Ewrop

cyfandir yn hemisffer gogleddol y Ddaear

Un o'r saith cyfandir yw Ewrop. Mae o'n gyfandir o safbwynt diwylliannol a gwleidyddol yn hytrach nag o ran daearyddiaeth ffisegol. Yn ffisegol ac yn ddaearegol, mae Ewrop yn isgyfandir neu'n benrhyn mawr, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf gorllewinol o Ewrasia. Tua'r gogledd ceir Cefnfor yr Arctig, i'r gorllewin Cefnfor Iwerydd ac i'r de ceir y Môr Canoldir a'r Cawcasws. Mae ffin Ewrop i'r dwyrain yn amhendant, ond yn draddodiadol ystyrir Mynyddoedd yr Wral a Môr Caspia i'r de-ddwyrain fel y ffin dwyreiniol. Ystyrir y mynyddoedd hyn gan y rhan fwyaf o ddaearyddwyr fel y tirffurf daearyddol a thectonig sy'n gwahanu Asia oddi wrth Ewrop.

Ewrop
Mathpart of the world, cyfandir Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlEwropa Edit this on Wikidata
En-us-Europe.ogg, Fr-Europe.ogg, Lb-Europa.ogg, Eo-Eŭropo.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth747,636,045 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserEurope/Athens, Europe/Brussels, Ewrop/Llundain, Kaliningrad Time, Ewrop/Moscfa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolEwrasia, Ostfeste, y Ddaear Edit this on Wikidata
Arwynebedd10,186,000 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAsia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.690959°N 9.14062°E Edit this on Wikidata
Map
Map o'r byd yn dangos Ewrop
Delwedd gyfansawdd lloeren o Ewrop

Ewrop yw'r cyfandir lleiaf ond un yn nhermau arwynebedd, ac mae ganddo tua 10,790,000 km² (4,170,000 mi sg) neu 7.1% o arwynebedd y Ddaear, gydag Awstralia yn unig yn llai na hi. Yn nhermau poblogaeth, dyma'r trydydd cyfandir mwyaf (mae poblogaeth Asia ac Affrica yn fwy). Mae gan Ewrop boblogaeth o 747,636,045 (1 Gorffennaf 2020)[1], neu tua 11% o boblogaeth y byd.

Geirdarddiad

Ym mytholeg Roeg, roedd Ewropa yn dywysoges Ffeniciaidd a gafodd ei herwgipio gan Zeus ar ffurf tarw, a aeth â hi i ynys Creta, lle rhoddodd hi enedigaeth i Minos. I'r bardd Homer, roedd Eurṓpē (Hen Roeg: Εὐρώπη) yn frenhines fytholegol o Greta, yn hytrach na dynodiad daearyddol. Daeth Europa yn enw am dir mawr Groeg, ac erbyn 500 CC roedd ei ystyr wedi ehangu i gynnwys gweddill y cyfandir.

Hanes

Prif: Cynhanes Ewrop a Hanes Ewrop
Ieithoedd Ewrop
Rhanbarthau Ewrop
Ewrop ym 1000

Rhannodd ffin ogleddol yr Ymerodraeth Rhufeinig y cyfandir ar hyd afonydd Rhein a Donaw am sawl canrif. Yn dilyn cwymp yr Ymerodraeth Rhufeinig, syrthiodd rhan helaeth o Ewrop i'r Oesoedd Tywyll. Ond parhaodd gwareiddiad y Rhufeinwyr i flodeuo, ond ar ffurfiau newydd, mewn rhannau o dde Ewrop ac yn y de-ddwyrain dan yr Ymerodraeth Fysantaidd. Yn raddol, troes yr Oesoedd Tywyll yn gyfnod goleuach a adnabyddir fel yr Oesoedd Canol. Blodeuodd dysg eto ond ar ffurf geidwadol a dueddai i edrych yn ôl i'r Byd Clasurol a'r Beibl. Ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, goresgynnodd Ymerodraeth yr Otomaniaid ddinas Caergystennin (Istanbwl) – gan dod â diwedd yr Ymerodraeth Fysantaidd – a daeth yn bŵer pwysicaf Ewrop. Un canlyniad o hynny oedd y Dadeni, cyfnod o ddarganfyddiad, fforio a chynydd mewn gwybodaeth wyddonol. Yn ystod y bymthegfed ganrif agorodd Portiwgal yr oes o ddarganfyddiadau, efo Sbaen yn ei dilyn. Ymunodd Ffrainc, yr Iseldiroedd a Phrydain Fawr yn y ras i greu ymerodraethau trefedigaethol enfawr yn Affrica, yr Amerig, Asia ac Awstralasia.

