Cantrefi a chymydau Cymru

Unedau cwbl naturiol, organaidd oedd y rhaniadau Cymreig hyn, seiliedig ar nodweddion y tir yn bennaf. Dichon eu bod yn hŷn yn y bôn na'r hen deyrnasoedd eu hunain ac yn ogystal mae'r rhan fwyaf ohonynt yma o hyd fel unedau eglwysig.

Cantrefi a chymydau Cymru
Llinellau agoriadol rhan o Lyfr Coch Hergest, sef rhestr o gymydau (chwith) a chantrefi.
Enghraifft o'r canlynolerthygl sydd hefyd yn rhestr Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Rhestrir isod y cantrefi a'r cymydau fesul teyrnas draddodiadol, er mwyn hwylustod. Sylwer bod y termau "cantref" a "chwmwd" yn annelwig braidd yn y llyfrau Cyfraith; dichon bod rhai o'r cymydau yn greadigaethau lled-ddiweddar fel unedau gweinyddol.

Cymru yn Oes y Tywysogion

Gwynedd (Gwynedd Uwch Conwy)

Teyrnasoedd Cymru yn yr Oesoedd Canol.

Ar Ynys Môn:

Ar dir mawr Gwynedd:

Ychwanegwyd Penllyn ar ddechrau'r 13g a Chantref Meirionnydd yn 1256. Daeth arglwyddiaeth Dinmael yn rhan o Wynedd Uwch Conwy yn ddiweddarach yn ogystal.

Y Berfeddwlad (Gwynedd Is Conwy)

Powys (Powys Fadog a Powys Wenwynwyn)

Map cyffredinol o gantrefi Powys

Rhwng Gwy a Hafren

Deheubarth

Dyfed

Ceredigion

Ystrad Tywi

Brycheiniog

De-ddwyrain Cymru (Morgannwg, Glywysing a Gwent)

Mae'r sefyllfa yn y de-ddwyrain yn cael ei gymhlethu gan y ffaith nad oes gennym lawer o fanylion am ffiniau'r terynasoedd cynnar a hefyd am fod y Normaniaid wedi meddiannu rhan helaeth yr ardal yn gynnar a chreu eu harglwyddiaethau eu hunain yno.

Ardal Morgannwg

Gwent

Rhestr cantrefi a chymydau Llyfr Coch Hergest

Yn ystod y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol roedd Cymru yn cael ei rannu'n wleidyddol yn bedair teyrnas fawr, sef Gwynedd, Powys, Deheubarth a Morgannwg. Roedd eu hanes yn ddigon cyfnewidiol ar adegau, â'u tiriogaeth yn ehangu neu'n crebachu neu'n cael ei rhannu'n unedau llai (fel yn achos Powys a rennid yn Bowys Fadog a Phowys Wenwynwyn, er enghraifft), ond er i'r teyrnasoedd hyn ddiflannu eu hunain yn sgîl dyfodiad y Normaniaid a'r gwncwest Seisnig, goroesodd eu hunedau sylfaenol, sef cantrefi a chymydau Cymru.Yn Llyfr Coch Hergest (1375-1425) ceir rhestr o'r cantrefi a'r cymydau a luniwyd ar ddiwedd y 14g, yn ôl pob tebyg.[1] Fodd bynnag, er ei bod yn ddogfen hanesyddol bwysig mae'r rhestr yn codi mwy o broblemau nag y mae'n datrys. Mae'r gwendidau amlwg yn cynnwys y ffaith fod y rhestr yn amwys iawn mewn rhannau ac yn cynnwys enwau lleoedd sy'n anodd i'w dehongli a'u lleoli'n foddhaol. Yn yr adran ar Wynedd, er enghraifft, lleolir Dinmael yn Llŷn a rhennir cantref Arfon yn ddau gwmwd "Is Conwy" ac "Uwch Conwy," ond nid yw Arfon yn gorwedd ar Afon Conwy ac mae'n amlwg fod yr ysgrifennwr wedi camddeall hen raniad sylfaenol teyrnas Gwynedd, sef Gwynedd Uwch Conwy a Gwynedd Is Conwy (rhaniad oedd wedi peidio bod erbyn ei gyfnod ef). Rhaid cofio hefyd fod yr hen drefn wedi ei disodli gan y siroedd newydd dros ran helaeth y wlad. Yn ogystal mae orgraff y rhestr yn eithriadol fympwyol hyd yn oed yn ôl safonau llawysgrifau'r Oesoedd Canol. Rhoddir y testun yma yn yr orgraff wreiddiol gyda'r enwau mewn orfraff safonol lle bo hynny'n ymarferol.

