COVID-19

haint sy'n effeithio'r ysgyfaint a achosir gan SARS coronafirws 2

Sylw!
Nid yw Wicipedia yn darparu cyngor meddygol nac iechyd. Gall yr erthygl hon gynnwys gwybodaeth hen ffasiwn neu anghywir. Dim ond gweithiwr iechyd proffesiynol sy'n gallu rhoi cyngor meddygol i chi, a dim ond awdurdodau iechyd eich gwlad sy'n gymwys i roi cyfarwyddiadau iechyd cyhoeddus yn ymwneud â phandemig y Gofid Mawr.

COVID-19
Enghraifft o'r canlynolclefyd heintus newydd, niwmonia annodweddiadol, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathniwmonia annodweddiadol, haint coronafirws, niwmonia firal, milhaint, Virus diseases of plants, niwmonia, clefyd Edit this on Wikidata
SymptomauPeswch, y dwymyn, methiant anadlu, cur pen, myalgia, blinder meddwl, hemoptysis, dolur rhydd, diffyg anadl, lymphopenia, anaemia, anosmia, ageusia, hypoxia, oerni, gorlenwi'r trwyn, anorecsia, cyfog, llid y cyfbilen, poen yn yr abdomen, niwmonia firal, niwed ir ymennydd, deliriwm, anhwylder seicotig, enseffalitis, enanthem, anallu edit this on wikidata
AchosSars-cov-2 edit this on wikidata
Dull trosglwyddoTrosglwyddiad drwy'r aer, heintiad defnynnol, trosglwyddiad drwy gyffyrddiad, trosglwyddiad uniongyrchol, trosglwyddiad drwy chwydu, haint yn y llygad edit this on wikidata
Dyddiad darganfodRhagfyr 2019 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Erthygl am yr haint a achoswyd gan SARS-CoV-2 yw hon.
Am y firws penodol a achosodd yr epidemig, gweler SARS-CoV-2.
Am y grŵp o erthyglau mae'r firws yn perthyn iddo, gweler: Coronafirysau
Am y pandemig cyfoes, gweler yr erthygl Pandemig COVID-19.

Clefyd heintus a ddaeth i'r amlwg yn Rhagfyr 2019 yw COVID-19 sy'n fyr am "coronavirus disease 2019"; bathiad Cymraeg - y Gofid Mawr[1]. Gellir olrhain yr achos cyntaf nôl i 17 Tachwedd 2019 yn Hubei.[2] Y firws sydd wrth wraidd yr haint yw'r SARS-CoV-2, ac wrth i'r clefyd yma ymledu drwy'r byd, esgorodd ar bandemig coronafeirws 2019–20. Erbyn 30 Mehefin 2020 roedd dros 1,500 wedi marw yng Nghymru, dros 43,500 drwy wledydd Prydain a thros 505,000 yn fyd-eang.[3][4].

Canllaw ar wefannau trenau; 27 Mawrth 2020.

Canfuwyd y clefyd yn gyntaf yn 2019 yn Wuhan, Tsieina, ac ers hynny mae wedi lledaenu’n fyd-eang, gan arwain at bandemig.

Mae symptomau cyffredin yn cynnwys twymyn (gorboethi, peswch ac anhawster anadlu, gyda phoen yn y cyhyrau, fflem ac fel arfer, dolur gwddf. Er bod mwyafrif yr achosion yn arwain at symptomau ysgafn, mewn rhai achosion ceir niwmonia difrifol ac organau'r corff yn methu.[5][6][7][8]

Mae cyfradd y marwolaethau allan o'r holl achosion a ddiagnosiwyd ar gyfartaledd yn 3.4%. Ceir cryn amrywiaeth, gyda 0.2% yn y rhai iau nag 20 oed, i oddeutu 15% yn y rhai dros 80 oed.[9][10] Fel arfer, mae'r haint yn cael ei ledaenu o un person i'r llall trwy ddefnynnau heintus yn cael eu hanadlu, ee drwy besychu neu disian. Mae'r amser rhwng dod i gysylltiad â symptomau a'r symptomau yn ymddangos, yn gyffredinol, rhwng dau a 14 diwrnod, gyda phum diwrnod ar gyfartaledd.[11][12]

Symptomau

Cyfradd y symptomau[13]
SymptomauCanran
Twymyn87.9%
Peswch sych67.7%
Gorflinder38.1%
Mwcws mewn poer33.4%
Diffyg anadl18.6%
Poen yn y cyhyrau a'r/neu'r cymalau14.8%
Dolur gwddw13.9%
Cur pen13.6%
Oerni11.4%
Teimlo'n sâl neu'n chwydu5.0%
Trwyn llawn4.8%
Dolur rhydd3.7%
Haemoptysis0.9%
cyfbilen gorlawn (Conjunctival congestion)0.8%

Mae llawer yn datblygu symptomau tebyg i ffliw gan gynnwys twymyn, peswch, a diffyg anadl. Yn llai cyffredin, gellir gweld symptomau anadlu fel tisian, trwyn yn rhedeg, neu ddolur gwddf. Gwelir symptomau fel cyfog, chwydu a dolur rhydd mewn nifer bychan o achosion, ac yn rhai o'r achosion cychwynnol yn Tsieina gwelwyd symptomau cardiaidd yn unig, fel tyndra'r frest a chrychguriadau (palpitations).[14] Mewn rhai achosion eithafol, gall y clefyd ddatblygu i niwmonia, methiant aml-organau, a hyd yn oed marwolaeth.

FirwsCyfnod Deor
(cyfartaledd; mewn dyddiau)
COVID-192-14 (amcang.)
SARS2-7
MERS2-14
Ffliw moch1-4
Y ffliw7
Cyfarwyddiadau syml pedwar cam: sut i wisgo offer amddiffynnol personol

Fel sy'n gyffredin â heintiau, ceir cyfnod o oedi rhwng yr adeg pan fo'r person wedi'i heintio â'r firws a'r adeg pan fyddant yn datblygu symptomau; gelwir y cyfnod hwn yn "gyfnod deori". Y cyfnod deori ar gyfer COVID-19 fel arfer yw pump i chwe diwrnod ond gall amrywio o ddau i 14 diwrnod. Gellir cymharu'r cyfnod dear hwn gyda chyfnod deor firysau eraill:[15]

Cyfarwyddiadau dwyieithog gan Lywodraeth Cymru a GIG ar sut i ddeilio gyda'r fferyllydd.

Mae symptomau plant yn llawer mwynnach. Dangosodd adroddiad gan Ganolfan Tsieineaidd ar gyfer Rheoli ac Atal Clefydau, fod un o bob pedwar plentyn a brofodd yn bositif yn parhau heb unrhyw symptom, ar wahân i symptomau mwyn, megis peswch, 'erythema ffaryngeall' a thwymyn.[16]

Atal yr haint

Ymhlith y mesurau a argymhellir i atal haint mae golchi dwylo'n aml, cadw pellter oddi wrth eraill, a pheidio â chyffwrdd yr wyneb. Argymhellir defnyddio masgiau ar gyfer y rhai sy'n amau bod y firws arnynt a'r rhai sy'n rhoi gofal, ond nid y cyhoedd.[17] Nid oes brechlyn na thriniaeth gwrthfeirysol benodol ar gyfer COVID-19. Mae rheolaeth yn cynnwys trin symptomau, gofal, ynysu a mesurau arbrofol.[18][19]

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Cyfeiriadau