mae'r Blaid Lafur yng Nghymru (gweler isod) yn rhan o Blaid Lafur y DU; yr un sefyllfa a'r Alban. Yn 2015 roedd gan y blaid oddeutu 292,000 o aelodau.[4][5]

Y Blaid Lafur
ArweinyddKeir Starmer AS
Dirprwy ArweinyddAngela Rayner AS
Sefydlwyd27 Chwefror 1900[1][2]
PencadlysOne Brewer's Green, Llundain
Asgell myfyrwyrMyfyrwyr Llafur
Asgell yr ifancLlafur ifanc
Aelodaeth  (2019)Decrease 485,000[3]
Rhestr o idiolegauSosialaeth Democrataidd
Democratiaeth cymdeithasol
Sbectrwm gwleidyddolChwith-canol
Partner rhyngwladolCynghrair er Cynnydd (Progressive Alliance)
Cysylltiadau EwropeaiddPlaid y Sosialwyr Ewropeaidd
Grŵp yn Senedd EwropProgressive Alliance of Socialists and Democrats
Lliw     Coch
Tŷ'r Cyffredin
199 / 650
Tŷ'r Arglwyddi
175 / 790
Senedd yr Alban
23 / 129
Senedd Cymru
30 / 60
Cynulliad Llundain
12 / 25
Llywodraeth leol yn y DU
5,976 / 19,698
Gwefan
www.labour.org.uk

Hanes

Fe'i sefydlwyd yn 1900, gan oddiweddwyd y Blaid Ryddfrydol ddechrau'r 1920au a ffurfiodd lywodraeth (leiafrifol) dan arweinyddiaeth Ramsay MacDonald yn 1924 ac eto yn 1929–31. Ffurfiodd rhan o glymblaid yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd rhwng 1940 a 1945 ac ar ddiwedd y Rhyfel, ffurfiodd lywodraeth eto - y tro hwn o dan arweinyddiaeth Clement Attlee - a daliodd ei gafael fel y brif blaid rhwng 1964 a 1970 gyda Harold Wilson wrth y llyw, ac yna'i olynydd James Callaghan.

Y Blaid Lafur yng Nghymru

Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yw arweinydd presennol y Blaid Lafur Gymreig (Llafur Cymru).

Mae gan y blaid 29 (allan o 60) Aelodau o'r Senedd yn Senedd Cymru ers etholiad Mai 2016, pan ddewisodd y blaid i ffurfio clymblaid gyda dau aelod arall, Kirsty Williams (Y Democratiaid Rhyddfrydol) a Dafydd Elis-Thomas (annibynnol).[6]

Perfformiad mewn etholiadau

Siart yn dangos canrannau'r bleidlais boblogaidd i bleidiau gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon, 1832–2005.
EtholiadNifer y pleidleisiau i LafurCanran y pleidlaisSeddiEnillydd
190062,6981.8%
2 / 670
Ceidwadwyr
1906321,6635.7%
29 / 670
Rhyddfrydwyr
1910 (Ion.)505,6577.6%
40 / 670
Senedd grog (llyw. leiafrifol Ryddfrydol)
1910 (Rhag.)371,8027.1%
42 / 670
Senedd grog (llyw. leiafrifol Ryddfrydol)
19182,245,77721.5%
57 / 707
Clymblaid
19224,076,66529.7%
142 / 615
Ceidwadwyr
19234,267,83130.7%
191 / 625
Senedd grog (Llyw. leiafrifol Llafur)
19245,281,62633.3%
151 / 615
Ceidwadwyr
19298,048,96837.1%
287 / 615
Senedd grog (Llyw. leiafrifol Llafur)
19316,339,30630.8%
52 / 615
Llywodraeth Cenedlaethol
19357,984,98838.0%
154 / 615
Llywodraeth Cenedlaethol
194511,967,74649.7%
393 / 640
Llafur
195013,266,17646.1%
315 / 625
Llafur
195113,948,88348.8%
295 / 625
Ceidwadwyr
195512,405,25446.4%
277 / 630
Ceidwadwyr
195912,216,17243.8%
258 / 630
Ceidwadwyr
196412,205,80844.1%
317 / 630
Llafur
196613,096,62948.0%
364 / 630
Llafur
197012,208,75843.1%
288 / 630
Ceidwadwyr
1974 (Chwefr.)11,645,61637.2%
301 / 635
Senedd grog (Llyw. leiafrifol Llafur)
1974 (Hyd.)11,457,07939.2%
319 / 635
Llafur
197911,532,21836.9%
269 / 635
Ceidwadwyr
19838,456,93427.6%
209 / 650
Ceidwadwyr
198710,029,80730.8%
229 / 650
Ceidwadwyr
199211,560,48434.4%
271 / 651
Ceidwadwyr
199713,518,16743.2%
419 / 659
Llafur
200110,724,95340.7%
413 / 659
Llafur
20059,562,12235.3%
356 / 646
Llafur
20108,601,44129.1%
258 / 650
Senedd grog (Clymblaid Ceid./Rhyddfr.)
20159,347,30430.4%
232 / 650
Ceidwadwyr
201712,874,98540.0%
262 / 650
Ceidwadwyr
201910,269,07632.1%
202 / 650
Ceidwadwyr

Yr etholiad cyntaf o dan Ddeddf Cynrychioliad y Bobl 1918 pan roddwyd yr hawl i'r rhan fwyaf o ddynion dros 21 oed a merched dros 30 oed i bleidleisio.

Yr etholiad cyntaf i ferched dros 21 gael pleidlais.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol