Clust

Organ anifail a dynol a ddefnyddir i synhwyro synau yw clust. Mewn mamaliaid, mae hefyd yn helpu i gadw cydbwysedd y corff. Mae gan famaliaid ddwy glust, Mae gan gorynnod flew ar eu coesau a ddefnyddir i synhwyro synau. Mae clustiau fertebratau i'w gweld ar safle cymesur ar y naill ochr o'r pen, trefniant sy'n cymorth i olrhain lleoliad trwy sŵn. Disgrifir y glust fel arfer fel un sydd â thair rhan: y glust allanol, y glust ganol a'r glust fewnol . Mae'r glust allanol yn cynnwys y pinna a chamlas y glust. Gan mai'r glust allanol yw'r unig ran weladwy o'r glust yn y rhan fwyaf o anifeiliaid, mae'r gair "clust" yn aml yn cyfeirio at y rhan allanol yn unig.[1] Mae'r glust ganol yn cynnwys y ceudod tympanig a'r tri esgyrnyn. Mae'r glust fewnol yn eistedd yn y labyrinth esgyrnog, ac mae'n cynnwys strwythurau sy'n allweddol i sawl synnwyr: y camlesi hanner cylch, sy'n galluogi cydbwysedd a thracio llygaid wrth symud; yr wtricl a'r codennyn (saccule), sy'n galluogi cydbwysedd pan fyddant yn llonydd; a'r cochlea, sy'n galluogi clyw.

Clust
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathisraniad a rhan arleisiol o'r pen, endid anatomegol arbennig, organ clyw Edit this on Wikidata
Rhan open Edit this on Wikidata
Yn cynnwysy glust allanol, y glust ganol, y glust fewnol, godre'r glust Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Organ sy'n hunan-lanhau yw'r glust[2][3] trwy ei defnydd o gwyr clust a chamlesi'r glust.[4][5]

Mae'r glust yn datblygu o'r cwdyn ffaryngeal cyntaf a chwe chwydd bach sy'n datblygu yn yr embryo cynnar ac sy'n deillio o'r ectoderm.

Gall afiechyd effeithio ar y glust, gan gynnwys haint a niwed trawmatig. Gall afiechydon y glust arwain at golli clyw, tinitws ac anhwylderau cydbwysedd fel fertigo, er y gall niwed i'r ymennydd neu lwybrau niwral sy'n arwain o'r glust effeithio ar lawer o'r cyflyrau hyn hefyd.

Mae'r glust yn aml yn cael ei haddurno gan glustdlysau a gemwaith eraill mewn llawer o diwylliannau, a hynny ers miloedd o flynyddoedd, ac mae technoleg fodern yn caniatau newidiadau llawfeddygol a chosmetig.

Strwythur

Fel y nodwyd, mae'r glust ddynol yn cynnwys tair rhan: y glust allanol, y glust ganol a'r glust fewnol. [6] Mae camlas y glust allanol wedi'i gwahanu oddi wrth geudod tympanig llawn aer y glust ganol gan bilen y glust (neu ddrwm y glust). Mae'r glust ganol yn cynnwys y tri asgwrn bach - yr osgyrnyn - sy'n ymwneud â throsglwyddo sain, ac mae wedi'i gysylltu â'r gwddf yn y ffaryncs trwynol (y nasopharyncs), trwy agoriad ffaryngeal y tiwb Eustachian. Mae'r glust fewnol yn cynnwys yr organau otolith - yr utricl a'r codennyn (saccwl) - a'r camlesi hanner cylch sy'n perthyn i'r system gynteddol (vestibular), yn ogystal â cochlea y system glywedol.[6]

Clust Chinchilla

Y glust allanol

O fewn y glust allanol ceir pinna gweladwy cigog (a elwir hefyd yn 'awricl'), camlas y glust, a haen allanol pilen y glust (a elwir hefyd yn bilen tympanig; eardrum).[6][7]

Mae'r pinna'n cynnwys yr ymyl crwm allanol o'r enw helics a'r ymyl crwm fewnol a elwir yn helics-mewnol, ac mae'n arwain at gamlas y glust. Mae'r tragws yn ymwthio allan ac yn cuddio camlas y glust yn rhannol, yn yr un modd â'r antitragus. Gelwir y rhanbarth gwag o flaen camlas y glust yn concha. Hyd camlas y glust yw tua 1 modfedd (2.5 cm ). Mae rhan gyntaf y gamlas wedi'i hamgylchynu gan gartilag, tra bod yr ail ran ger pilen y glust wedi'i hamgylchynu gan asgwrn. Yr enw ar y rhan esgyrnog hon yw'r bwla clywedol ac fe'i ffurfir gan ran tympanig yr asgwrn arleisiol. Mae'r croen o amgylch camlas y glust yn cynnwys chwarennau seruminaidd a sebwm sy'n cynhyrchu cwyr clust amddiffynnol. Daw camlas y glust i ben ar wyneb allanol pilen y glust.[8]

