James Collins (pêl-droediwr, g. 1983)

pêl-droediwr

Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw James Collins (ganwyd James Michael Collins 23 Awst 1983). Mae'n chwarae i West Ham United yn Uwchgynghrair Lloegr a thîm cenedlaethol Cymru.

James Collins

Collins yn chwarae i West Ham United, Awst 2012
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnJames Michael Collins[1]
Dyddiad geni (1983-08-23) 23 Awst 1983 (40 oed)[1]
Man geniCasnewydd, Cymru
Taldra1.88m[2]
SafleAmddiffynnwr
Y Clwb
Clwb presennolWest Ham United
Rhif19
Gyrfa Ieuenctid
000?–2000Dinas Caerdydd
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2000–2005Dinas Caerdydd66(3)
2005–2009West Ham United54(2)
2009–2012Aston Villa91(5)
2012–West Ham United77(1)
Tîm Cenedlaethol
2001Cymru dan 193(0)
2002Cymru dan 202(0)
2002–2004Cymru dan 218(0)
2004–Cymru51(3)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 16:35, 27 Ebrill 2015 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 21:00, 28 Mawrth 2015 (UTC)

Gyrfa clwb

Dinas Caerdydd

Dechreuodd Collins ei yrfa fel chwaraewr ifanc â Dinas Caerdydd yn Awst 2000 a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm cyntaf mewn gêm yng Nghwpan FA Lloegr yn erbyn Bristol Rovers yn Nhachwedd 2000[3]. Gwnaeth 86 ymddangosiad dros Gaerdydd gan sgorio chwe gôl[3] a chafodd ei enwebu'n Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2005[4].

West Ham United

Ymunodd Collins â West Ham United yng Ngorffennaf 2005, ynghyd â'i gyd chwaraewr o Gaerdydd, Danny Gabbidon, wrth i Alan Pardew dalu £3.5m am y pâr.[4]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Sheffield Wednesday yng Nghwpan Cynghrair Lloegr ar 20 Medi 2005[5] a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr ar 29 Hydref 2005 yn erbyn Lerpwl[6]. Sgoriodd ei gôl gyntaf i West Ham mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Portsmouth ar Wŷl San Steffan, 2005.[7].

Ar 28 Ionawr 2008, dioddefodd Collins anaf difrifol mewn gêm i ail dîm West Ham welodd o allan o'r gêm am naw mis[8].

Aston Villa

Ymunodd Collins ag Aston Villa ar 1 Medi 2009[9] gan wneud ei ymddangosiad cyntaf ar 13 Medi yn gêm ddarbi yn erbyn Birmingham City. Ym Mawrth 2011, cafodd Collins a'i gyd chwaraewr Richard Dunne eu dirwyo pythefnos o gyflog gan y rheolwr, Gérard Houllier, yn dilyn row "meddwol" gyda staff y clwb[10].

Dychwelyd i West Ham

Ar 1 Awst 2012, ail ymunodd Collins â West Ham United ar gytundeb pedair blynedd[11].

Gyrfa ryngwladol

Chwaraeodd Collins wyth o weithiau i dîm dan 21 Cymru gan arwain y tîm mewn gêm yn erbyn Yr Almaen dan 21 yn 2005[12].

Gwnaeth Collins ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Norwy yn 2004[13] ac roedd yn gapten ar ei wlad am y tro cyntaf yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Sweden ym Mawrth 2010[3].

Ymddeoliad

Cyhoeddoedd ei ymddeoliad o bêl-droed ar 17 Hydref 2020. Yn 37 oed, nid oedd wedi chwarae ers gadael clwb Ipswich ym mis Mai 2019.[14]

Cyfeiriadau