Prifysgol Rhydychen

prifysgol yn Rhydychen, Lloegr

Prifysgol yn Rhydychen, Lloegr, a'r brifysgol hynaf yn y byd Saesneg ydy Prifysgol Rhydychen (Saesneg: University of Oxford). Sefydlwyd y brifysgol rywbryd tua diwedd yr unfed ganrif ar ddeg, ond nid yw'r union ddyddiad yn glir. Mae Prifysgol Rhydychen yn dilyn y gyfundrefn golegol, lle bydd myfyrwyr yn perthyn i golegau annibynnol, ond yn cael eu haddysgu'n ganolog mewn darlithoedd a drefnir gan y Brifysgol. Mae Prifysgol Caergrawnt hefyd yn dilyn y gyfundrefn hon, a cheir perthynas glòs (er cystadleuol) rhwng y ddwy brifysgol. Mae'n aelod o'r League of European Research Universities.

Prifysgol Rhydychen
ArwyddairDominus illuminatio mea Edit this on Wikidata
Mathprifysgol golegol, exempt charity, prifysgol gyhoeddus, sefydliad addysg uwch, sefydliad addysgol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1096 Edit this on Wikidata
NawddsantFrithuswith Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolRhydgrawnt, ELIXIR UK Edit this on Wikidata
LleoliadRhydychen, Swydd Rydychen Edit this on Wikidata
SirRhydychen Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.755°N 1.255°W Edit this on Wikidata
Cod postOX1 2JD Edit this on Wikidata
Map
Prifysgol Rhydychen
University of Oxford
Arfbais Prifysgol Rhydychen
Enw LladinUniversitas Oxoniensis
ArwyddairDominus Illuminatio Mea
Arwyddair yn GymraegYr Arglwydd yw fy Ngoleuni
SefydlwydTystiolaeth o ddysgu ers 1096[1]
MathCyhoeddus
Gwaddol£3.6 biliwn (2006, yn cynnwys y colegau)[2]
CanghellorY gwir fonheddig Arglwydd Patten o Barnes
Is-ganghellorAndrew Hamilton
Myfyrwyr19,486[3]
Israddedigion11,300[3]
Ôlraddedigion7,380[3]
Lleoliad,
Lliwiau     Glas Rhydychen[4]
Sgarff:     
TadogaethauIARU
Grŵp Russell
Grŵp Coimbra
Europaeum
EUA
LERU
Gwefanhttp://www.ox.ac.uk/

Mae Prifysgol Rhydychen yn un o sefydliadau academaidd uchel ael y Deyrnas Unedig, ac mae e yn y lle cyntawedi ymddangos yn nhabl prifysgolion gorau papur newydd y Guardian am chwech blynedd yn ddilynol (hyd at 2011).[5]

Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yw cymdeithas Gymraeg y Brifysgol.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Rydychen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am brifysgol neu addysg uwch. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.