Cadarnwedd
Mewn systemau electronig a chyfrifiadura, mae cadarnwedd (Saesneg: firmware) yn fath penodol o feddalwedd sy'n darparu rheolaeth lefel-isel ar gyfer caledwedd y ddyfais. Gall cadarnwedd naill ai ddarparu amgylchedd gweithredu safonol ar gyfer meddalwedd mwy cymhleth y ddyfais, neu ar gyfer dyfeisiau llai cymhleth, gall y cadarnwedd gyflawni swydd system weithredu'r ddyfais, gan reoli, monitro a thrin data. Mae bron pob dyfais electronig y tu hwnt i'r symlaf yn cynnwys peth.
Enghraifft o'r canlynol | math o feddalwedd |
---|---|
Math | meddalwedd, caledwedd |
Rhagflaenwyd gan | caledwedd |
Olynwyd gan | assembler |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymhlith yr enghreifftiau nodweddiadol o ddyfeisiau sy'n cynnwys cadarnwedd mae:
- systemau wedi'u mewnosod (embedded systems)
- offer defnyddwyr e.e. teclyn sain, ffôn llaw, peiriant golchi dillad, y car, zapyr y teledu
- cyfrifiaduron e.e. ar y ROM
- dyfeisiau cyfrifiadurol, ymylol: y cerdyn graffig, y sganiwr, y disg caled, y gyrrwr DVD, yr allweddell, y sgrin gyffwrdd / TFT ayb.[1]
Lleolir y cadarnwedd, fel arfer, ar ddyfais storio, neu gof ROM, neu ers y 2010au ar y fflachgof. Hyd at y 2010au, unwaith yn unig y llwythid y cadarnwedd ar ROM y teclyn. Dim ond yn araf y gellid newid y data a storiwyd yn y ROM, a hynny gyda chryn anhawster neu ddim o gwbl. Er enghraifft, mae BIOS y cyfrifiadur, fel arefr, wedi'i roi yn y ROM, a dim ond yn achlysurol iawn y caiff ei uwchraddio.[2]
Bathwyd y term firmware gan Ascher Opler a hynny yn 1967.[3]
Flachio
- Prif: Fflachgof
Fflachio yw'r weithred o drosysgrifo'r cadarnwedd neu ddata, a leolir yn yr EPROM neu fodiwlau'r fflachgof - o fewn dyfais electronig, gyda data newydd.[4] Gwneir hyn er mwyn uwchraddio'r ddyfais[5] Er enghraifft, gellir newid y gwasanaethwr neu ddarparwr y ffôn, drwy'r broses o fflachio. I wneud hyn, defnyddir rhaglen gyfrifiadurol syml gan y darparwr.
Yr hawddaf yw hi i fflachio, y mwyaf tebygol yw hi i haciwr dorri i mewn i'r system a chymeryd drosodd y ddyfais. Lle mae bywyd yn y fantol, e.e. 'cyfrifiadur' y car - mae'n hanfodol mai dim ond gwneuthurwr y car all uwchraddio cadarnwedd y car.
Hacio'r cadarnwedd
Yn 2015 darganfu Kaspersky Lab fod grwp o'r enw "the Equation Group" wedi addasu disgiau caled sawl cwmni rhyngwladol, gan osod yn ddiarwybod i'r cwmniau (hyd y gwyddus) eu bod wedi gosod ceffyl Trojan ar rannau o'r ddisg na chant eu dileu pan gaiff y ddisg ei fformadu, neu pan fo'r data'n cael ei ddileu.[6] Mae'r dystiolaeth yn awgrymu'n gryf iawn mai'r National Security Agency (NSA) Unol Daleithiau America oedd yn gyfrifol am yr ymdrech yma i ysbio ar wybodaeth ar ddisgiau caled llywodraethau a chwmniau'r byd.[7][8] Yn ôl Kaspersky Lab, dyma'r achos waethaf o hacio a fu erioed, gyda dros 500 o ddyfeisiadau wedi'u hacio mewn 42 gwlad.