Charlie Brooker
Newyddiadurwr, sgriptiwr a darlledwr o Sais yw Charlton "Charlie" Brooker (ganwyd 3 Mawrth 1971). Mae'n feirniad teledu sy'n defnyddio hiwmor ffyrnig a rheglyd ac yn aml pesimistaidd.
Charlie Brooker | |
---|---|
Ganwyd | 3 Mawrth 1971 Reading |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | sgriptiwr, cynhyrchydd teledu, newyddiadurwr, digrifwr, cyflwynydd teledu, showrunner |
Cyflogwr | |
Priod | Konnie Huq |
Cychwynnodd ei yrfa yn y 1990au gyda'r cylchgrawn PC Zone a'r wefan TVGoHome[1] o 1999 hyd 2003. Ysgrifennodd adolygiad teledu wythnosol, "Screen Burn", yn The Guardian o 2000 hyd 2010.[2] Mae hefyd yn ysgrifennu colofn yn The Guardian.
Cyflwynodd tri chyfres ar BBC Four yn y 2000au: Screenwipe, Newswipe, a Gameswipe. Cyflwynodd hefyd dwy gyfres o'r gêm banel You Have Been Watching ar Channel 4. Cyflwynodd Brooker gyfres ddogfen ar bwnc teledu, How TV Ruined Your Life ar BBC Two yn 2011. Ef hefyd oedd un o gyflwynwyr y gyfres newyddion ddychanol 10 O'Clock Live ar Channel 4, gyda Jimmy Carr, David Mitchell, a Lauren Laverne.[3] Creodd Black Mirror, cyfres ddrama ddychanol o dair phennod a ddarlledwyd ar Channel 4 yn 2011.
Priododd y gyflwynwraig teledu Konnie Huq yn 2010,[4] a chafodd blentyn yn 2012.[5]
Llyfryddiaeth
- TV Go Home, 2001 (ISBN 1-84115-675-2)
- Unnovations, 2002 (ISBN 1-84115-730-9)
- Screen Burn, 2004 (ISBN 0-571-22755-4)
- Dawn of the Dumb: Dispatches from the Idiotic Frontline, 2007 (ISBN 9780571238415)
- The Hell of it All, 2009 (ISBN 9780571229574)
- I Can Make You Hate, 2012 (ISBN 0-571-295-029)