Gwynedd

Powys

Maelienydd

Buellt

  • Cantref Buellt
    • Kymwt Penn Buellt (Cwmwd Pen Buellt)
    • Kymwt Swydman (Cwmwd Swyddman : Cwmwd Dinan)
    • Kymwt Treflys (Cwmwd Treflys)
    • Kymwt Is Iruon (Cwmwd Is Irfon)

Elfael

Brecheinawc (Brycheiniog)

  • Cantref Selyf
  • Cantref Tewdos
    • Kymwt Dyffryn Hodni (Cwmwd Dyffryn Hoddni)
    • Kymwt Llywel (Cwmwd Llys Hywel)
    • Kymwt Tir Rawlf (Cwmwd Tir Rawlff)
  • Cantref Ida (?Pencelli)
    • Kymwt Ystrat Yw (Cwmwd Ystrad Yw)
    • Kymwt Cruc Howel (Cwmwd Crughywel)
    • Kymwt Evyas (Cwmwd Ewias : Ewias Lacy)

Ystrad Tywi

Ceredigyawn (Ceredigion)

Emlyn

Cemeis

Wartha (Gwarthaf)

Deugledyf (Deugleddyf)

  • Cantref Deugledyf (Cantref Deugleddyf : Cantref Daugleddau)
    • Kymwt Llan y Hadein (Cwmwd Llan yr Hadain : Cwmwd Llanhuadain)
    • Kymwt Castell Hu (Cwmwd Castell Hu)

Pennbrwc (Pembrwc)

  • Cantref Pennbrwc (Cantref Penfro)
    • Kymwt Coet Raff (Cwmwd Coed Raff)
    • Kymwt Maenawrbir (Cwmwd Maenorbŷr)
    • Kymwt Pennbrwc (Cwmwd Penfro)

Pebideawc (Pebidiog)

Ros (Rhos)

  • Cantref Ros (Cantref Rhos)
    • Kymwt Hawlfford (Cwmwd Hwlffordd)
    • Kymwt Kastell Gwalchmei (Cwmwd Castell Gwalchmai)

Morgannwc (Morgannwg)

  • Cantref Gorvynyd (Cantref Gorfynydd)
    • Kymwt Rwng Neth a Thawy (Rhwng Nedd a Thawe)
    • Kymwt Tir yr Hwndryt (Cwmwd Tir yr Hwndrwd)
    • Kymwt Rwng Neth ac Avyn (Cwmwd Rhwng Nedd ac Afan)
    • Kymwt Tir yr Iarll (Cwmwd Tir Iarll)
    • Kymwt y Coety (Cwmwd y Coety)
    • Kymwt Maenawr Glynn Ogwr (Cwmwd Maenor Glyn Ogwr)
  • Cantref Penn Ychen (Cantref Penychen)
    • Kymwt Meisgyn (Cwmwd Meisgyn)
    • Kymwt Glyn Rodne (Cwmwd Glyn ?Rhodni?)
    • Kymwt Maenawr Tal y Vann (Cwmwd Maenor Tal y Fan)
    • Kymwt Maenawr Ruthyn (Cwmwd Maenor Rhuthun)
  • Cantref Breinyawl (Y Cantref Breiniol : Cantref Senghennydd)
    • Kymwt Is Caech (Cwmwd Is Caech)
    • Kymwt Uch Caech (Cwmwd Uwch Caech)
    • Kymwt Kibwr (Cwmwd Cibwr)
  • Cantref Gwynllwc (Cantref Gwynllŵg)
    • Kymwt yr Heid (Cwmwd yr Haidd)
    • Kymwt Ydref Berued (Cwmwd y Dref Berfedd)
    • Kymwt Edelygyon (Cwmwd ?Edelygion?)
    • Kymwt Eithyaf (Cwmwd ?Eithaf?)
    • Kymwt y Mynyd (Cwmwd y Mynydd)
  • Cantref Gwent

Cyfeiriadau

Llyfryddiaeth

  • Wendy Davies, Wales in the Early Middle Ages (Leicester, 1982)
  • Melville Richards, Welsh Administrative and Territorial Units (Caerdydd, 1969)