Clwb Rygbi Abertawe

Mae Clwb Rygbi Abertawe yn dîm rygbi'r undeb Cymreig sy'n chwarae yn Prifadran Cymru. Mae'r clwb yn chwarae ar Faes Rygbi a Chriced St Helen yn Abertawe ac fe'u gelwir hefyd Y Crysau Gwynion gan gyfeirio at liw eu cit cartref a'r Jacs, llysenw am bobl o Abertawe.

Clwb Rygbi Abertawe
Enw llawnClwb Rygbi Abertawe
Llysenw/auY Jacs
Y Crysau Gwynion
Sefydlwyd1872; 152 blynedd yn ôl (1872)[1]
LleoliadAbertawe  Cymru
Maes/yddMaes St Helen Abertawe (Nifer fwyaf: 4,500)
Lliwiau cartref

Hanes

Sefydlwyd y clwb ym 1872 [2] fel tîm pêl-droed y gymdeithas, gan newid i'r côd rygbi ym 1874. Ym 1881 daeth yn un o'r 11 o glybiau sylfaen Undeb Rygbi Cymru . [3] [4]

Tîm Abertawe a enillodd Gwpan Her De Cymru, o'r Illustrated Sporting and Dramatic News

Hyd ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf

Yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif roedd Clwb Rygbi Abertawe yn glwb hynod lwyddiannus. Am bedwar tymor yn olynol, rhwng tymor 1898/99 hyd dymor 1901/02, Abertawe oedd pencampwyr answyddogol Cymru. Dyma oedd cyfnod anterth seren gyntaf Abertawe, Billy Bancroft O dan gapteiniaeth Frank Gordon byddai'r tîm yn ddiweddarach yn mynd ar rediad diguro o 22 mis, o fis Rhagfyr 1903 hyd at Hydref 1905. Yn ystod y cyfnod hwn roedd yn ymddangos nad oedd Abertawe yn cael chware teg gan ddewiswyr rhyngwladol Cymru. O ystyried eu llwyddiant ar lefel clwb, prin oedd y rhai a dewiswyd i chwarae i Gymru yn y blynyddoedd cynnar o gymharu â chlybiau eraill. Aeth Frank Gordon heb gap trwy gydol ei yrfa. Ar wahân i Billy Trew, Dick Jones a Dicky Owen, yr unig chwaraewyr rhyngwladol eraill yn y tîm oedd y blaenwr Sid Bevan (1 cap), [5] yr asgellwr Fred Jowett (1 cap) [6] a'r maswr Phil Hopkins (4 cap). [7] Roedd Trew (29 cap) yn ganolwr rhagorol a gafodd ei derbyn fel un o'r chwaraewyr pwysicaf yn esblygiad rygbi Cymru, [1] tra bod Dicky Owen (35 cap), yn dactegydd anhygoel. [8]

Ar ôl y rhyfel hyd y 1990au

Dim ond llwyddiant cyfyngedig a ddaeth yn ystod y blynyddoedd uniongyrchol ar ôl y rhyfel, er y cafwyd gêm gyfartal nodedig o 6 phwynt yr un yn erbyn Seland Newydd ym 1953 ac yna buddugoliaeth o 9-8 yn erbyn Awstralia ym 1966. Bu'n rhaid disgwyl hyd dymor canmlwyddiant y clwb ym 1973/74, i ddod i frig y Tabl Teilyngdod. Cafodd Abertawe lwyddiant pellach fel pencampwyr y clybiau ym 1979/80, 1980/81, 1982/83 yn ogystal â bod yn enillwyr cwpan Cymru ym 1978.

Ymhlith y chwaraewyr yn ystod y cyfnod hwn roedd Clem Thomas, Billy Williams, Dewi Bebb, Mervyn Davies, Geoff Wheel, David Richards a Mark Wyatt, deiliad record sgoriwr pwyntiau'r clwb gyda 2,740 o bwyntiau wedi'u sgorio rhwng 1976/77 a 1991/92.