Mae dwy set o gyhyrau yn gysylltiedig â'r glust allanol: y cyhyrau cynhenid a chynhyrau anghynhenid. Mewn rhai mamaliaid, gall y cyhyrau hyn addasu cyfeiriad y pinna (a'r glust).[7] Mewn pobl, nid yw'r cyhyrau hyn yn cael fawr ddim effaith, os o gwbl.[9] Mae cyhyrau'r glust yn cael eu cyflenwi gan nerf yr wyneb, sydd hefyd yn rhoi teimlad i groen y glust ei hun, yn ogystal ag i geudod allanol y glust. Mae'r nerf auricwlaidd mawr, y nerf auricular, y nerf auriculotemporal, a nerfau occipital llai a mwy, a phlethwaith ceg y groth i gyd yn rhoi 'teimlad' i rannau o'r glust allanol a'r croen o'i amgylch.[7]

Clust ganol

Mae'r glust allanol yn derbyn sain, a drosglwyddir trwy esgyrnynnau'r glust ganol i'r glust fewnol, lle caiff ei drawsnewid i signal nerfol yn y cochlear a'i drosglwyddo ar hyd y nerf vestibulocochlear.

Fel yr awgryma'r term: mae'r glust ganol yn gorwedd rhwng y glust allanol a'r glust fewnol. Mae'n cynnwys ceudod llawn aer a elwir yn geudod tympanig ac mae'n cynnwys y tri esgyrnyn a'u gewynnau cysylltiol; y tiwb clywedol; a'r ffenestri crynion a c ofal. Mae'r esgyrnynau'n dri asgwrn bach sy'n gweithredu gyda'i gilydd i dderbyn, i chwyddo, ac i drosglwyddo'r sain o bilen y glust i'r glust fewnol. Yr esgyrnynau yw'r morthwyl y glust (maliws), yr einion (incus), a'r gwarthol (stapes). Y stapes yw'r asgwrn lleiaf yn y corff dynol sydd ag enw. Mae'r glust ganol hefyd yn cysylltu â rhan uchaf y gwddf yn y ffaryncs-trwynol trwy agoriad ffaryngeal y tiwb Eustachian.[10][11]

Mae'r tri esgyrnyn yn trosglwyddo sain o'r glust allanol i'r glust fewnol. Derbynia'r maliws ddirgryniadau o bwysedd sain ar pilen y glust, lle mae ligament yn ei gysylltu yn ei ran hiraf (y manwbriwm neu handlen). Mae'n trosglwyddo dirgryniadau i'r incws, sydd yn ei dro yn trosglwyddo'r dirgryniadau i'r asgwrn stapesh. Mae gwaelod llydan y stapes yn gorwedd ar y ffenestr ofal. Wrth i'r stapes ddirgrynu, mae dirgryniadau'n cael eu trosglwyddo trwy'r ffenestr ofal, gan achosi symudiad hylif o fewn y cochlea.[7]

Mae'r ffenestr gron yn caniatáu i'r hylif yn y glust fewnol i symud. Wrth i'r stapes wthio'r bilen tympanig eilaidd, mae'r hylif yn y glust fewnol yn symud ac yn gwthio pilen y ffenestr gron allan gan swm cyfatebol i fewn i'r glust ganol. Mae'r esgyrnynnau'n helpu i chwyddo tonnau sain bron i 15-20 gwaith.[6]

Clust fewnol

Y glust fewnol

Mae'r glust fewnol yn eistedd o fewn yr asgwrn arleisiol mewn ceudod cymhleth a elwir yn labyrinth esgyrnog. Ceir ardal ganolog o'r enw'r 'cyntedd' sy'n cynnwys dwy gilfach fach llawn hylif, yr wtricl a'r sacwl. Cysyllta'r rhain â'r camlesi hanner cylch a'r cochlea. Mae tair camlas hanner cylch ar ongl sgwâr i'w gilydd sy'n gyfrifol am gydbwysedd deinamig. Organ troellog siâp cragen yw'r cochlea, sy'n gyfrifol am glyw. Gyda'i gilydd mae'r strwythurau hyn yn creu'r labyrinth pilenog.[12]