Ar ôl yr oes o ddarganfyddiadau, dechreuodd cysyniadau democratiaeth gymryd drosodd yn Ewrop. Cafwyd nifer o frwydrau am annibyniaeth, er enghraifft yn Ffrainc yn ystod cyfnod y Chwyldro Ffrengig. Arweiniodd y cynnydd hwn mewn democratiaeth i gynydd mewn tensiynau yn Ewrop ar ben y tensiynau oedd yn bodoli'n barod oherwydd cystadleuaeth â'r Byd Newydd. Y gwrthdaro mwyaf enwog oedd hwnnw pan daeth Napoleon Bonaparte i rym a dechrau ar gyfres o oresgyniadau a ffurfiodd yr Ymerodraeth Ffrengig, ac wedyn cwympo'n fuan iawn. Ar ôl y concwestau yma, ymsadrodd Ewrop, ond roedd yr hen sefydliadau eisoes yn ddechrau cwympo.

Dechreuodd y Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain Fawr yn hwyr yn y ddeunawfed ganrif, ac arweiniodd hyn at symud i ffwrdd o amaeth, mwy o ffyniant economaidd a chynydd cyfatebol mewn poblogaeth. O ddiwedd yr Ail Ryfel Byd tan ddiwedd y Rhyfel Oer, rhannwyd Ewrop yn ddau brif bloc gwleidyddol ac economaidd: y gwledydd Comiwnyddol yn Nwyrain Ewrop (ac eithrio Twrci a Gwlad Groeg) a gwledydd cyfalafol Gorllewin a De Ewrop. O gwmpas 1990, yn ddilyn cwymp Wal Berlin, chwalodd y Bloc Dwyreiniol.

Daearyddiaeth Ewrop

Yn daearyddol mae Ewrop yn rhan o'r ehangdir fwy a elwir yn Ewrasia. Mae'r cyfandir yn dechrau ym Mynyddoedd yr Wral yn Rwsia, sy'n diffinio'r ffin rhwng dwyrain Ewrop ac Asia. Nid yw'r ffin dde-ddwyreiniol ag Asia yn cael ei diffinio'n gyffredinol; gan amlaf mae Afon Wral neu, fel arall, Afon Emba, yn cael ei disgrifio fel ffin y cyfandir yn yr ardal yma. Mae'r ffin yn parhau â Môr Caspia, ac yna Afon Araxes yn y Cawcasws, ac ymlaen i'r Môr Du; mae'r Bosphorus, Môr Marmara, a'r Dardanelles yn diweddu'r ffin ag Asia. Mae Môr y Canoldir i'r de yn gwahanu Ewrop ac Affrica. Y Cefnfor Iwerydd sy'n ffurfio'r ffin orllewinol, ond mae Gwlad yr Iâ, sydd llawer pellach i ffwrdd na'r pwyntiau agosaf i'r cyfandir yn Affrica ac Asia, fel arfer yn cael ei chynnwys yn Ewrop.

Gwledydd Ewrop

Gwladwriaethau annibynnol

Ystyrir y gwladwriaethau annibynnol canlynol i fod yn Ewrop:

    

1 Nid yw Armenia a Cyprus yn rhan o Ewrop yn ddaearyddol, ond gellir eu hystyried yn Ewropeaidd yn diwylliannol.

2 Mae gan Aserbaijan a Georgia tir yn Ewrop i'r gogledd o frig y Cawcasws a'r Afon Kura.

3 Lleolir rhai rhannau o Ffrainc tu fas i Ewrop (megis Gwadelwp, Martinique, Guiana Ffrengig a Réunion).

4 Mae gan Rwsia a Casachstan tir yn Ewrop i'r gorllewin o Mynyddoedd yr Wral ac yr Afonydd Wral ac Emba.

5 Mae enw'r wlad yma yn destun dadl ryngwladol.

6 Mae gan yr Iseldiroedd dwy endid tu fas i Ewrop (Arwba ac Antilles yr Iseldiroedd, yn y Caribi).

7 Lleolir Ynysoedd Madeira Portiwgal yng ngogledd y Cefnfor Iwerydd yn agos i tir mawr Affrica.

8 Lleolir Ynysoedd Dedwydd Sbaen yng ngogledd y Cefnfor Iwerydd; lleolir plazas de soberanía (allglofannau) ar tir mawr Affrica.

