Christina Rees

gwleidydd Cymreig ac AS

Gwleidydd Llafur a'r Blaid Gydweithredol Cymreig yw Christina Rees. Mae hi wedi bod yn AS dros Castell-Nedd ers mis Mai 2015.[1]

Christina Rees
AS
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru
Yn ei swydd
9 Chwefror 2017 – 6 Ebrill 2020
ArweinyddJeremy Corbyn
RhagflaenyddJo Stevens
Gweinidog Cysgodol dros Gyfiawnder
Yn ei swydd
20 Ionawr 2016 – 28 Mehefin 2016
Yn ei swydd
10 Hydref 2016 – 9 Chwefror 2017
Aelod Seneddol
dros Castell-Nedd
Yn ei swydd
Dechrau
8 Mai 2015
RhagflaenyddPeter Hain
Mwyafrif9,548 (25.7%)
Manylion personol
Ganwyd (1954-02-21) 21 Chwefror 1954 (70 oed)
Plaid wleidyddolLlafur (gwaharddwyd dros-dro)
Gŵr neu wraigRon Davies (Cyn 2000)
Alma materColeg Ystrad Mynach
Prifysgol Cymru
Gwefanchristinarees.org

Penodwyd Rees yn Weinidog Cysgodol dros Gyfiawnder ym mis Ionawr 2016, ond rhoddodd y gorau i'w swydd yn ystod ymddiswyddiad sylweddol y Cabinet Cysgodol yn dilyn refferendwm yr UE. Yn ddiweddarach daeth yn un o'r 33 aelod seneddol Llafur i ddychwelyd i'r fainc flaen, ar ôl derbyn swydd Gweinidog Cysgodol dros Gyfiawnder unwaith eto.

Ym mis Chwefror 2017, cafodd ei phenodi i swydd Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru.[2]

Yn Hydref 2022, cafodd ei gwaharddwyd o'r Blaid Lafur tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i honiadau o fwlio staff.[3]

Cyfeiriadau

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Peter Hain
Aelod Seneddol Castell-nedd
2015 – presennol
Olynydd:
presennol