Mae'r labyrinth esgyrnog yn cyfeirio at y rhan esgyrnog sy'n cynnwys y labyrinth pilenaidd, sydd wedi'i gynnwys yn yr asgwrn arleisiol. Mae'r glust fewnol yn strwythurol yn dechrau wrth y ffenestr ofal, sy'n derbyn dirgryniadau o incws y glust ganol. Mae dirgryniadau'n cael eu trosglwyddo i'r glust fewnol i hylif o'r enw endolymff, sy'n llenwi'r labyrinth pilenaidd. Mae'r endolymff hwn wedi'i leoli mewn dwy gyntedd, yr wtrigl a'r sacwl, ac yn y pen draw mae'n trosglwyddo i'r cochlea, strwythur siâp troellog. Mae'r cochlea'n cynnwys tair rhan sy'n llawn hylif: dwythell cynteddog, dwythell cochlear, a dwythell tympanig.[13] Celloedd o flew sy'n gyfrifol am drawsgludiad - gan newidiad symbyliadau mecanyddol yn symbyliadau trydanol yn bresennol yn yr organ Corti yn y cochlea.[14]

Cyflenwad gwaed

Mae 'r cyflenwad gwaed yn wahanol yn rhanau gwahanol y glust.

Cyflenwir y glust allanol gan nifer o rydwelïau. Y rhydweli awriglaidd ôl sy'n darparu'r rhan fwyaf o'r cyflenwad gwaed. Mae'r rhydwelïau awriglaidd blaen yn darparu rhywfaint o gyflenwad i ymyl allanol y glust a chroen y pen, y tu ôl iddo. Mae'r rhydweli awriglaidd ôl yn gangen uniongyrchol o'r rhydweli carotid allanol, ac mae'r rhydwelïau awriglaidd blaen yn ganghennau o'r rhydweli arleisiol arwynebol. Mae'r rhydweliau'r gwegil hefyd yn chwarae rhan.[12]

Cyflenwir y glust ganol gan gangen mastoid naill ai'r rhydwelïau'r gwegil (occipital) neu ôl y glust a'r rhydweli clustennol dwfn. Mae rhydwelïau eraill sy'n bresennol yn chwarae rhan lai ac yn cynnwys canghennau o'r rhydweli meningeal canol, rhydweli breithellol (meningeal) esgynnol, rhydweli carotid mewnol, a rhydweli'r gamlas erygoid.[15]

Swyddogaeth

Clyw

Mae tonnau sain yn teithio trwy'r glust allanol, yn cael eu modylu gan y glust ganol, ac yn cael eu trosglwyddo i'r nerf vestibulocochlear yn y glust fewnol. Mae'r nerf hwn yn trosglwyddo gwybodaeth i labed arleisiol yr ymennydd, lle mae'n cael ei gofrestru fel sain.

Mae sain sy'n teithio trwy'r glust allanol yn effeithio ar bilen y glust, ac yn achosi iddo ddirgrynu. Mae asgwrn y tri esgyrnyn yn trosglwyddo'r sain hwn i ail ffenestr (y ffenestr oval) sy'n amddiffyn y glust fewnol sy'n llawn hylif. Yn fanwl, mae pinna'r glust allanol yn helpu i ganolbwyntio sain, sy'n effeithio ar bilen y glust. Mae'r maliws yn gorffwys ar y bilen, ac yn derbyn y dirgryniad. Mae'r dirgryniad hwn yn cael ei drosglwyddo ar hyd yr incws a'r stapes i'r ffenestr ofal. Mae dau gyhyr bach, y tensor tympani a'r stapediws, hefyd yn helpu i fodiwleiddio'r sŵn. Mae'r ddau gyhyr yn cyfangu'n atblygol i leddfu dirgryniadau gormodol. Oherwydd dirgryniad y ffenestr hirgrwn ceir dirgryniad yr endolymff o fewn y cyntedd a'r cochlea.[16]

Cydbwysedd

Mae darparu cydbwysedd, wrth symud neu pan fo'r corff yn llonydd, hefyd yn swyddogaeth ganolog i'r glust. Gall y glust hwyluso dau fath o gydbwysedd: statig, sy'n caniatáu i berson deimlo effeithiau disgyrchiant, a chydbwysedd deinamig, sy'n caniatáu i berson synhwyro cyflymiad.

