Bracla

pentref ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Maestref yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr a chymuned ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Bracla[1] (weithiau Bragle;[2] Saesneg: Brackla).[3] Mae'n ystad breswyl enfawr ar lethr deheuol Bryn Bragle yn nwyrain y dref.

Bragle
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth11,749 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd321.41 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.513°N 3.551°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000882 Edit this on Wikidata
Cod OSSS925805 Edit this on Wikidata
Cod postCF31 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSarah Murphy (Llafur)
AS/auJamie Wallis (Ceidwadwyr)
Map

Fe'i codwyd ar diroedd Tŷ Waunscil a Fferm Tremaen. Cododd y cyngor lleol yr ystad wreiddiol yn y gorllewin o amgylch chwarel Tremaen yn y 50au, ond codwyd y rhan fwyaf o'r ystad gan gwmnïau preifat o'r 70au ymlaen. O dan yr ystad mae nifer o dwnelau a ddefnyddiwyd yn yr Ail Ryfel Byd i storio arfau a gynhyrchwyd yn ffatri Tredŵr gerllaw. Defnyddiwyd rhai o'r twnelau wedyn gan GCHQ. Mae nifer o nentydd bychain yn codi o ffynhonnau yn y galchfaen sydd yn y bryn ac yn llifo i lawr i Afon Ewenni yn Nhredŵr. Yr un fwyaf yw Nant Sana.

Mae'r ystad yn dal i ehangu ar weddill tiroedd Fferm Tremaen (sy'n cynnwys y ffermdy ei hun!) ac ar draws dolau Nant Morfa tuag at bentref Coety i'r gogledd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Sarah Murphy (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Jamie Wallis (Ceidwadwyr).[5]

Ysgolion

Mae yna bedair ysgol ar yr ystad.

  • Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr
  • Ysgol Archddeon John Lewis yr Eglwys yng Nghymru
  • Ysgol Gynradd Tremaen
  • Ysgol Gynradd Bragle

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Bracla (pob oed) (11,749)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bracla) (1,126)
  
10%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bracla) (8938)
  
76.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Bracla) (1,223)
  
25.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

Dolen allanol