Bronfraith

rhywogaeth o adar
Bronfraith
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Aves
Urdd:Passeriformes
Teulu:Turdidae
Genws:Turdus
Rhywogaeth:T. philomelos
Enw deuenwol
Turdus philomelos
Brehm, 1831
Wyau'r fronfraith
Bronfraith y grug, Turdus philomelos

Mae'r fronfraith (hefyd bronfraith y grug, bronfraith fach; Lladin Turdus philomelos) yn aelod o deulu'r Turdidae. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop heblaw am dde Sbaen a Phortiwgal, yn enwedig gan ei fod yn hoff o erddi.

Nid yw'r fronfraith yn aderyn mudol fel rheol, ond mae adar o'r gogledd yn symud tua'r de yn y gaeaf. Eu prif fwyd yw pryfed, malwod ac aeron. Defnyddir carreg i dorri cregyn y malwod cyn eu bwyta, a gan fod yr aderyn yn aml yn defnyddio'r un garreg bob tro gellir gweld darnau o gregyn ar wasgar o'i chwmpas. Mae'n nythu mewn llwyni fel rheol.

Gellir gwahaniaethu rhwng y Fronfraith a brych y coed sy'n aderyn tebyg iawn trwy fod y Fronfraith llai na brych y coed ac yn fwy brown ar y pen a'r cefn lle mae brych y coed yn fwy llwydfrown. Mae'r gân yn adnabyddus iawn, a gellir ei hadnabod trwy fod yr aderyn yn ail-adrodd pob darn o'r gân nifer o weithiau cyn symud ymlaen i ddarn arall.

Rhai rhywogaethau yn nheulu'r Turdidae

Rhestr Wicidata:

rhywogaethenw tacsondelwedd
BronfraithTurdus philomelos
Brych daear AbysiniaGeokichla piaggiae
Brych daear CrossleyGeokichla crossleyi
Brych daear MolwcaiddGeokichla dumasi
Brych daear SiberiaGeokichla sibirica
Brych daear cefnllwydGeokichla schistacea
Geokichla cinereaGeokichla cinerea
Geokichla interpresGeokichla interpres
Mwyalch AdeinlwydTurdus boulboul
MwyalchenTurdus merula
Mwyalchen y mynyddTurdus torquatus
Socan eiraTurdus pilaris
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Llenyddiaeth

Cymraeg

Honna rhai[1] mai cerdd am frych y coed Turdus viscivorus ac nid y fronfraith Turdus philomelos roedd goddrych cerdd [Dafydd ap Gwilym] am dan y teitl Y Ceiliog Fronfraith:

Plygain y darllain deirllith,
Plu yw ei gasul[2] i'n plith.
Pell y clywir uwch tiroedd
Ei lef o lwyn a'i loyw floedd.
Proffwyd rhiw, praff awdur hoed[3]
Pencerdd gloyw angerdd glyngoed.”

Un peth sydd o blaid ceiliog bronfraith felgoddrych y gerdd ydi’r gair “llwyn”. Mae brych y coed yn canu fel hyn[4] o’r coed uchaf fel arfer. Mae’r hen enw gwerinol S. ‘stormcock’ yn addas iawn I gyfleu hyn.

Dolenni allanol