Datblygiad

Yn ystod embryogenesis mae'r glust yn datblygu fel tri strwythur gwahanol: y glust fewnol, y glust ganol a'r glust allanol.[17] Mae pob strwythur yn tarddu o haen germ wahanol: yr ectoderm, endoderm a mesenchyme.[18][19]

Arwyddocâd clinigol

Colli clyw

Gall colli clyw fod yn rhannol neu'n gyfan gwbl. Gall hyn fod o ganlyniad i anaf neu ddifrod, clefyd cynhenid, neu achosion ffisiolegol. Pan fo colled clyw o ganlyniad i anaf neu niwed i'r glust allanol neu'r glust ganol, fe'i gelwir yn golled clyw dargludol (conductive). Pan fydd byddardod o ganlyniad i anaf neu niwed i'r glust fewnol, y nerf vestibulochoclear, neu'r ymennydd, fe'i gelwir yn golled clyw synhwyraidd.

Mae achosion o golled clyw dargludol yn cynnwys camlas clust wedi'i rhwystro gan gwyr clust, esgyrnynnau sydd wedi'u gosod gyda'i gilydd neu'n absennol, neu dyllau ym mhilen y glust. Gall colli clyw dargludol hefyd ddeillio o lid y glust ganol gan achosi hylif i gronni yn y rhan honno sydd fel arfer yn llawn aer, megis Llid y glust ganol (otitis media). Tympanoplasti yw enw cyffredin y llawdriniaeth i atgyweirio pilen y glust ganol a'r esgyrnynnau. Mae grafftiau o wynebfyrddau cyhyrau yn cael eu defnyddio fel arfer i ailadeiladu pilen y glust cyfan. Weithiau gosodir esgyrn clust artiffisial yn lle rhai sydd wedi'u difrodi, neu caiff cadwyn esgyrnynol ei hailadeiladu er mwyn dargludo sain yn effeithiol.

Gellir defnyddio cymhorthion clyw neu fewnblaniadau yn y cochlea os yw'r golled clyw yn ddifrifol neu'n para am gryn amser. Mae cymhorthion clyw'n gweithio trwy chwyddo sain yr amgylchedd lleol ac maent yn fwyaf addas ar gyfer colli clyw dargludol.[20] Mae mewnblaniadau yn y cochlea yn trosglwyddo'r sain a glywir fel pe bai'n signal nerfol, gan osgoi'r cochlea. Danfona'r mewnblaniadau clust ganol gweithredol y dirgryniadau sain i'r esgyrnyn yn y glust ganol.

Nam(au) cynhenid

Mae anomaleddau a chamffurfiadau neu nam ar r pinna yn gyffredin a gallant gynnwys syndromau cromosom megis cylch 18. Ceir namau ar gamlesi clust ar blant hefyd, sy'n gyflwyno achosion o gamlesi clust annormal.[19] Mewn achosion prin nid oes pinna yn cael ei ffurfio (atresia), neu mae'n fach iawn (microtia). Gall pinnae bach ddatblygu pan nad yw'r bryniau clustennol (auricular) yn datblygu'n iawn. Gall camlas y glust fethu â datblygu os nad yw'r sianelau wedi datblygu'n iawn neu os oes rhwystr.[19] Mae llawdriniaeth adluniol i drin colled clyw yn cael ei ystyried fel opsiwn ar gyfer plant dros bump oed,[21] ac mae'r gweithdrefn lawfeddygol gosmetig i leihau maint neu newid siâp y glust yn cael ei alw'n otoplasti. Mae'r ymyriad meddygol cychwynnol wedi'i anelu at asesu clyw'r babi a chyflwr camlas y glust, yn ogystal â'r glust ganol a mewnol. Yn dibynnu ar ganlyniadau profion, mae ailadeiladu'r glust allanol yn cael ei wneud fesul cam, gyda chynllunio ar gyfer unrhyw atgyweiriadau posibl i weddill y glust.[22][23][24]

Mae tua un o bob mil o blant yn dioddef rhyw fath o fyddardod cynhenid sy'n gysylltiedig â datblygiad y glust fewnol.[25] Mae anomaleddau cynhenid y glust fewnol yn gysylltiedig â cholled clyw synhwyraidd ac yn gyffredinol cânt eu diagnosio â sgan tomograffeg gyfrifiadurol (CT) neu sgan delweddu cyseiniant magnetig (MRI).[21] Mae problemau colli clyw hefyd yn deillio o anomaleddau yn y glust fewnol oherwydd bod ei ddatblygiad ar wahân i ddatblygiad y glust ganol ac allanol.[19] Gall nam ar y clust ganol ddigwydd oherwydd gwallau yn ystod datblygiad y pen a'r gwddf. Gellir cysylltu namau syndrom cwdyn ffaryngeal cyntaf yglust ganol â'r strwythurau'r maliws a'r incws. Cysyllta nam yr asgwrn arleisiol a chamlas y glust hefyd yn gysylltiedig â strwythur hwn y glust a gwyddys eu bod yn gysylltiedig â cholli clyw synhwyraidd a cholled clyw dargludol.[21]