9 Mae gan Twrci tir yn Ewrop i'r gorllewin a'r gogledd o'r Bosphorus a'r Dardanelles.

Tabl o wladwriaethau, tiriogaethau a rhanbarthau Ewrop

Enw tiriogaeth,
efo baner
Arwynebedd
(km²)
Poblogaeth
(1 Gorffennaf 2002 amcan.)
Dwysedd poblogaeth
(per km²)
Prifddinas
Dwyrain Ewrop:
Belarws207,60010,335,38249.8Minsk
Bwlgaria110,9107,621,33768.7Sofia
Hwngari93,03010,075,034108.3Budapest
Moldofa33,8434,434,547131.0Chisinau
Gwlad Pwyl312,68538,625,478123.5Warsaw
Rwmania238,39121,698,18191.0Bwcarést
Rwsia3,960,000106,037,14326.8Moscow
Slofacia48,8455,422,366111.0Bratislava
Gweriniaeth Tsiec78,86610,256,760130.1Praha
Wcrain603,70048,396,47080.2Kiev
Gogledd Ewrop:
Denmarc43,0945,368,854124.6Copenhagen
Y Deyrnas Unedig244,82059,778,002244.2Llundain
Estonia45,2261,415,68131.3Tallinn
Ynysoedd Ffaroe (Denmarc)1,39946,01132.9Tórshavn
Y Ffindir337,0305,183,54515.4Helsinki
Ynys y Garn7864,587828.0St Peter Port
Gwlad yr Iâ103,000279,3842.7Reykjavík
Iwerddon70,2803,883,15955.3Dulyn
Jersey11689,775773.9Saint Helier
Latfia64,5892,366,51536.6Riga
Lithwania65,2003,601,13855.2Vilnius
Norwy324,2204,525,11614.0Oslo
Ynysoedd Svalbard a
Jan Mayen
(Norwy)
62,0492,8680.046Longyearbyen
Sweden449,9648,876,74419.7Stockholm
Ynys Manaw57273,873129.1Douglas
De Ewrop:
Albania28,7483,544,841123.3Tirana
Andorra46868,403146.2Andorra la Vella
Bosnia-Hertsegofina51,1293,964,38877.5Sarajevo
Croatia56,5424,390,75177.7Zagreb
Yr Eidal301,23057,715,625191.6Rhufain
Dinas y Fatican0.449002,045.5Dinas y Fatican
Gibraltar (DU)5.927,7144,697.3Gibraltar
Gwlad Groeg131,94010,645,34380.7Athen
Gogledd Macedonia25,3332,054,80081.1Skopje
Malta316397,4991,257.9Valletta
Montenegro13,812616,25848.7Podgorica
Portiwgal91,56810,084,245110.1Lisbon
San Marino6127,730454.6San Marino
Sbaen498,50640,077,10080.4Madrid
Serbia88,3619,598,00096.7Beograd
Slofenia20,2731,932,91795.3Ljubljana
Gorllewin Ewrop:
Yr Almaen357,02183,251,851233.2Berlin
Awstria83,8588,169,92997.4Fienna
Gwlad Belg30,51010,274,595336.8Brwsel
Ffrainc547,03059,765,983109.3Paris
Yr Iseldiroedd41,52616,318,199393.0Amsterdam, Den Haag
Liechtenstein16032,842205.3Vaduz
Lwcsembwrg2,586448,569173.5Lwcsembwrg
Monaco1.9531,98716,403.6Monaco
Y Swistir41,2907,301,994176.8Bern
Gorllewin Asia:
Armenia29,800Yerevan
Aserbaijan39,7304,198,491105.7Baku
Cyprus5,995780,133130.1Nicosia (Lefkosa)
Georgia49,2402,447,17649.7Tbilisi
Twrci724,37871,044,932453.1Ankara
Canolbarth Asia:
Casachstan370,3731,285,1743.4Astana
Cyfanswm10,431,299709,022,06168.0

Gwelwch hefyd

Chwiliwch am Ewrop
yn Wiciadur.