1990 i ddiwedd y mileniwm

Gwelodd y 1990au lwyddiant i'r clwb, gan gynnwys bod yn bencampwyr y brifadran ar 4 achlysur (1991/92, 1993/94, 1997/98 a 2000/01) ac enillwyr cwpan Cymru ym 1995 a 1999. Cofnodwyd buddugoliaeth gofiadwy 21-6 dros bencampwyr y Byd, Awstralia, ar Faes St Helen ar 4 Tachwedd 1992. Yn nhymor 1995/96 fe gyrhaeddodd Abertawe gam rownd cynderfynol Cwpan Ewrop. Roedd y cyfnod hwn hefyd yn cynnwys anghydfodau ag Undeb Rygbi Cymru ynghylch y ffordd yr oedd strwythur y gynghrair yn cael ei redeg yng Nghymru yn dilyn troi rygbi'r undeb i fod yn gêm broffesiynol, a ddaeth i ben gyda'r clwb yn gwrthod bod yn rhan o'r gynghrair yn nhymor 1998/99. [9]

Ers dechrau'r Mileniwm

Roedd tymor 2003/04 yn un lle gwelwyd newid sylweddol gyda chyflwyniad rygbi rhanbarthol yng Nghymru. Mae Clwb Rygbi Abertawe Cyf, â Chlwb Rygbi Castell-nedd yn gydberchnogion tîm rhanbarthol y Gweilch. O ganlyniad, dychwelodd Clwb Rygbi Abertawe i fod yn dîm amatur. Ers y newid i rygbi rhanbarthol mae sawl chwaraewr wedi chwarae i Glwb Rygbi Abertawe, yn ogystal â'r Gweilch a Chymru gan gynnwys Alun Wyn Jones, Ryan Jones, Scott Baldwin, Nicky Smith, Matthew Morgan, Eli Walker, Gavin Henson a Dan Biggar.

Yn 2014 cafodd yr Y Crysau Gwynion eu gostwng o Uwch Gynghrair Cymru ar ddiwrnod olaf y tymor, er gwaethaf curo Castell-nedd yn St Helen. Bu pwynt bonws i Aberafan yn ddigon i ddanfon Abertawe i lawr i Bencampwriaeth SWALEC. Ysgogodd hyn ailwampiad llwyr o’r clwb gyda Stephen Hughes yn cymryd swydd y Cadeirydd, Keith Colclough yn Rheolwr Gyfarwyddwr a Richard Lancaster yn arwain tîm hyfforddi o gyn-chwaraewyr gan gynnwys Rhodri Jones, Chris Loader a Ben Lewis. Yn eu tymor cyntaf fe fethodd Abertawe ennill dyrchafiad yn ôl i'r Uwch Gynghrair, gan orffen yn yr ail safle. Ond o ganlyniad i newid strwythur y cynghrair fe'u dyrchafwyd yn nhymor 2015/16 gyda Merthyr, RGC 1404 a Bargoed.

Cafodd Abertawe drafferth i addasu i’r Uwch Gynghrair yn eu dau dymor cyntaf yn ôl ar yr haen uchaf er gwaethaf rhestr anafiadau llethol, dangosodd tymor 1917/18 lawer o addewid gyda’r ochr yn recordio pum buddugoliaeth, gêm gyfartal a 10 pwynt bonws am golli’r gêm o fewn 7 pwynt.

Bu'n rhaid gohirio tymor 2019/20 a 2020/21 oherwydd COVID-19

Merched Clwb Rygbi Abertawe

Ar gyfer tymor 2016/17 sefydlwyd tîm Merched Clwb Rygbi Abertawe ac ers hynny maent wedi ennill yr Uwch Gynghrair gefn wrth gefn. Yn 2019 fe wnaethant ennill Cwpan y Merched am y trydydd tymor yn olynol. Maent hefyd yn darparu craidd o chwaraewyr i garfan merched Cymru. [10]


Llwyddiannau

Trechodd Clwb Rygbi Abertawe Seland Newydd 11-3 ddydd Sadwrn 28 Medi 1935, gan ddod yr ochr clwb gyntaf erioed i guro'r Crysau Duon. [11] Fe wnaeth y fuddugoliaeth hefyd eu gwneud y tîm clwb cyntaf i guro pob un o'r tri thîm teithiol mawr i Brydain. Roeddent eisoes wedi curo Awstralia ym 1908 a De Affrica ym 1912. [12]

Ym mis Tachwedd 1992, trechodd Clwb Rygbi Abertawe bencampwyr y byd Awstralia 21–6, pan chwaraeodd Awstralia eu gêm gyntaf o’u Taith Gymreig.

