C.P.D. Dinas Caerdydd
Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd (Saesneg: Cardiff City Football Club) yn glwb pêl-droed proffesiynol sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd ac yn un o'r pum clwb o Gymru sy'n chwarae yng nghyfundrefn pêl-droed Lloegr.[1] Mae'n cystadlu yn y Bencampwriaeth, ail haen cynghrair pêl-droed Lloegr. Fe'i sefydlwyd ym 1899 dan yr enw Riverside A.F.C. gan newid i Cardiff City yn 1908. Ymunodd â Chynghrair Pêl-droed De Lloegr ym 1910 cyn symud i Gynghrair Pêl-droed Lloegr yn 1920. Mae'r tîm wedi treulio 17 tymor yn haen uchaf pêl-droed Lloegr; y cyfnod hwyaf oedd rhwng 1921 a 1929. Y cyfnod diweddaraf yn yr haen uchaf oedd tymor yn Uwch Gynghrair Lloegr yn 2018–19.
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd | |||
---|---|---|---|---|
Llysenw(au) | Yr Adar Gleision | |||
Sefydlwyd | 1899 (fel Riverside A.F.C.) | |||
Maes | Stadiwm Dinas Caerdydd | |||
Perchennog | Vincent Tan | |||
Cadeirydd | Mehmet Dalman | |||
Rheolwr | Erol Bulut | |||
Cynghrair | Pencampwriaeth Lloegr | |||
2022–2023 | 21ain o 24 (Pencampwriaeth Lloegr) | |||
Gwefan | Gwefan y clwb | |||
Caerdydd yw'r unig dîm o'r tu allan i Loegr i ennill Cwpan FA Lloegr, gan wneud hynny yn 1927. Maent hefyd wedi cyrraedd tair rownd derfynol yng nghystadlaethau Lloegr: Rownd Derfynol Cwpan FA Lloegr 1925 (colli i Sheffield United), Rownd Derfynol Cwpan FA Lloegr 2008 (colli i Portsmouth) a Rownd Derfynol Cwpan Cynghrair Pêl-droed 2012 (colli i Lerpwl). Maent wedi ennill Cwpan Cymru ar 22 achlysur, sy’n golygu mai nhw yw’r ail dîm mwyaf llwyddiannus yn hanes y gystadleuaeth ar ôl Wrecsam.
Ac eithrio cyfnod byr ar ddechrau'r ganrif hon, glas a gwyn yw lliwiau cartref y clwb ers 1908, a dyna sy'n rhoi cyfrif am y llysenw 'Yr Adar Gleision'. Cae parhaol cyntaf y clwb oedd Parc Ninian a agorwyd yn 1910; parhaodd i gael ei ddefnyddio am 99 mlynedd cyn i'r clwb symud i Stadiwm Dinas Caerdydd yn 2009. Mae Caerdydd yn gystadleuwyr hirsefydlog i glwb pêldroed Dinas Abertawe ac mae'r ddau yn chwarae darbi De Cymru yn erbyn ei gilydd. Gêm ddarbi bwysig arall yw honno yn erbyn Bristol City, a elwir yn ddarbi Glannau Hafren (Severnside). Deiliad y record ar gyfer nifer ymddangosiadau i'r clwb yw Billy Hardy, a wnaeth 590 ymddangosiad dros gyfnod o ugain mlynedd, a’r sgoriwr uchaf yn hanes y clwb yw Len Davies gyda 179 gôl.
