Canaan

Rhanbarth hynafol yn y Dwyrain Agos oedd Canaan a oedd yn gartref i wareiddiad Semiteg o'r enw Cananeaid yn ystod diwedd yr ail fileniwm CC. Ymddengys yr enw Canaan yn y Beibl yn cyfateb i'r Lefant, yn enwedig yr hen Balesteina a thiroedd Ffenicia, Philistia ac Israel, rhwng y Môr Canoldir i'r gorllewin ac Afon Iorddonen i'r dwyrain.

Canaan
Mathrhanbarth, gwlad ar un adeg, gwareiddiad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCanaan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Cyfesurynnau32.76667°N 35.33333°E Edit this on Wikidata
Map

Defnyddir yr enw Cananeaid fel term mantell i ddisgrifio nifer o bobloedd gynhenid—cymunedau sefydlog a nomadiaid bugeiliol— ar draws de'r Lefant.[1] Dyma'r term ethnig cyffredinaf yn y Beibl.[2] Yn Llyfr Josua, cynhwysir y Cananeaid mewn rhestr o genhedloedd i'w difa,[3] ac yn ddiweddarach fel cenedl a orchfygwyd gan yr Israeliaid.[4] Yn ôl yr ysgolhaig Beiblaidd Mark Smith, mae tystiolaeth archaeolegol yn awgrymu i ddiwylliant yr Israeliaid hynafol deillio i raddau helaeth o'r Cananeaid.[5][6] Ymddengys enw y Cananeaid sawl canrif yn ddiweddarach fel hunan-enw gan y bobl a elwid gan y Groegiaid gynt (ers tua 500 CC) yn Ffeniciaid,[4] ac yn sgil ymfudiad Cananeaid i Garthago fe'i defnyddid hefyd yn hunan-enw gan y siaradwyr Pwneg (Ffeniceg) (chanani) yng Ngogledd Affrica yn ystod cyfnod diweddaraf yr Henfyd.

Bu Canaan yn rhanbarth o bwys ddaearwleidyddol sylweddol yn Oes Ddiweddar yr Efydd ac ar ffiniau meysydd dylanwad ymerodraethau'r Hen Aifft, yr Hethiaid, Mitanni a'r Asyriaid yng nghyfnod Amarna (14g CC). Mae gwybodaeth gyfoes am Ganaan yn dibynnu ar y cloddfeydd archaeolegol mewn safleoedd megis Tel Hazor, Tel Megiddo, En Esur a Gezer.

Cyfeiriadau