Pencampwyr Prifadran Cymru yn:

  • 1991/1992
  • 1993/1994
  • 1997/1998
  • 2000/2001

Pencampwyr Cwpan Her URC yn:

  • 1977/1978
  • 1994/1995
  • 1998/1999

Pencampwyr Tabl Teilyngdod Whitbread yn:

  • 1980/1981

Pencampwyr Tlws Saith Pob Ochr Cymru yn:

  • 1982
  • 1989
  • 1991
  • 1995

Llewod Prydeinig a Gwyddelig

Dewiswyd y cyn-chwaraewyr canlynol ar gyfer sgwadiau teithiol Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig wrth chwarae i Glwb Rygbi Abertawe.

  • Fred Jowett 1904
  • Edgar Morgan 1908
  • Eddie Morgan 1938
  • Darren Morris 2001
  • Dai Parker 1930
  • David Richards 1980
  • Haydn Tanner 1938[13]
  • Mark Taylor 2001
  • Clem Thomas 1955
  • Richard Webster 1993
  • Clive Williams 1980
  • Billy Williams 1955

Capteiniaid Rhyngwladol Cymru

Bu'r cyn-chwaraewyr canlynol yn gapten ar dîm undeb rygbi cenedlaethol Cymru wrth chwarae i Glwb Rygbi Abertawe.

  • Idwal Rees 1936-37
  • Clem Thomas 1958–59
  • Mervyn Davies 1975–76
  • Richard Moriarty 1986–87
  • Robert Jones 1989–90
  • Scott Gibbs 1997
  • Mark Taylor 2000
  • Andy Moore 2001
  • Colin Charvis 2002–04
  • Alun Wyn Jones 2017 - Yn bresennol

Cyn-chwaraewyr nodedig eraill

Mae'r chwaraewyr a restrir isod wedi chwarae i Abertawe a hefyd wedi chwarae rygbi rhyngwladol.

  • William Richard Arnold[5]
  • Paul Arnold
  • Rob Appleyard
  • Dan Baker

Gemau yn erbyn gwrthwynebwyr rhyngwladol

BlwyddynDyddiadGwladCanlyniadSgôrTaith
188824 Rhagfyr Māori Seland NewyddColli0–51888–89 Taith Māori Seland Newydd
190530 Rhagfyr  Seland NewyddColli3–41905 Taith y Crysau Duon Gwreiddiol
190826 Rhagfyr  AwstraliaEnnill6–01908–09 Taith Awstralia o amgylch Prydain
191226 Rhagfyr  De AffricaEnnill3–01912–13 Taith De Affrica o amgylch Ewrop
193110 Hydref  De AffricaColli3–101931–32 Taith De Affrica o amgylch Prydain ac Iwerddon
193528 Medi  Seland NewyddEnnill11–31935–36 Taith Seland Newydd o amgylch Prydain, Iwerddon a Chanada
195115 Rhagfyr  De AffricaColli3–111951–52 Taith De Affrica o amgylch Ewrop
195312 Rhagfyr  Seland NewyddCyfartal6–61953–54 Taith Seland Newydd
196314 Rhagfyr  Seland NewyddColli9–161963–64 Taith Seland Newydd
196626 Tachwedd  AwstraliaEnnill9–81966–67 Taith Awstralia o amgylch Prydain, Iwerddon a Ffrainc
19738 Medi  FfijiColli0–311973 Taith Fiji o amgylch Ynysoedd Prydain a Chanada
19733 Tachwedd  AwstraliaCyfartal9–91973 Taith undeb rygbi Awstralia o amgylch Ewrop[21]
197529 Tachwedd  AwstraliaColli6-121975–76 Taith Awstralia o amgylch Prydain ac Iwerddon[22]
198025 Hydref  Seland NewyddColli0-321980 Taith Seland Newydd[23]
198128 November  AwstraliaColli3-121981–82 Taith Awstralia o amgylch Prydain ac Iwerddon[24]
198230 Hydref Māori Seland NewyddEnnill15-121982 Taith Māori Seland Newydd
198430 Hydref  AwstraliaColli7-171984 Taith Awstralia o amgylch Prydain ac Iwerddon
198516 Hydref  FfijiColli14–231985 Taith Fiji o amgylch Ynysoedd Prydain
198921 Hydref  Seland NewyddColli22–371989 Taith Seland Newydd o amgylch Ynysoedd Prydain a Chanada
19924 Tachwedd  AwstraliaEnnill21–61992 Taith Awstralia o amgylch Europe

Llyfryddiaeth

  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau