Claudia Schreiber
Blwch offer
Gweithredoedd
Cyffredinol
Argraffu / allforio
Mewn prosiectau eraill
Claudia Schreiber | |
---|---|
Ganwyd | 30 Gorffennaf 1958 Schachten |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, newyddiadurwr, sgriptiwr, ysgrifennwr |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddiaeth Pobl Ifanc Euregio, Medienpreis Entwicklungspolitik |
Gwefan | http://www.claudiaschreiber.de/ |
Awdur o'r Almaen yw Claudia Schreiber (ganwyd 30 Gorffennaf 1958) sydd hefyd yn nodigedig am ei gwaith fel cyflwynydd teledu, newyddiadurwr a sgriptiwr.
Fe'i ganed yn Schachten, talaith Hessen, yr Almaen ar 30 Gorffennaf 1958. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Göttingen a Phrifysgol Mainz.[1][2][3]
Ar ôl astudio newyddiaduraeth, gwyddoniaeth addysg a chymdeithaseg ym Mhrifysgol Göttingen a Phrifysgol Mainz, 1979 - 1985, gradd MA, bu'n gweithio fel golygydd, gohebydd ac angor ar gyfer Südwestfunk (SWF) a Zweites Deutsches Fernsehen (ZDF), sef rhwydweithiau darlledu poblogaidd. Ar ôl cyfnodau ym Moscfa (1992 - 1996) a Brwsel (1996 - 1998), ymgartrefodd yn Cwlen ac yn gweithio fel awdur llawrydd.[4]
Yn ei nofel Emmas Glück ('Llawenydd Emma') o 2003, a gyfieithwyd i o leiaf naw iaith, ceir motiffau o ogledd Hessen. Hwn fu ei gwaith mwyaf llwyddiannus hyd yn hyn (2019). Ceir arddull ffres, ffraeth ac ecsentrig gyda chydymdeimlad dwfn o drigolion nad ydynt yn ffitio'n berffaith o fewn y gymuned a'r wladwriaeth. Nid yw'r arddull yn annhebyg i arddull Heinrich Böll. Rhyddhawyd ffilm o'r llyfr hwn, dan gyfarwyddyd Sven Taddicken sy'n serennu Jördis Treibel a Jürgen Vogel yn yr Almaen yn 2006; ei theitl Saesneg yw Emma's Bliss.
Mae ei llyfr plant Sultan und Kotzbrocken ('Y Swltan a'r Cachgi'), a gyhoeddwyd gyntaf yn 2004, hyd yma (2019) wedi cael ei gyfieithu i bedair iaith. Fe'i cynhyrchwyd fel drama theatr yn theatr 'Theater Junge Generation' yn Dresden mewn addasiad gan Rüdiger Pape (cyfarwyddwr) a Jörg Hückler.