Blynyddoedd cynnar (1899–1920)
Yn dilyn cyfarfod yng nghartref yr artist lithograffig Bartley Wilson yng Nghaerdydd,[2] sefydlwyd y clwb ym 1899 dan yr enw Riverside AFC fel ffordd o gadw chwaraewyr Clwb Criced Riverside gyda'i gilydd ac yn heini yn ystod misoedd y gaeaf.[3] [4] Yn eu tymor cyntaf, chwaraeon nhw gemau cyfeillgar yn erbyn timau lleol ar faes Gerddi Sophia. Yn 1900 ymunodd y clwb â Chynghrair Caerdydd a'r Cylch am eu tymor cystadleuol cyntaf. [5] Pan roddodd y Brenin Edward VII statws dinas i Gaerdydd ym 1905, cyflwynodd y clwb gais i Gymdeithas Bêl-droed De Cymru a Mynwy i newid eu henw i Ddinas Caerdydd. [3] Gwrthodwyd y cais gan y tybiwyd nad oeddent yn chwarae ar lefel ddigon uchel. Er mwyn cynyddu ei statws, trefnodd y clwb i ymuno â Chynghrair De Cymru ym 1907. Y flwyddyn ganlynol cawsant ganiatâd i newid enw'r clwb i Cardiff City. [6] [7]
Er ei fod yn tyfu mewn statws, bu’n rhaid i’r clwb wrthod y cyfle i ymuno ag Ail Adran Cynghrair Pêl-droed y De a oedd newydd ei ffurfio oherwydd diffyg cyfleusterau ar eu cae yng Ngerddi Sophia. Dros y ddwy flynedd nesaf, chwaraeodd Caerdydd gemau cyfeillgar yn erbyn rhai o dimau proffesiynol gorau Prydain, gan gynnwys Middlesbrough, Bristol City, a Crystal Palace. Chwaraewyd y gemau ar gaeau Caerdydd a threfi cyfagos er mwyn mesur faint o ddiddordeb a oedd gan y cyhoedd yn y tîm.[8] Yn y diwedd sicrhaodd y clwb dir i adeiladu ei stadiwm ei hun, Parc Ninian, a gwblhawyd yn 1910. Trodd y clwb yn broffesiynol yr un flwyddyn. Prynwyd y chwaraewr cyntaf y flwyddyn ganlynol pan ddaeth Jack Evans o Gwmparc.[9]
Gyda'r maes newydd yn ei le, ymunodd Caerdydd ag Ail Adran Cynghrair Pêl-droed y De [10] a phenodi eu rheolwr cyntaf, Davy McDougall, a ddaeth yn chwaraewr-reolwr.[11] Aethant ymlaen i orffen yn y pedwerydd safle yn eu blwyddyn gyntaf yn y gynghrair. Penderfynodd y bwrdd ddisodli McDougall gyda Fred Stewart, a oedd â phrofiad blaenorol o reoli gyda Stockport County.[12] Aeth ati i fabwysiadu agwedd fwy proffesiynol, gan arwyddo sawl chwaraewr gyda phrofiad o'r Gynghrair Bêl-droed, gan gynnwys y brodyr John a George Burton a Billy Hardy. Dyrchafwyd tîm Stewart yn ei ail dymor trwy gipio teitl yr Ail Adran. Arhoson nhw yn yr Adran Gyntaf am y ddegawd nesaf, a gorffen yn y pedwar uchaf ar ddau achlysur.[13] [14]
Ailfrandio a dyrchafiad i Uwchgynghrair Lloegr
Ar 17 Mehefin 2011, penodwyd Malky Mackay yn rheolwr Caerdydd. Yn ystod ei dymor cyntaf, cymerodd Mackay y clwb i rownd derfynol Cwpan Cynghrair Lloegr am y tro cyntaf yn eu hanes.
Yn 2012, cafodd Dinas Caerdydd ei ailfrandio gan berchnogion y clwb o Maleisia. Newidiwyd lliwiau'r crysau cartref o las i goch a bathodyn y clwb, tra cadwyd eu llysenw, 'Yr Adar Gleision'. Roedd yr ailfrandio yn amhoblogiadd ymysg cefnogwyr y clwb, ond honnodd y prif weithredwr ar y pryd y byddai'n ehangu apêl y clwb.[15] Aethant ymlaen i gael eu dechrau gorau erioed i dymor yn 2012/13, gan hefyd dorri record y clwb wrth ennill naw gêm gartref o'r bron. Gorffennwyd y tymor gyda dyrchafiad i'r Uwchgynghrair fel pencampwyr y Bencampwriaeth.
