Coleg Green Templeton, Rhydychen

coleg ym Mhrifysgol Rhydychen
Coleg Green Templeton, Prifysgol Rhydychen
Sefydlwyd2008
Enwyd ar ôlCecil Howard Green a Syr John Templeton
LleoliadWoodstock Road, Rhydychen
Chwaer‑GolegColeg Sant Edmwnd, Caergrawnt
PrifathroDenise Lievesley
Is‑raddedigion100[1]
Graddedigion446[1]
Gwefanwww.gtc.ox.ac.uk

Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Rhydychen yw Coleg Green Templeton (Saesneg: Green Templeton College). Cafodd ei greu yn 2008 pan unwyd Coleg Green a Choleg Templeton; dyma'r cyfuniad cyntaf o'i fath yn hanes modern y Brifysgol

Coleg Green

Sefydlwyd Coleg Green ym 1979. Cafodd ei enwi ar ôl ei brif gymwynaswyr, Dr Cecil Howard Green, sylfaenydd y cwmni Texas Instruments, a'i wraig, Dr Ida Green.

Coleg Templeton

Sefydlwyd Coleg Templeton ym 1965 fel Oxford Centre for Management Studies (Canolfan Astudiaethau Rheoli Rhydychen). Ym 1983 rhoddodd Syr John Templeton cryn swm o arian i'r canolfan er mwyn codi safonau rheoli ym Mhrydain. Wedyn cafodd y canolfan ei ailenwi yn Goleg Templeton er anrhydedd iddo.

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am Rydychen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.