Fertigo

Mae fertigo'n cyfeirio at y canfyddiad amhriodol o symudedd. Mae hyn oherwydd camweithrediad y system cynteddol (vestibular). Un math cyffredin o fertigo yw fertigo lleoliadol parocsysmal diniwed, pan fydd otolith yn cael ei ddadleoli o'r fentriglau i'r gamlas ofal. Mae'r otolith sydd wedi'i ddadleoli yn gorwedd ar y cwpola, gan achosi teimlad o symud er bod y corff yn llonydd. Gall clefyd Ménière, labyrinthitis, strôc, a chlefydau heintus a chynhenid eraill hefyd arwain at fertigo.[26]

Tinitws

Tinitws yw clywed sain pan nad oes sain allanol yn bresennol.[27] Er ei fod yn aml yn cael ei ddisgrifio fel canu, gall hefyd swnio fel clicio, hisian neu ruo llew.[28] Yn anaml, clywir lleisiau neu gerddoriaeth aneglur.[29] Gall y sain fod yn feddal neu'n uchel, traw isel neu draw uchel a gall ymddangos fel pe bai'n dod o un glust neu'r ddwy.[28] Y rhan fwyaf o'r amser, mae'n cychwyn yn raddol.[29] Mewn rhai pobl, mae'r sain yn achosi iselder ysbryd, pryder, neu methu canolbwyntio.[28]

Nid clefyd yw tinitws eithr symptom a all ddeillio o nifer o achosion sylfaenol. Un o'r achosion mwyaf cyffredin yw colli clyw a achosir gan sŵn. Mae achosion eraill yn cynnwys: heintiau clust, clefyd y galon neu bibellau gwaed, clefyd Ménière, tiwmorau ar yr ymennydd, straen emosiynol megis colli rhiant neu blentyn, dod i gysylltiad â meddyginiaethau penodol, anaf pen blaenorol, a chŵyr clust.[28][30] Mae'n fwy cyffredin ymhlith y rhai ag iselder a phryder.[29]

Cymdeithas a diwylliant

Ymestyn llabed y glust ac amryw dyllu cartilag

Addurnwyd y clustiau â gemwaith ers miloedd o flynyddoedd, yn draddodiadol trwy dyllu llabed y glust. Mewn diwylliannau hynafol a modern, mae addurniadau wedi'u gosod i ymestyn ac ehangu'r llabedau clust, gan ganiatáu i blygiau mwy gael eu llithro i fwlch mawr yn y llabed. Peth eitha cyffredin bellach yw rhwygo llabed y glust oherwydd pwysau clustdlysau trwm, neu o dynnu clustdlws yn drawmatig (er enghraifft, trwy rwygo ar siwmper).[31]

Mae clustiau pigfain yn nodweddiadol o rai creaduriaid mewn llên gwerin fel y croquemitaine Ffrengig, curupira ro Fasil[32] neu Tsuchigumo o Japan. Fe'u ceir yn nodwedd ar ddarnau o gelf mor hen â Groeg yr Henfyd[33] ac Ewrop yr Oesoedd Canol.[34] Ceir clustiau pigfain gan lawer o greaduriaid yn y genre ffantasi,[35] gan gynnwys corachod,[36][37][38] y tylwyth teg,[39][40] coblynnod,[41] yr hobits,[42] a'r orcs.[43] Maent yn nodweddiadol o greaduriaid yn y genre arswyd hefyd megis fampirod.[44][45] Mae clustiau pigfain hefyd i'w cael yn y genre ffuglen wyddonol; er enghraifft ymhlith yr hil Vulcan a Romulan o'r bydysawd Star Trek[46] a chymeriad Nightcrawler o'r bydysawd X-Men.[47]

Llygoden labordy oedd llygoden y Vacanti gyda'r hyn a edrychai fel clust ddynol yn tyfu ar ei chefn. Roedd y "glust" mewn gwirionedd yn strwythur cartilag siâp clust a dyfwyd trwy hadu celloedd cartilag buwch i mewn i fowld siâp clust bioddiraddadwy ac yna ei fewnblannu o dan groen y llygoden; yna tyfodd y cartilag ar ei ben ei hun yn naturiol.[48] Fe'i datblygwyd fel dewis arall i atgyweirio clustiau neu weithdrefnau impio a chafwyd llawer o gyhoeddusrwydd a dadlau yn sgil y canlyniadau ym 1997.[49][50]

Cyfeiriadau