Cefnogaeth
Mae gan Gaerdydd ddalgylch eang i ddenu cefnogwyr ohono. Gyda dim ond dau dîm proffesiynol (Abertawe a Chasnewydd) yn rhannu rhanbarth De Cymru, mae'r clwb yn mwynhau cefnogaeth sylweddol o ddinas Caerdydd a Chymoedd De Cymru o'i chwmpas.[16] Fel clwb Cymreig sy’n chwarae yn system cynghrair pêl-droed Lloegr, credir bod hunaniaeth genedlaethol yn ffactor mawr o ran cefnogaeth , ac mae rhai o gemau’r clwb yn cael eu hystyried yn gystadleuaeth trosffiniol rhwng Cymru a Lloegr.[16] [17]
Yn ystod yr 1980au, wrth i'r clwb frwydro yn adrannau isaf pêl-droed Lloegr, gostyngodd torfeydd i gyfartaledd o 3,000 fesul gêm. Gwelodd cynnydd yn ffawd y clwb welliant cyson yn niferoedd y torfeydd. Cododd cyfartaledd presenoldeb mewn gemau cartref o 3,594 i 12,522 rhwng 1997 a 2002.[18] Daeth dyrchafiad i'r ail haen yn 2003 â chynnydd pellach mewn niferoedd. Arweiniodd agoriad Stadiwm Dinas Caerdydd at bresenoldeb cyfartalog o 20,000 o gefnogwyr, gan arwain at uchafbwyntiau o rhwng 28,000 a 31,000 yn ystod dau dymor yn yr Uwch Gynghrair.[19] [20] Er gwaethaf y cynnydd hwn, mae'r clwb yn aml wedi cael ei ystyried fel un sy'n denu llai o wylwyr na thimau mewn sefyllfa debyg. Mae hyn wedi'i briodoli i sawl ffactor megis newid dadleuol y clwb i grysau coch rhwng 2012 a 2015, y ffaith fod rhai cefnogwyr yn cael eu gweld fel cefnogwyr tywydd teg, a diffyg awyrgylch.[19] [21]
Mae hunaniaeth genedlaethol Gymreig hefyd yn cyfrannu at ddiwylliant cefnogwyr y clwb. Ymhlith eu hoff ganeuon y mae 'Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech', cân a wnaed yn enwog i raddau helaeth gan y ffilm Zulu o 1964, a oedd yn darlunio brwydr â llawer o filwyr o Gymru,[22] ac 'I'll Be There', fersiwn o gân glöwr a oedd yn boblogaidd yn ystod Streic gyffredinol y Deyrnas Unedig 1926.[23] Mae'r Ayatollah, sef codi'r ddwy fraich i fyny ac i lawr uwchben y pen a phatio'r corun, wedi dod yn gyfystyr â'r clwb a'i gefnogwyr ers y 1990au cynnar. [24] [25] Mae'r arfer wedi dod yn boblogaidd gyda chefnogwyr Caerdydd y tu allan i bêl-droed i ddangos cefnogaeth i'r clwb ac mae'r paffiwr Nathan Cleverly, [26] y nofiwr Olympaidd David Davies a'r chwaraewr rygbi Gareth Thomas i gyd wedi ei berfformio ar rai adegau o'u gyrfa.[24] [27]
Cystadleuwyr
Mae cystadleuaeth fwyaf arwyddocaol clwb pêl-droed Caerdydd gyda chymdogion cyfagos Abertawe, ac mae dros 100 o gemau darbi De Cymru wedi'u chwarae ym mhob cystadleuaeth rhwng y timau. Gêm gystadleuol gyntaf Abertawe yn dilyn eu sefydlu ym 1912 oedd yn erbyn Caerdydd yng Nghynghrair Pêl-droed y De.[28] Bu'r gystadleuaeth yn gymharol gyfeillgar tan y 1970au a'r 1980au. Arweiniodd materion economaidd, megis streic glowyr y DU, cystadleuaeth rhwng y ddwy ddinas a chynnydd mewn hwliganiaeth pêl-droed at nifer o wrthdrawiadau treisgar rhwng cefnogwyr yn y gemau. Galwyd un gêm yn 1993 yn 'Brwydr Parc Ninian' am ei thrais arbennig o ddifrifol ac arweiniodd hynny at gefnogwyr oddi cartref yn cael eu gwahardd rhag mynychu unrhyw gemau rhwng y timau am bedair blynedd. [29] [30] [31] Disgrifiodd chwaraewr Caerdydd, Jason Perry, y cyfnod fel 'dyddiau tywyll, tywyll y darbi'.[32] Pan ollyngwyd y gwaharddiad, cyflwynwyd 'teithiau swigen' ar gyfer cefnogwyr oddi cartref a oedd ond yn gallu mynychu gemau trwy gonfoi a oedd yn cael ei dywys gan yr heddlu i'r stadiwm ac oddi yno.[29] [30]
Achoswyd rhaniad gwleidyddol pellach rhwng y ddwy ddinas gan refferendwm datganoli Cymru yn 1997 pan ddewiswyd Caerdydd yn safle ar gyfer y Senedd newydd, er i fwyafrif y ddinas bleidleisio yn erbyn datganoli.[33] Derbyniodd Abertawe, a bleidleisiodd i raddau helaeth o blaid datganoli, arian ar gyfer pwll nofio cenedlaethol yn lle hynny.[33] Dywedodd Alan Curtis, a oedd wedi chwarae i'r ddwy ochr, 'Rwy'n meddwl bod Caerdydd wedi cael ei gweld erioed [...] i dderbyn pa bynnag gyllid sy'n mynd o gwmpas. Mae'n ymddangos i mi bod popeth yn cael ei sianelu i'r cyfeiriad hwnnw.'[34] Ymhellach i ffwrdd, mae gan y clwb gystadleuaeth â Bristol City, a elwir yn ddarbi Glan Hafren, ac i raddau llai, Bristol Rovers . Mae yna hefyd lai o gystadleuaeth gyda chymdogion Cymreig, Casnewydd, er gwaethaf agosrwydd y ddwy ddinas Gymreig; anaml maen nhw wedi chwarae yn erbyn ei gilydd ers yr 1980au oherwydd bod Caerdydd mewn cynghreiriau uwch. Yn gyfan gwbl, dim ond ugain gêm Cynghrair Pêl-droed y maen nhw erioed wedi eu chwarae yn erbyn ei gilydd. Mewn arolwg gan Gyfrifiad Cefnogwyr Pêl-droed yn 2003, rhestrwyd Abertawe, Bristol City, a Chasnewydd fel tair prif gystadleuwyr Caerdydd, gyda Stoke City yn cyfateb i Gasnewydd yn drydydd.[35]
Yn yr 1980au, daeth grŵp hwligan o'r enw The Soul Crew i'r amlwg ymhlith cefnogwyr y clwb.[36] Daeth y grŵp yn enwog am eu gwrthdaro treisgar gyda chefnogwyr eraill a ffrygydau rhwng setiau o gefnogwyr mewn gemau pêl-droed a digwyddiadau eraill. [37] [38]
Lliwiau, cit ac arwyddlun
Lliwiau
Pan ffurfiwyd Riverside A.F.C. yn 1899, brown siocled ac ambr oedd lliw crys y clwb. Yn dilyn newid enw i Ddinas Caerdydd yn 1908, mabwysiadwyd crys glas a siorts a hosanau gwyn neu las, er y defnyddiwyd hosanau du am y naw mlynedd gyntaf. Dros y blynyddoedd ers hynny mae cit y clwb wedi cynnwys citiau cwbl las, streipen felen fertigol a gyflwynwyd yn ystod y 1970au, a streipiau glas bob yn ail.
Mewn cam dadleuol yn 2012, newidiodd Caerdydd liwiau eu cit i goch a du,[39] y tro cyntaf i'r clwb beidio â gwisgo glas fel ei brif liw ers 1908. Newidiwyd yr arwyddlun hefyd i un yr oedd y Ddraig Goch yn fwy amlwg arno na'r aderyn glas traddodiadol. Gwnaethpwyd y newidiadau hyn er mwyn apelio at 'farchnadoedd rhyngwladol' fel rhan o 'gynllun buddsoddi mawr' a ddadorchuddiwyd gan y cadeirydd Vincent Tan.[40] Ysgogodd yr ailfrandio wrthwynebiad cryf gan y cefnogwyr, a drefnodd orymdeithiau protest a gwrthdystiadau i leisio eu hanfodlonrwydd ynghylch y newidiadau.[41][42] Er i Tan nodi’n flaenorol na fyddai’r clwb ond yn dychwelyd i wisgo glas pe bai perchennog newydd yn cael ei ganfod, ar 9 Ionawr 2015, ar ôl tri thymor yn chwarae yn y cit coch, fe ddychwelodd y clwb i git cartref glas gyda chit oddi-cartref coch mewn ymgais i 'uno' y clwb.[43][44]
Arwyddlun
O 1908 ymlaen chwaraeai Caerdydd mewn crysau heb eu haddurno. Newidiodd hyn yn 1959 pan gafwyd arwyddlun syml yn dangos delwedd o aderyn glas. Y tymor canlynol gwisgwyd crysau plaen heb eu haddurno ac felly y bu tan 1965 pan ychwanegwyd y gair 'Bluebirds' wedi'i frodio. Yn 1969, cyflwynwyd arwyddlun newydd, tebyg i'r un a ddefnyddiwyd yn flaenorol, a gynhwysai'r aderyn glas. Amrywiadau ar yr arwyddlun hwn sydd wedi'u defnyddio ers hynny. Yn y 1980au, ychwanegwyd nodweddion pellach gan gynnwys geiriau a motiffau. Gwnaethpwyd newid mawr yn 2012, pan geisiodd y perchennog Vincent Tan ailfrandio'r clwb i ehangu ei apêl y tu allan i Gymru.[45] Rhoddodd y newid hwn amlygrwydd mawr i'r Ddraig Goch, gan leihau'r aderyn glas i fod yn nodwedd fechan. Ym mis Mawrth 2015, cyhoeddodd Caerdydd arwyddlun newydd a oedd unwaith eto'n cynnwys yr aderyn glas yn y lle amlycaf gyda draig Tsieineaidd yn cymryd lle'r ddraig Gymreig safonol.[46]
Gwneuthurwyr cit a noddwyr crysau
Cyfnod | Gwneuthurwyr cit | Noddwyr crysau |
---|---|---|
1973–82 | Umbro | Dim |
1983 | Whitbread Wales | |
1984 | Superted Camilleri Roofing | |
1984–85 | Merthyr Motor Auctions | |
1985–87 | Admiral | Airways Cymru |
1987–88 | Buckley's Brewery | |
1988–89 | Scoreline | |
1989–90 | Havelet | |
1990–91 | None | |
1991–92 | Influence | |
1992–94 | Bluebirds | South Wales Echo |
1994–95 | Strika | |
1995–96 | Influence | |
1996–97 | Lotto | |
1997–98 | Errea | Gilesports |
1998–99 | Xara | Sports Cafe |
1999–2000 | Modplan | |
2000–02 | Ken Thorne Group | |
2002–03 | Puma | Leekes |
2003–05 | Redrow Homes | |
2005–06 | Joma | |
2006–08 | Communications Direct | |
2008–09 | Vansdirect | |
2009–10 | Puma | 777.com[47] |
SBOBET | ||
2009–10 | ||
2010–11 | ||
2011–14 | Bwrdd twristiaeth Malaysia a BBC Cymru | |
2014–15 | Cosway Sports | |
2015–22 | Adidas | |
2022– | New Balance |
Chwaraewyr
Tîm Cyntaf y Dynion
Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.
|
|
Ar fenthyg
Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.
|
|
Rhifau wedi eu neilltuo
Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.
|
Dan-23 ac Academi
Mae gan Gaerdydd academi ieuenctid ar gyfer chwaraewyr rhwng saith a deunaw oed.[48] Mae'r chwaraewyr sydd wedi dod trwy'r academi ieuenctid yn cynnwys y chwaaraewyr rhynglwadol Joe Ledley, Chris Gunter, Aaron Ramsey, Adam Matthews, Darcy Blake, Declan John, Rabbi Matondo, Mark Harris a Rubin Colwill.[49] Bu Robert Earnshaw a James Collins yn rhan o'r system ieuenctid cyn i hwnnw dderbyn statws academi.[50][51]
C.P.D. Merched Dinas Caerdydd
Cynrycholir y clwb hefyd gan dîm pêl-droed merched sef C.P.D. Merched Dinas Caerdydd. Yn wahanol i glwb y dynion, mae'r merched yn cystadlu yn system byramid Cymdeithas Bêl-droed Cymru gan chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru lle maent wedi bod yn llwyddiannus iawn ac ennill sawl gwaith.
Rheolwyr
Enw | Cenedligrwydd | Penodwyd[52] | Ymadawodd[52] |
---|---|---|---|
Phil Neal | 1996 | 1996 | |
Kenny Hibbitt (Gofalwr) | 1996 | 1996 | |
Russell Osman | 1996 | 1998 | |
Kenny Hibbitt (Gofalwr) | 1998 | 1998 | |
Frank Burrows | 1998 | 2000 | |
Billy Ayre | 2000 | 2000 | |
Bobby Gould | 2000 | 2000 | |
Alan Cork | 2000 | 2002 | |
Lennie Lawrence | 2002 | 2005 | |
Dave Jones | 2005 | 2011 | |
Malky Mackay | 2011 | 2013 | |
David Kerslake (Gofalwr) | 2013 | 2014 | |
Ole Gunnar Solskjær | 2014 | 2014 | |
Scott Young a Danny Gabbidon (Gofalwyr) | 2014 | 2014 | |
Russell Slade | 2014 | 2016 | |
Paul Trollope | 2016 | 2016 | |
Neil Warnock | 2016 | 2019 | |
Neil Harris | 2019 | 2021 | |
Mick McCarthy | 2021 | 2021 | |
Steve Morison | 2021 | 2022 | |
Mark Hudson | 2022 | 2023 | |
Dean Whitehead (Gofalwr) | 2023 | 2023 | |
Sabri Lamouchi | 2023 | 2023 | |
Erol Bulut | 2023 |
Ffynhonnell.[52]